Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi
eu cadw yn
ol ar wahan
i fynediad i godi dau uned manwerthu
di-fwyd (dosbarth A1), gwesty 60 ystafell wely (dosbarth C1) gyda ty bwyta/caffi
cyfannol ategol ynghyd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys creu mannau
parcio ag ardal gwasanaethau, mynediad gwasanaethau newydd, diwygiadau i fynedfa safle bresennol ynghyd a thirlunio ategol.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais amlinellol
gyda’r holl faterion wedi eu
cadw yn ôl
ar wahân i fynediad i godi dwy uned fanwerthu
di-fwyd (Dosbarth A1), gwestŷ 60 ystafell wely (Dosbarth C1) gyda thŷ bwyta/caffi cyfannol ategol ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys creu
mannau parcio ac ardal gwasanaethau, mynediad gwasanaethau newydd, diwygiadau i fynedfa safle bresennol
ynghyd â thirlunio ategol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r
cais ar hyn
o bryd yn wag ac wedi’i leoli ar
ran o Ystad Ddiwydiannol Penamser, Porthmadog. O amgylch y safle ceir amryw
o fusnesau a defnydd diwydiannol gan gynnwys gorsaf betrol, masnachwr adeiladu a gwestŷ. Tynnwyd sylw at weddill manylion y cais yn yr adroddiad
ynghyd â’r sylwadau ar y ffurflen
sylwadau hwyr. O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod nifer o bolisiau yn berthnasol oherwydd
ei leoliad a dynodiadau tir. Nodwyd bod hanes cynllunio yn berthnasol iawn
i’r safle, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer
adeiladu dwy uned manwerthu di-fwyd a chanolfan arddio atodol. Cychwynwyd ar y datblygiad trwy greu mynediad
ar y safle i gerbydau ac o ganlyniad diogelwyd y caniatâd. Yn 2012, rhoddwyd caniatâd cynllunio i godi hyd at 5 uned manwerthu
di-fwyd ac un uned fwyd a diod ac uned fyw i reolwr. O ystyried bod un caniatâd wedi cael
ei ddiogelu a bod y llall yn parhau
i fod mewn grym, ystŷriwyd y gellir rhoi cryn
bwys i hyn fel ystyriaeth gynllunio berthnasol. O safbwynt dynodiad y safle, er bod ystyriaethau’r polisi wedi newid
ers rhoi’r caniatâd blaenorol, fe all y safle gael ei ddatblygu
o dan y caniatad presennol sydd wedi’i ddiogelu ac ystyrir bod hyn yn sefyllfa wrth
gefn realistig. O safbwynt yr unedau
manwerthu arfaethedig nid bwriad y cais
ydoedd cynyddu’r arwynebedd llawr manwerthu y caniatwyd yn flaenorol. O ganlyniad ‘roedd y cais yn
annhebygol o gael ardrawiad andwyol mwy ar hyfywedd
a bywiogrwydd canol y dref na’r sefyllfa
wrth gefn gyfredol. Pe caniateir y cynllun, ystyrir y byddai’n rhesymol ac yn angenrheidiol i roi amod ar
y ddwy uned i’w hatal rhag
cael eu rhannu’n
unedau llai ac i gyfyngu ar yr
arwynebedd llawr manwerthu net. Byddai hefyd angen
amod i gyfyngu ar ddefnydd manwerthu di-fwyd. Tynnwyd sylw bod paragraffau 5.29 i 5.33 yn yr adroddiad yn
asesu’r elfen gwesty ac nad oedd
yr elfen yma o’r bwriad
yn groes i bolisïau perthnasol. Nodwyd ymhellach bod paragraffau 5.34 i
5.42 yn ymdrin â materion llifogydd a draenio ac o roi ystyriaeth deg i bolisïau a’r sefyllfa
wrth gefn parthed caniatâd sy’n parhau i fod
mewn grym ac sydd wedi’i warchod,
ystyriwyd fod y cais yn y lleoliad
hwn yn dderbyniol
yn ddarostyngedig i amodau perthnasol. Noda’r adroddiad bod ystyriaeth briodol a chasgliadau clir a rhesymol wedi ei rhoi
i fwynderau, effeithiau priffyrdd, materion ieithyddol a bioamrywiaeth ac yn dderbyniol ar
sail polisi, a ble nodir, drwy amod
neu drefniadau eraill priodol.
O’r casgliadau, cydnabyddir nad yw’r cynnig
yn cydymffurfio’n llwyr gyda pholisïau
Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd na gyda’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd. Ond
yn yr achos
hwn er hyn
bod yr hanes Cynllunio yn gorbwyso’r ystyriaethau
eraill.
Tynnwyd sylw bod cywirdeb i baragraff 6.1 yn yr adroddiad Gymraeg
i ddarllen “bod ystyriaethau
perthnasol yn bodoli sy’n dweud
fel arall gan gyfiawnhau rhoi caniatad Cynllunio serch y gwrthdaro gyda’r polisi”. Yn seiliedig ar yr
holl ystyriaethau Cynllunio
perthnasol, gan gynnwys gwrthwynebiadau a’r sylwadau a gyflwynwyd, ystŷriwyd bod y cais yn dderbyniol
ar argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd i’w ganiatau.
(b) Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd Asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod y datblygwr
(Morbaine Ltd) wedi bod yn ymwneud â’r
safle hwn ers dros 25 mlynedd
·
bod safle’r
cais wedi ei ystyried fel
datblygiad manwerthu gan nifer o fanwerthwyr
ond bod y sector yn anwadol
·
bod y datblygwr
wedi buddsoddi llawer o egni ac amser i adnabod y balans cywir o ddatblygiad ac felly bod y cynllun
yn cynrychioli cymysgedd hyfyw ar gyfer manwerthu
a gwesty
·
bydd defnydd y gwestŷ yn gallu cyfrannu
at gostau cychwynnol y datblygiad sydd oddeutu £1m
·
bod y datblygwr
wedi cydweithio’n agos gyda Chyfoeth
Naturiol Cymru i ddatrys unrhyw broblemau llifogydd a materion draenio
·
bod y datblygwyr
wedi cael cefnogaeth yr Aelod lleol a’r Cyngor Tref oherwydd gwelir yr angen i ddatblygu’r safle a hefyd y byddai’n cyfrannu at yr economi leol
ac yn creu swyddi llawn amser
parhaol
(c)
Nododd yr Aelod
lleol gefnogaeth i’r cais, gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol:
·
bod hanes
Cynllunio i’r safle
·
bod y Cyngor Tref yn gefnogol i’r
cais
·
awyddus i’r safle gael
ei ddatblygu ac o’r farn na
fyddai’n cael effaith
andwyol ar
ganol y dref ond yn hytrach
yn cael effaith
bositif ar y dref
·
bod angen
gwesty arall ym Mhorthmadog
·
byddai’n fodd o hybu’r dref
yn ei blaen
·
mai
at ddefnydd pobl y gwesty yn unig
fyddai’r bwyty / caffi
Anogwyd y Pwyllgor
Cynllunio i ganiatáu’r cais
a chymerodd y cyfle i ddiolch i’r swyddogion
Cynllunio am eu proffesiynoldeb
mewn ymdrin â’r cais hwn.
(ch) Cynigwyd ac eilwyd y cais.
(d)
Nododd Aelodau unigol y pwyntiau canlynol:
·
A fyddai modd ceisio dylanwadu
ar y datblygwr i ystyried bod pob arwydd ar y datblygiad
arfaethedig yn ddwyieithog
·
Pwysigrwydd bod y gwesty yn cyflogi
pobl lleol
·
Bod angen eglurder ar ddefnydd
y bwyty / caffi o safbwynt dibenion gwesteion y gwesty yn unig a / neu
unigolion eraill
Penderfynwyd: Caniatáu'r cais
yn ddarostyngedig i'r amodau a ganlyn:
1.
Amser
2.
Cyflwyno Materion a gedwir yn ôl
3.
Yn unol â chynlluniau cymeradwy
4.
Dŵr Cymru
5.
Amodau manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai
6.
Bydd gofod y caffi/bwyty yn
y gwesty'n cael ei ddefnyddio at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r gwesty yn unig.
7.
Lefel Llawr Gorffenedig
8.
Amodau mynediad priffyrdd
9.
Darparu ynys groesi
ar yr A497
10.
Bioamrywiaeth
Dogfennau ategol: