Agenda item

Codi annedd newydd ar gyfer gweithiwr amaethyddol hanfodol ynghyd ag adeilad amaethyddol a mynedfa gerbydol.

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Codi annedd newydd ar gyfer gweithiwr amaethyddol hanfodol ynghyd ag adeilad amaethyddol a mynedfa gerbydol.

        

(a)              Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais yng nghefn gwlad agored y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu gyda’r bwriad i godi byngalo 3 llofft ynghyd â sied amaethyddol ac i addasu’r fynedfa amaethyddol bresennol oddi ar y lon ddi-ddosbarth sy’n mynd heibio’r safle.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad ac fe nodwyd y derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol gan yr Uned Draenio Tir a oedd wedi ei nodi ar y ffurflen sylwadau ychwanegol.

 

O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd mai dim ond mewn rhai amgylchiadau arbennig iawn y caniateir tai newydd mewn safleoedd cefn gwlad, h.y. pan fod angen tŷ i gartrefu gweithiwr llawn amser neu un a gyflogir yn bennaf mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth neu ddiwydiant gwledig arall sy’n seiliedig ar ddefnyddio’r tir.

 

Tynnwyd sylw at ofynion Nodyn Cyngor Technegol 6 a pholisi CH9 y Cynllun Datblygu Unedol sy’n gofyn am wybodaeth a phrofion yn ymwneud â’r materion isod:

·         Y Prawf swyddogaethol

·         Y Prawf Amser

·         Y Prawf Ariannol

·         Prawf Anheddau Amgen

 

            a chydnabuwyd bod y datblygiad yn cwrdd â’r gofynion uchod.

 

O safbwynt dyluniad a mwynderau gweledol, ystyriwyd bod y cynllun am y tŷ yn un cymharol fychan ac anymwthiol.  Ar y cyfan, credir bod dyluniad y tŷ a’r sied yn eithaf disylw ac yn adlewyrchu dyluniad cyfredol adeiladau o’r fath yng nghefn gwlad Cymru.  Er derbynnir bod y lleoliad yn eithaf amlwg ac y byddai’r datblygiad newydd yn weladwy o fannau cyhoeddus gerllaw, ystyriwyd nad yw’r safle o fewn dirwedd ddynodedig ac y byddai’r datblygiad yn un nodweddiadol o’r ardal hon.

 

Er gwaethaf gwrthwynebiad gan breswylwyr eiddo Tyddyn Hir, sef y tŷ agosaf at y safle, oherwydd y pellter sydd rhwng y safle ynghyd â’r ffaith bod gwrychoedd aeddfed rhwng y safleoedd hyn, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed uniongyrchol annerbyniol i fwynderau preswylwyr Tyddyn Hir.

 

Nodwyd bod y ffordd sy’n gwasanaethu’r safle yn un eithaf cul.  Fodd bynnag, er y byddai’r bwriad yn debygol o angen symudiadau trafnidiaeth amaethyddol mewn perthynas â’r gweithgareddau ar y safle, ni thybir y byddai rhain yn ddim gwaeth na’r lefel traffig a ddisgwylir gweld mewn perthynas â’r busnes amaethyddol petai’r tir yn cael ei ffermio gan berchennog yn byw tu hwnt i Waen Wen.  Cadarnhawyd bod yr Uned Trafnidiaeth wedi datgan eu bodlonrwydd gyda’r cynllun.

 

Yn dilyn asesiad o’r oll ystyriaethau cynllunio perthnasol, gan gynnwys materion a godwyd gan wrthwynebwyr, ystyriwyd bod y datblygiad yn addas ar gyfer y safle ac argymhellwyd i’w ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn yr adroddiad ynghyd ag amod Uned Draenio Tir.

 

 

(b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

• O'r farn bod y datganiad ym mharagraff 5.3 o adroddiad y swyddog cynllunio yn sylfaenol ddiffygiol
• bod canllawiau arfaethedig o Gynllun Datblygu ar y Cyd sydd hyd yma heb eu mabwysiadu yn dal yn cyfeirio at ganllawiau TAN6 ar gyfer datblygiadau mewn cymunedau gwledig
• Bod y cais yn methu ar ddau brawf a amlinellwyd gan TAN6;

           

1.    Prawf Swyddogaethol  – mae’r cais ar gyfer adeilad amaethyddol mawr ynghyd ag annedd menter wledig ar sail fod angen swyddogaethol.  Dim ond 6 hectar o dir sydd i’r safle ac nid yw ger y fenter ffermio o 97 hectar o dir ac mae’n cynrychioli llai na 6% o’r ardal busnes.  Mae’r gwerthusiad amaethyddol yn cyfeirio at berchnogaeth a rheolaeth dros 500 o wartheg.  Gall y sied arfaethedig ddal 40 o wartheg sy’n cynrychioli llai na 8% o’r da byw.  Ar sail hyn rydym yn dadlau nad yw’r safle yn gallu cwrdd â’r angen swyddogaethol a nodwyd gan fod y 6 hectar yn rhan ansylweddol o’r busnes.  Golyga defnydd arfaethedig y sied y bydd cynnydd mewn traffig cludo da byw, danfoniadau symiau mawr o gyflenwadau angenrheidiol i’r fenter amaeth i’r safle bach yma ar lorïau HGV - a bydd hyn wedyn yn creu angen sylweddol am gludiant i’w hanfon ymlaen i safleoedd eraill gan felly greu canolfan ddosbarthu yn ddiarwybod.  Credwn fod yr ongl 105 gradd i’r gyffordd ar gyfer ffordd Pentir i Gaerhun sydd â lled ffordd o 20tr, yn annigonol i lorïau HGV heb iddynt achosi niwed sylweddol i’r ffordd a’r ochr ac mae’r tarmac mewn mannau ar hyd y ffordd ddynesu yn annigonol i ddefnydd amaethyddol trwm, rheolaidd.  

2.    Llety amgen -   Adnabu arolwg eiddo presennol Right Move fod dau dŷ tair llofft yn yr ardal ar werth am dros £185K.  Yn unol â chanllaw TAN 6, fe wnaeth chwiliad ehangach o radiws pellach o dair milltir ddangos fod 116 o dai yn is na £250k gyda 58 o dan  £150K. Ar sail hyn dadleuwn fod y cais yn methu o dan y prawf llety amgen.

3.    Gwrthwynebir y cais gan nad yw’r safle yn un cynaliadwy a dylid ei wrthod.

 

 

(c)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Ei fod yn denant ar fferm nid nepell o safle’r cais a bod y cae yn ei feddiant a’i fod yn  defnyddio’r tir hefo tir Pen Hower a chaeau eraill ar gyfer amaethu

·         Ei fod wedi dechrau amaethu allan o ddim ers nifer o flynyddoedd a ffermio wedi bod yn ei waed erioed

·         Nad oedd ganddo ef, ei briod a’i ddwy ferch fach ddim cartref ond yn byw mewn carafán sydd yn bell o fod yn ddelfrydol ac wedi byw yno ers 3 blynedd a chyflwynir y cais i gael cartref amaethyddol

·         Nad oedd modd prynu tai cyfagos gan bod prisiau yn uchel tu hwnt a thu draw i’w gallu

·         Bod natur amaethyddiaeth yn ofynnol i fyw mor agos a phosibl i’r fferm

·         Tra’n derbyn bod cymdogion wedi gwrthwynebu am wahanol resymau roedd  yr adran gynllunio wedi ymateb i’r gwrthwynebiadau

·         Ei fod yn enedigol o’r ardal ac yn un o’r ychydig rai sydd yn ffermio yn lleol gan bod tiroedd wedi eu gwerthu neu ar osod ar rent

·         Bod amaethu yn bwysig er lles yr ardal ac yn sicr i gynnal Cymreictod cefn gwlad Cymru 

 

(d)  Nodwyd bod yr Aelod lleol yn gefnogol i’r cais.

 

            (dd)  Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

 

         Penderfynwyd:             Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :

 

Amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Gweithiwr amaethyddol yn unig i drigo yn y

3.         Gwaith yn unol â’r cynlluniau

4.         Deunyddiau / Llechi ar do'r

5.         Tŷnnu hawliau cyffredinol a ganiateir

6.         Defnydd amaethyddol yn unig i'r sied

7.         Rhaid codi'r sied cyn codi'r

8.         gwaredu dŵr arwyneb yn unol a gofyion TAN 15 a rheolaeth llygredd

9.         Amodau rhaglen waith lliniaru Archeolegol

 

Nodiadau

Nodyn Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlygu'r rheoliadau perthnasol ynghylch ymdrin â dŵr aflan a rheolaeth llygredd.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: