Codi dau dy par ynghyd a gwaith cysylltiol.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Jason Wayne Parry
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Codi dau dŷ pâr ynghyd â gwaith
cysylltiol.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi’r
bwriad i godi dau dŷ pâr ynghyd â gwaith cysylltiol sy’n cynnwys llecynnau
parcio a chodi ffens bren 1.8m o uchder o amgylch cyrion y safle. Bwriedir creu
llecynnau parcio ar gyfer 2 gar i bob tŷ gyferbyn â’r talcenni gyda
mynedfa i’r safle fel yn bresennol oddi ar ffordd breifat sydd ym mherchnogaeth
yr ymgeisydd.
Saif y safle ar lecyn o
dir sydd yn ffurfio rhan o gwrtil preswyl 4 Rhosbodrual sydd o fewn ffin ddatblygu Caernarfon yn unol
â Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd a’r Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig.
Cyfeiriwyd at y polisïau
cynllunio perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau yn yr adroddiad ynghyd ag
ymateb gan asiant yr ymgeisydd i sylwadau gwrthwynebwyr sydd wedi eu nodi ar y
ffurflen sylwadau ychwanegol.
Ystyriwyd bod y bwriad fel a gyflwynwyd ar ffurf
cais llawn yn dderbyniol mewn egwyddor ac o safbwynt mwynderau gweledol na
fyddai’n creu strwythurau anghydnaws yn y strydlun ac yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio â’r polisïau perthnasol.
Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a oedd yn seiliedig ar:
·
Problemau
parcio presennol
·
Gor-ddatblygiad
·
Addasrwydd
y system garthffosiaeth
·
Rhwystro
mynediad i Haven
·
Amharu’n
andwyol ar fwynderau trigolion lleol
Nodwyd bod Cynllun Datblygu Unedol
Gwynedd yn datgan defnyddir dwysedd adeiladu o 30 uned o leiaf yr hectar i safleoedd
datblygiadau preswyl er mwyn gwneud y defnydd gorau o dir. Fodd bynnag, gall y ffigwr hwn amrywio o
safle i safle ar sail cyfyngiadau ffisegol neu gymeriad cyffredinol ardal. Yn yr achos hwn, daw dwysedd datblygu’r safle
ar gyfer 2 dy i oddeutu 33 tŷ’r hectar sydd yn
cyfateb i’r gofynion perthnasol, ac felly ni fyddai gor-ddatblygiad
o’r safle hwn.
O safbwynt colli golau i eiddo Haven, nodwyd bod y 2 dŷ wedi cael eu gosod yn ôl yng
nghefn y safle fel bod edrychiadau gogleddol y 2 dy wedi eu gosod yn ôl o
edrychiad gogleddol Haven. Er cydnabyddir bydd rhywfaint o groesi rhwng
talcen Haven a thalcen un o’r tai arfaethedig gan
gydnabod bydd rywfaint o gysgodi yn anochel credir na fydd o raddfa sylweddol
nac arwyddocaol.
Lleolir y safle mewn ardal breswyl sydd
gyfagos â ffordd sirol dosbarth 1, er cydnabyddir gall lleoli 2 dy ychwanegol
ar y safle greu elfen o aflonyddwch, credir na fydd o raddfa sylweddol uwch nag
sydd eisoes yn bodoli yn nalgylch safle’r cais.
Nodwyd bod bwriad hefyd i godi ffens bren ar hyd ymylon gorllewinol,
gogleddol a dwyreiniol y safle er budd preifatrwydd trigolion lleol. Cadarnhawyd hefyd gan asiant yr ymgeisydd
bydd y coed a’r llwyni presennol yn cael eu cadw.
Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth,
ceir mynediad i’r safle oddi ar ffordd breifat sydd ym mherchnogaeth yr
ymgeisydd a bwriedir darparu 4 llecyn parcio ar y safle ar gyfer y 2 dŷ
arfaethedig. Nid oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r cais ar sail diogelwch ffyrdd ac
ystyriaeth y ddarpariaeth parcio ynghyd â’r ffaith mai ffordd breifat sy’n
gwasanaethu nid yn unig y safle ond hefyd anheddau eraill gerllaw.
Pwysleisiwyd bod y gwrthwynebiadau wedi
derbyn ystyriaeth lawn fel rhan o’r asesiad ac yn dilyn ystyriaeth o’r oll
faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i’r polisïau
na chanllawiau perthnasol. Argymhellwyd
felly i ganiatáu’r cais.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Penderfynwyd: Caniatáu yn ddarostyngedig
i’r amodau isod:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol
â’r cynlluniau.
3. Llechi naturiol.
4. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir a dim ffenestri ychwanegol
5. Diogelu’r’ coed a gwyros ar
ymylon y safle.
6. Darpariaeth parcio.
7. Cytuno gyda deunyddiau
allanol.
8. Amod Dŵr Cymru.
Dogfennau ategol: