Agenda item

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

(Nid oedd y mater canlynol wedi ei gynnwys ar y rhaglen ond cytunodd y Cadeirydd i’w ystyried dan Adan 100 (4)(b), Deddf Llywodraeth Leol 1972).

 

 

(a)           Cyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod gopi o lythyr a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Cynllunio  gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru ynglŷn â chais Cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl yn cynnwys hyd at 366 o unedau preswyl a ffyrdd mynediad, lleoedd parcio a chyfleusterau ategol cysylltiedig ym Mhen y Ffridd, Bangor. 

 

Gŵrthodwyd y cais oddeutu 12 mis yn ôl ac ers y penderfyniad hwnnw cynhaliwyd gŵrandawiad apêl yn erbyn y penderfyniad.  Ar 22 Awst 2016, adferwyd yr apêl i’w benderfynu gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bod y cynnig yn ymwneud â datblygiad preswyl ac ynddo fwy na 150 o dai neu ddatblygiad preswyl ar fwy na 6 hectar o dir.  Ar 12 Mehefin cyhoeddwyd bod y Gweinidog o blaid caniatáu’r apêl cynllunio yn ddarostŷngedig i’r apelydd fynd i’r afael ag ambell fater. Fodd bynnag, yn unol â Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Gŵrandawiadau) (Cymru) “Rheolau 2003”, os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r gŵrandawiad ddod i ben, yn ystyried unrhyw fater newydd o ffaith, a’u bod, o’r herwydd, yn barod i anghytuno ag argymhelliad a wnaed gan yr Arolygydd, rhaid iddynt beidio a gwneud penderfyniad sy’n groes i’r argymhelliad heb yn gyntaf roi gwybod i’r bobl a oedd a hawl i gymryd rhan yn y gŵrandawiad eu bod yn anghytuno â’r argymhelliad, rhoi rhesymau pam, a rhoi cyfle i’r bobl hynny gyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am ailagor y gŵrandawiad.   

 

Ystŷriwyd yr apêl yn unol â Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd 2001-2016 ac ni roddwyd llawer o bwysau ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Roedd y safle wedi ei ddynodi i bwrpas datblygiad tai yn y Cynllun Datblygu Unedol.  Yn dilyn derbyn adroddiad yr Arolygydd mewn perthynas â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y 30ain Mehefin, bod pwysau i’w ystyried o ochr y Cynllun Datblygu Lleol wedi cynyddu’n sylweddol, ac felly yr ystyriaethau cynllunio perthnasol wedi newid.  O dan y Cynllun Datblygu Lleol nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiad tai.  Fe fydd y mater hefyd ger bron y Cyngor i’w ystyried ar gyfer mabwysiadau ar y 28ain Gorffennaf 2017.

 

O’r herwydd, yn sgil polisïau cyfredol ac i amddiffyn yr apêl a phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio, awgrym y swyddogion cynllunio ydoedd gofyn i Lywodraeth Cymru ail-agor y gŵrandawiad.

    

(b)           Nododd Aelod a fynychodd y gŵrandawiad ei fod wedi bod yn anodd iawn i amddiffyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i’w wrthod oherwydd ei fod yn groes i bolisïau lleol ond roedd yn croesawu’r awgrym i symud ymlaen i gael apêl newydd ac ail-agor y gŵrandawiad.

 

(c)             Mewn ymateb i ymholiad, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd y tir dan sylw wedi ei ddynodi ar gyfer ei ddatblygu ar gyfer tai ac ni fyddai’r ffigŵr dynodedig o aneddau yn cael ei gynnwys at yr hyn sydd wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu ar y Cyd arfaethedig.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod a chefnogi penderfyniad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ofyn i Lywodraeth Cymru ail-agor y gŵrandawiad ar gyfer yr apêl uchod er mwyn rhoi ystŷriaeth i bolisïau Cynllunio cyfredol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sydd i’w ystyried ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 28 Gorffennaf 2017.