Agenda item

Newid defnydd llawr cyntaf yr adeilad o fflat 4 lloft i llety myfyrwyr gyda 5 lloft ynghyd a codi estyniad a newidiadau allanol.

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Steve Collings

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

         Newid defnydd llawr cyntaf yr adeilad o fflat 4 lloft lety myfyrwyr gyda 5 lloft ynghyd â chodi estyniad a newidiadau allanol

 

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad presennol yn wag ar ôl i’r defnydd olaf fel tŷ tafarn a fflat uwchben ddod i ben yn ddiweddar.  Byddai’r llety yn cynnwys 5 ystafell wely, 2 ystafell ymolchi ac un gegin ac ystafell fwyta agored ar y llawr cyntaf.

           

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol yn yr adroddiad ynghyd â’r ymatebion i’r broses ymgynghori.    

 

O safbwynt egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw nad oedd polisi penodol yn y Cynllun Datblygu Unedol yn ymdrin gyda datblygiad o’r math hwn. Er hynny, bod y bwriad yn cydymffurfio gydag anghenion polisi C3 sy’n ymwneud â defnyddio safleoedd a ddefnyddiwyd o’r blaen.

 

Nodwyd y byddai’n rhaid ystyried teilyngdod y cais yn erbyn y sefyllfa bresennol, sef parhad i ddefnydd ar y llawr gwaelod ac addasu uned byw 4 llofft presennol i lety myfyrwyr gyda 5 llofft.  Tra’n cydnabod bod datblygiadau llety myfyrwyr yn bryder ym Mangor, ystyrir bod graddfa’r cais yn gymharol fach i gymharu gyda cheisiadau blaenorol ac felly yn annhebygol o gael effaith niweidiol na sylweddol ar y sefyllfa llety myfyrwyr nac ar stoc dai’r ddinas.  Er mwyn sicrhau trefniadau boddhaol ar gyfer gosod yr unedau, gellir gosod amod i gytuno’r cytundebau lletya o flaen llaw gyda’r awdurdod cynllunio lleol.

 

Tynnwyd sylw bod y fflat presennol yn darparu 4 ystafell wely gyda’r bwriad i ychwanegu un ystafell wely ac y byddai’n annhebygol i achosi effaith sylweddol gwahanol.  Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad ac na fyddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau preswyl.

 

O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr Uned Drafnidiaeth o ran diogelwch ffyrdd na darpariaeth parcio.

 

Yn dilyn asesu’r holl ystyriaethau cynllunio perthnasol, credir bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a pholisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol, argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau priodol.

 

(b)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

 

·         Bod yn rhaid cadw golwg ar y math yma o ddarpariaeth a theimlwyd bod y bwriad yn orthrymus o ystyried mai un cegin fyddai ar gyfer 5 uned a’u bod yn gwasgu mwy o unedau ar gyfer gwneud elw

·         a oedd angen rhagor o unedau ar gyfer myfyrwyr

·         pryder ynglŷn â diogelwch yn nhermau mynediad tân o ystyried nad oedd sylwadau wedi eu derbyn gan y gwasanaethau argyfwng tân / heddlu   

·         Bod cyfleuster un cegin rhwng 5 uned yn eithaf  derbyniol, ac o safbwynt tân defnyddiwyd llawr uchaf yr adeilad yn y gorffennol yn rheolaidd ar gyfer cynnal cyngherddau  i oddeutu 70 o unigolion

 

            Penderfynwyd:          Caniatáu gydag amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Unol â’r cynlluniau a’r Asesiad Canlyniad Llifogi

3.         Gorffeniad allanol i gydweddu a’r adeilad presennol

4.         Cytuno cytundebau lletŷa i gynnwys myfyrwyr yn unig, pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd a chyfyngiad defnydd o gar.

 

Nodyn Dŵr Cymru

Nodyn canfod ystlumod

 

 

Dogfennau ategol: