skip to main content

Agenda item

Codi annedd tri llawr ar wahan.

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Codi annedd tri llawr ar wahân

 

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd cymryd penderfyniad ar y cais uchod er mwyn cynnal ymweliad safle a bu i rai o aelodau’r pwyllgor ymweld â’r safle cyn y prif gyfarfod.  Bwriedir codi tŷ annedd tair ystafell wely gyda garej ddwbl ar lawr daear yr annedd gyda man troi yn cael ei ddarparu ar ran deheuol y safle, yn ogystal byddai darpariaeth ar gyfer dau le parcio oddi ar y ffordd stad i ogledd y safle.  Yn bresennol defnyddir y safle fel gardd ddomestig gyda Tŷ Mynach, sydd i’r de o’r safle ac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd.  Lleolir y safle o fewn ffin ddatblygu tref Abermaw ac fe ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol yn unol â pholisïau perthnasol.  Nodwyd bod y safle yn eithaf eang o ran ei faint gyda lefel isaf y safle yn sylweddol is na’r ffordd stad gerllaw, ac o ganlyniad byddai’r annedd yn edrych fel eiddo deulawr o’r ffordd stad.  Ystyriwyd y byddai uchder bwriedig yr annedd i’w frig yn dderbyniol.  Derbyniwyd pryderon bod y datblygiad yn ormesol ei naws ac allan o gymeriad gyda thai eraill ar y stad, serch hynny ystyriwyd oherwydd y rhesymau a nodir yn yr adroddiad sy’n cyfeirio at uchder, lleoliad a thirweddu presennol nad oedd pryder i’r perwyl hwn.  Tynnwyd sylw at ymateb asiant yr ymgeisydd i’r pryderon ar y ffurflen sylwadau hwyr a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.  Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Ardudwy, gan fod y safle oddi fewn ardal / ffurf adeiledig tref Abermaw ni ystyrir y bydd effaith sylweddol ar y tirlun ehangach.  Ni ystyrir y byddai’r datblygiad yn achosi gor-edrych uniongyrchol annerbyniol i dai oddeutu 30 medr i ffwrdd ac ni ystyrir y byddai effaith ar gymeriad adeiladau rhestredig sydd wedi eu lleoli oddeutu 60m i ffwrdd.  Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad gan Uned Drafnidiaeth yn amodol ar gynnwys amodau a nodiadau perthnasol.  Mewn ymateb i ymgynghoriad nododd yr Uned Bioamrywiaeth nad oedd gwrthwynebiad i egwyddor y datblygiad os y cynhwysir amodau priodol.  Nodwyd bod y gwrthwynebiadau wedi derbyn ystyriaeth lawn fel amlinellir yn yr adroddiad.  Yn seiliedig ar yr holl faterion perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau, ni ystyrir bod y bwriad yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a chenedlaethol ac felly argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn yr adroddiad.

 

(b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd y gwrthwynebydd, ei bod yn gwrthwynebu ar ran ei mam sef perchennog Brookside a bod yr annedd arfaethedig o 3 llawr yn anaddas a’r lluniau yn gamarweiniol a ddim yn dangos lleoliad o’r agwedd deheuol sef yr ochr mwyaf sensitif.  Rhestrwyd y rhesymau canlynol o wrthwynebu yn unol â pholisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd 2001 – 2016:

 

  1. Effaith ar fwynderau eiddo cyfagos sef adeilad newydd 3 lefel yn ormesol ac yn effeithio nid yn unig ar eiddo Brookside ond yn ogystal ar Mynach a rhif 4 Bro Mynach.  Byddai’r adeilad, oherwydd ei uchder, yn goredrych gardd gefn, safle parcio a mynediad Brookside, gardd gefn ac agwedd gorllewinol Mynach
  2. Colli preifatrwyddni fyddai’r datblygiad yn sicrhau preifatrwydd yr eiddo cyfagos, gan y byddai 4 ffenestr yn goredrych 4 Bro Mynach a 3 ffenestr a drws yn goredrych  gardd gefn Brookside; dau falconi yn cael effaith ar Brookside a Bro Mynach. 
  3. Nid yw’r dyluniad yn parchu’r safle a’r cyffiniau o ran ansawdd, maint, ffurf ac agweddmae’r datblygiad yn mynd i gael effaith weledol sylweddol. Dylid sicrhau datblygiad newydd o safon uchel fydd yn gweddu hefo nodweddion cadarnhaol yr ardal leol. Nodwyd bod clwstwr o dai cyfagos yn gasgliad o dai cerrig llwyd pensaerniol arbennig sydd yn  adeiladau rhestredig Gradd II.  Teimlwyd nad oedd wedi ei  rendro yn gweddu.
  4. Bod nant yn llifo gerllaw a phryderwyd tra yn adeiladu’r arfaethedig y byddai perygl o orlifo.

 

Anogwyd yr ymgeisydd i gynnig cynllun sy’n gydnaws â’r safle.

 

 

(c)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         bod y safle yn isel o’i gymharu â thir ar yr ochr ogleddol lle adeiladwyd tai Stad Branksome

·         Pan ddatblygwyd y stad fe godwyd y tir ar ochr ogleddol y safle i fod yn lefel a ffordd y stad er mwyn sicrhau graddiant cywir i’r ffordd, sef Ffordd Bro Mynach

·         Bod y safle oddeutu 4 medr yn is na’r ffordd ac felly byddai 3 llawr ar y safle yn addas a derbyniol oherwydd isder y safle

·         Oherwydd bod y safle mor isel, byddai lefel crib y newydd, er yn 3 llawr, 3 medr yn is na lefel crib Arnant sef 2 lawr ar y ffin ddwyreiniol y safle a ganiatwyd yn ddiweddar gan y Cyngor er gwaethaf y gwrthwynebiadau gan gynnwys gwrthwynebiad gan berchennog Brookside

·         Bod y safle ddwywaith lled lleiniau gwreiddiol y stad

·         Bod y prif falconi ar y llawr canol

·         Bod y arfaethedig wedi ei ddylunio i gynnwys ffenestri yn y llawr uchaf ac yn rhai gromen i gadw uchder yr eiddo i lawr i lefel derbyniol

·         Nad oedd ffenestri yn wal gefn Brookside sydd yn wynebu’r safle ar y llawr cyntaf ac felly’n amhosib gweld y safle oherwydd presenoldeb wal gerrig uchel tu ôl i’r , ac mai un ffenestr sydd yn wal gefn Mynach

·         Bod 33 medr rhwng wal y arfaethedig a wal Brookside

·         Bod coed a llwyni yng ngardd gefn Brookside sy’n diogelu preifatrwydd y perchennog

·         Nad oedd unrhyw resymau Cynllunio dilys i wrthod y cais

 

 

(d) Nid oedd yr Aelod lleol yn bresennol oherwydd ei fod yn datgan buddiant personol.

 

 

(dd)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

(d)     Nodwyd y pryderon isod gan Aelodau unigol:

 

·         Bod tŷ 3 llawr yn annerbyniol o ystyried y gallasai fod yn 2 lawr a’i fod yn ormesol gydag elfen o or-edrych

·         a fyddai tŷ wedi ei rendro yn edrych allan o’i le o ystyried bod tai wedi eu cofrestru o’i amgylch

           

         Penderfynwyd:             Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

                         

1.             Cychwyn datblygiad o fewn 5 mlynedd i’w ganiatáu

2.             Yn unol â chynlluniau

3.             Llechi ar to

4.             Deunyddiau waliau allanol i’w cytuno

5.             Dileu rhai hawliau datblygu dosbarth A, B a E o Orchymyn Datblygu 

Cyffredinol a Ganiateir 1995 (fel y’i diwygiwyd)

6.             Manylion plannu, tirlunio a triniaeth terfynau i’w cytuno

7.             Amserlen gweithredu cynllun tirlunio

8.             Cynllun goleuo allanol i’w gytuno

9.             Manylion dull o waredu a rheoli rhywogaethau ymwthiol ar y safle i’w

gytuno

10.          Cynllun ar gyfer gwelliannau bioamrywiaeth yn cynnwys blychau adar

ac ystlumod i’w gytuno

11.          Amod dim dŵr wyneb i gysylltu â’r garthffos gyhoeddus

12.          Oriau gwaith adeiladu (8yb tan 6yh Llun i Wener, 8yb i 1yh ar Ddydd

Sadwrn, dim gwaith adeiladu ar Ddydd Sul neu Ŵyl Banc)

13.           Rhaid darparu troedffordd 1.5 metr o led  o'r  naill  ben  i'r llall y safle

sydd gyfochrog a’r ffordd sirol cyn yr anheddir y datblygiad

14.          Cynllunio ac adeiladu’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd cyn

yr anheddir y datblygiad

15.          Rhaid cwblhau’r trefniadau parcio yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd

cyn yr anheddir y datblygiad

16.          Darparu manylion wal gynnal er cymeradwyaeth cyn cychwyn unrhyw

waith ar safle

 

Nodyn gwybodaeth

 

1.             Dim adeiladau, strwythurau, newid lefelau tir o fewn 3 medr i’r cwrs

dŵr (a gynhigiwyd gan Cyfoeth naturiol Cymru)

2.             Diogelu cwrs dŵr a’r angen am ganiatâd petai unrhyw

waith/datblygiad ar y safle yn effeithio arni (a gynhigiwyd gan Uned

Dŵr a'r Amgylchedd y Cyngor)

 

Dogfennau ategol: