Agenda item

Codi ffatri/llaethdy gaws ynghyd a caffi a ardal ymwelwyr atodol.

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

            Codi ffatri / llaethdy gaws ynghyd â chaffi ac ardal ymwelwyr atodol.

 

 

(a)  Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio  ar gefndir y cais, gan nodi’r bwriad i godi ffatri cynhyrchu caws / llaethdy, gan gynnwys caffi atodol a chyfleuster ymwelwyr, ar ystâd ddiwydiannol ddynodedig Bryn Cegin, Bangor.  Fe fyddai’n gyfleuster newydd yn cynnwys adeilad deulawr ynghyd â chyfres o seilos i storio llefrith a dŵr.  Rhennir gweddill y safle yn un ardal ar gyfer llwytho a gweithgaredd busnes, gofod parcio ar gyfer 135 cerbyd ac ardal tirlunio o amgylch ffiniau’r safle.

 

            Cyfeiriwyd at weddill manylion y bwriad yn yr adroddiad.  

 

O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y polisïau sy’n adnabod Stad Bryn Cegin fel safle diwydiannol i’w amddiffyn a bod y cais am ddefnydd diwydiannol yn nosbarth defnydd B2 yn unol â’r hyn anogir gan y polisïau.  Credir bod yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol ar y safle hwn ond bod nifer o ystyriaethau polisi ychwanegol i’w hystyried.

 

         Er bod y datblygiad yn fawr, fe fyddai’r adeilad newydd o faint, dyluniad a defnyddiau a fyddai’n ddisgwyliedig oddi wrth adeilad diwydiannol cyfoes ar stad sylweddol ei faint, ac felly ystyrir y byddai’n gweddu i’r lleoliad.  Byddai’r tirlunio yn helpu lliniaru effeithiau gweledol y datblygiad a chredir na fyddai’n cael effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol y gymdogaeth.

 

         Cyfeiriwyd at y ffurflen sylwadau hwyr a oedd yn nodi bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau cefnogaeth yn ddarostyngedig i amodau ac felly ystyrir y gall y bwriad fod yn dderbyniol o safbwynt agweddau o’r polisïau sy’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau gymdogaeth.

 

         Tynnwyd sylw bod materion trafnidiaeth, draenio tir, archeolegol a bioamrywiaeth oll yn dderbyniol.

 

         O safbwynt yr economi a materion ieithyddol, tynnwyd sylw bod yr asesiad yn gadarnhaol gan greu cyfleoedd gwerth uchel. 

 

         Nodwyd nad oedd gwrthwynebiad i siop na chaffi atodol i’r prif ddefnydd ac y gellir cynnwys amodau ar gyfer hyn.

 

         Yn dilyn asesu’r holl ystyriaethau, credir bod y datblygiad yn ddefnydd priodol o safle a glustnodwyd ar gyfer defnyddiau o’r fath ac argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn unol ag amodau priodol gan gynnwys amodau ychwanegol Uned Gwarchod y Cyhoedd  yn ymwneud â system awyru / echdynnu, lefelau sŵn ac oriau gweithredu.

 

(b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd  yr ymgeisydd

 

·         Mai menter ydoedd gan grŵp o ffermwyr ifanc a’i fod yn un o sylfaenwyr y fenter

·         Bod y fenter yn arbenigo mewn gwneud a gwerthu caws

·         Bod safle Bryn Cegin yn ganolog i Ogledd Cymru ac i’r perwyl yn gychwyn da ar gyfer y fenter

·         Y byddai’r ffatri yn defnyddio technoleg adnewyddol a bod y sustem yn cwrdd â’r gofynion

·         Y byddir yn creu oddeutu 20 swydd ar y safle

·         Y byddai’n agosach at y defnyddwyr

·         Hyderir y byddai amaethwyr yn cael gwell pris am eu llaeth gyda’r diwydiant yn symud ymlaen

 

(c)     Nododd yr Aelod Lleol ei gefnogaeth i’r datblygiad gan nodi:

 

·         Bod y safle gwag enfawr o fewn ei ward ers oddeutu 10 mlynedd

·         Bod y llywodraeth wedi buddsoddi yn is-adeiledd y safle

·         Bod lleoliad y safle yn wych ar gyfer yr A55

·         Yn lleol croesawir tenant i’r safle er mwyn creu cyflogaeth

 

         (ch)         Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(d)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

 

·         Gwych gweld pobl ifanc yn mentro a bod mwy o fentrau fel Bryn Cegin i’w croesawu

·         Llongyfarchwyd yr ymgeiswyr am fentergarwch o’r fath a dymunwyd pob lwc i’r fenter i’r dyfodol

·         Tra’n cefnogi entrepreneuriaeth, hyderir na fyddai’r datblygiad yn effeithio ar lwyddiant ffatri laeth / caws arall sy’n bodoli yn y Gogledd

 

   (d)        Mewn ymateb i’r uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd cystadleuaeth yn fater i gynllunio.

 

 

            Penderfynwyd:          Caniatáu’r cais gyda’r amodau canlynol:

 

Amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Gwaith yn unol â’r cynlluniau

3.         Deunyddiau / Lliw

4.         Amod Dŵr Cymru

5.         Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad Rhywogaethau a'u Diogelir

6.         Rhaid i’r siop / cyfleuster ymwelwyr fod yn israddol i’r defnydd diwydiannol ac fe gyfyngir yr arwynebedd llawr manwerthu i'r hyn a ddangosir yn y cynlluniau a gyflwynwyd

7.         Dim ond nwyddau a’u cynhyrchir yn yr uned ddiwydiannol gaiff eu gwerthu yn y siop

8.         Cytuno cynllun goleuo

9.         Amod tirlunio

10.       manylion system awyru / echdynnu, lefelau sŵn, rheoli oriau gweithredu. 

 

Nodiadau

Cyfoeth Naturiol Cymru

Dŵr Cymru

 

 

Dogfennau ategol: