skip to main content

Agenda item

Ystyried y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel a ddiwygiwyd gan newidiadau rhwymol yr Arolygydd a gwneud penderfyniad ynglŷn â’i fabwysiadu.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel y diwygiwyd gan newidiadau rhwymol yr Arolygydd. 

 

Rhoddwyd eglurhad ar drefn yr adroddiad a thynnwyd sylw at gamgymeriad i fap Llanrug oedd yn y fersiwn papur. Amlygodd bod yr adroddiad yn un manwl a chadarnhaodd ei fod yn bodloni a chydymffurfrio gyda gofynion deddfwriaethol ( Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Cynllunio a Phryniant Gorfodol 2004, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005, Polisi Cynllunio Cymru a Llawlyfr Cynllun Datblygu Lleol (2015)).

 

Byddai mabwysiadu'r Cynllun yn gosod polisïau manwl i reoli datblygiadau hyd at 2026; yn hwyluso darpariaeth datblygu newydd sydd ei angen i gwrdd ag anghenion  cymunedau lleol; yn  galluogi'r Cyngor i gyflawni ei strategaethau tai a datblygiadau economaidd. Byddai gwrthod yn gadael yr Awdurdod heb gynllun na pholisïau digonol i warchod tiroedd y Sir ac yn rhoi cyfleoedd i Ddatblygwyr apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod ar sail nad oedd Cynllun / Polisïau yn eu lle.

 

Amlygwyd, ar sail tystiolaeth leol, bod polisïau tai y Cynllun yn cynllunio ar gyfer 3712 i ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd rhwng (2011-2026). Gyda'r Cynllun eisoes yn ei chweched flwyddyn, cadarnhawyd bod y ffigwr yma yn cynnwys cartrefi sydd eisoes wedi eu hadeiladu neu wedi derbyn caniatâd cynllunio. Y ffigwr gweddilliol ar gyfer gweddill oes y Cynllun fydd 1366 sydd yn gyfartaledd o 137 o gartrefi newydd y flwyddyn.

 

Wrth gymharu'r hen strategaeth gyda’r Cynllun newydd adroddwyd bod yr hen strategaeth yn dueddol o ganolbwyntio ar sefydliadau mawr o fewn ein trefi, ond bellach bod y cynllun yma yn canolbwyntio ar ddynodiadau llai.Tynnwyd sylw hefyd at y polisïau arloesol oedd wedi eu cynnwys yn y Cynllun.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd, bod y Cyngor yn:

 

              i.        mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn 2011 i 2026 fel y diwygiwyd gan newidiadau a argymhellwyd gan yr Arolygydd yn yr adroddiad ar yr Archwiliad (dyddiedig 30 Mehefin 2017)

             ii.        cyhoeddi'r Cynllun a fabwysiadwyd, y Datganiad Mabwysiadu, Adroddiad AG/AAS terfynol a'r adroddiad ARhC.

           iii.        yn rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion i gywiro unrhyw wallau teipio a gramadegol, i ymdrin ag unrhyw fân faterion cywirdeb neu gamgymeriadau, yn ogystal ag ymgymryd ag unrhyw faterion cyflwyno eraill angenrheidiol a newidiadau canlyniadol (sydd eu hangen yn dilyn y newidiadau argymhellir yn unol â pharagraff 1.10 yn adroddiad yr Arolygydd), cyn cyhoeddiad terfynol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn.

           iv.        Bod y Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu mabwysiadu i gefnogi’r cynlluniau datblygu presennol, yn parhau i fod yn ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle mae’n briodol, nes eu bod yn cael eu disodli gan rai newydd neu’n cael eu tynnu’n ôl.

 

Mewn ymateb i bryderon a leisiwyd iddo nad oedd y canllawiau atodol newydd y bwriedir eu sefydlu yn cael eu hadlewyrchu yn ddigonol yn y cynnig, cynigodd yr Aelod Cabinet ychwanegu cymal v i’r argymhelliad i gyfarch hyn, sef

 

 

             v.        Bod y Canllawiau Cynllunio Atodol sydd wedi eu hadnabod yn Atodiad 9 o’r Cynllun yn cael eu paratoi gan roi blaenoriaeth i:

-          CCA Cynnal a Chreu Cymunedau Unigryw a Chynaliadwy

-          CCA Tai Fforddiadwy

-          CCA Tai Marchnad Lleol

-          CCA Math a Chymysgedd Tai

-          CCA Ymrwymiad Cynllun,

yn unol ag amserlen fframwaith monitro'r Cynllun

 

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol dros wrthod yr argymhelliad:-

 

·         Nad oedd y Cynllun yn gwneud digon i arbed y Gymraeg - bod risg  o golli iaith. Y Cynllun heb fesur yn wyddonol yr effaith ar yr iaith Gymraeg a dim  tystiolaeth wedi ei gyflwyno i fonitro effaith ar yr iaith

·         Nad oedd unrhyw addasiad wedi ei wneud i’r ffigyrau tai a gytunwyd yn dilyn cyhoeddi cyfrifiad 2011 oedd wedi dangos gostyngiad o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Bod cais am wybodaeth parthed effaith datblygiadau ar yr iaith ers 2011 heb ddod i law a heb y wybodaeth yma, nid yw'r Cyngor mewn sefyllfa i dderbyn y Cynllun.

·         Bod 1700 o sylwadau wedi eu cynnig yn ystod ymgynghoriad 2015 - llawer o’r sylwadau yn wrthwynebiadau, ond nifer wedi eu diystyru gan fod y Cyngor yn honni nad oedd tystiolaeth rymus i’w cefnogi.

·         Bod peryglon  mabwysiadu yn uwch na’r angen.

·         Bod manylion a thystiolaeth adroddiad annibynnol o effaith andwyol y Cynllun ar yr iaith heb ei ystyried.

·         Bod angen gwrthod a cheisio cyfle i addasu'r Cynllun yn briodol a chyflwyno cynllun mentrus a blaengar fyddai yn addas i’n cymunedau Cymraeg

·         Bod hunaniaeth y SIr yn y fantol pe byddem yn derbyn cynllun amhriodol, di ddychymyg a difäol?

·         Nad oedd digon o ystyriaeth i gadw nifer y tai i lawr a sicrhau digon o dai fforddiadwy

·         Nad oedd y cynllun wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i degwch cymdeithasol

·         Nad oedd yr ymateb yn ddigon egnïol i drigolion Gwynedd

·         Bod gormod o dai marchnad agored

·         Bod cefn gwlad yn cael ei amddifadu o dai

·         Nad oedd digon o ymgynghori wedi ei wneud gyda’r cyhoedd

·         Nad oedd aelodau newydd wedi cael cyfle i ystyried a deall y wybodaeth yn llawn

·         Bod bygythiadau gan Lywodraeth Cymru yn arwain at  wneud penderfyniadau gwael. Y Cyngor yn cael ei hun mewn sefyllfa o gael ei orfodi i wneud penderfyniad anodd. Petai'r Cyngor yn gwrthod, byddai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r Cynllun ar ein rhan. Nid oedd hyn yn ddigon da

·         Bod y Cynllun yn gwireddu gorchmynion Llywodraeth Cymru ac yn tanseilio democratiaeth leol

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad:-

 

·         Bod y Cynllun yn ymateb i’r galw am dai newydd ar gyfer pobl leol yng Ngwynedd. Llawer o stoc tai'r Sir mewn cyflwr gwael. Cyfle yma i gynnal trafodaethau arloesol a blaengar gyda chymdeithasau tai ar gyfeiriad y cynllun. Yr uchelgais yw gwella safon byw trigolion Gwynedd gyda thai o safon uchel.

·         Bod y Cynllun yn unigryw - yn cynnwys polisïau cadarn a blaengar o blaid ein cymunedau

·         Y dylid mabwysiadu'r cynllun yn llawn oherwydd heb gynllun datblygu ni fydd rheolaeth dros safleoedd tu allan i’r ffiniau datblygu fyddai yn arwain at effeithiau negyddol cymdeithasol ac ieithyddol Byddai gwrthod yn gwneud mwy o ddrwg i’r iaith

·         Derbyn nad yw'n gynllun perffaith ond dogfen fyw yw’r adroddiad gyda chyfle i

addasu yn flynyddol, yn unol â’r angen, drwy gynnal trafodaethau, adolygu a monitro rheolaidd. O ganlyniad, er enghraifft, bydd modd cynyddu’r nifer o dai fforddiadwy petai angen hynny.

·         Bod modd cynllunio  canllawiau atodol unigryw i Wynedd fydd yn amddiffyn ein cymunedau ac nid eu difa.

·         Bod y Cynllun yn mynd i’r afael â heriau sylweddol - codi tai i fodloni anghenion lleol, cryfhau cymunedau gwledig a threfol, gwarchod yr amgylchedd a chreu cyfleoedd economaidd

·         Bod cenhadu dros ddefnydd y Gymraeg ar draws holl Awdurdodau Cymru yn parhau yn flaengar. Dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar swyddi da yn lleol, polisi iaith ein hysgolion a statws iaith mewn cymunedau.

·         Os na fuasai Cynghorwyr Gwynedd yn derbyn y cyfrifoldeb, byddai’r cyfrifoldeb yn cael ei daflu i Gaerdydd at Weinidog nad yw'r un mor gydymdeimladwy.

 

Mewn ymateb i gwestiwn beth fyddai goblygiadau peidio mabwysiadu‘r cynllun a beth fyddai’r camau nesaf o ystyried amserlen a chostau, nododd y Swyddog Monitro bod dyletswydd ar y Cyngor i baratoi cynllun  a tynnwyd sylw at y risgiau o beidio mabwysiadu’r cynllun oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd mai anodd fuasai rheoli datblygiadau i’r dyfodol ac atal datblygiadau fyddai yn cael effaith ar ein cymunedau heb gynllun.

 

   Yn ystod y drafodaeth gwnaed cynigion i ohirio'r penderfyniad ar sail:

 

·         cael mwy o amser i gwblhau asesiad iaith annibynnol a derbyn mwy o wybodaeth arbenigol ym maes cynllunio.

·         er mwyn gwahodd y Gweinidog i gynnal ymchwiliad cyhoeddus gan na allent gytuno ar y ffordd ymlaen a gofyn am gyngor ysgrifenedig o fewn maes cyfraith cynllunio arbenigol ar faterion cyfreithlondeb y Cynllun.

·         i Lywodraeth Cymru ohirio'r penderfyniad er mwyn  rhannu gwybodaeth gydag Aelodau newydd a gwneud gwaith pellach ar y canllawiau atodol, yn enwedig y canllaw iaith

·         sefyll i fyny a gofyn i Lywodraeth Cymru am amser ychwnaegol i wella cynnwys y cynllun.

 

Mewn ymateb i’r cynigion, nododd y Swyddog Monitro:

 

·         Nad oedd llyffethair cyfreithiol i fabsywiadu’r cynllun yn y cyfarfod.

·         Bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddod i benderfyniad ar fabwysiadu’r y Cynllun o fewn 8 wythnos i ddyddiad derbyn  adroddiad yr Arolygydd (Mehefin 30ain 2017) onibai fod caniatâd y llywodraeth wedi ei roi  i ymestyn y cyfnod. Nid oedd y fath ganiatâd wedi ei dderbyn Ni fuasai gohirio am gyfnod amhenodol  a thu hwnt i’r wyth wythnos yn cyd-fynd a’r dyletswydd statudol yma.

·         Gan nodi statws clymol adroddiad yr Arolygydd, y byddai’r Llywodraeth yn blaenoriaethu mabwysiadu a’u hymateb i sefyllfaedd cyffelyb mewn cynghorau eraill ni fyddai cais o’r fath yn debygol o gael derbyniad ffafriol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, pam na ellid gweithredu o dan Gyfansoddiad y Cyngor ac eilio cynnig i ohirio'r penderfyniad, amlygodd y Swyddog Monitro bod y Cyfansoddiad yn ddarostyngedig i’r gyfraith ac na ellir derbyn cynnig fyddai yn arwain at benderfyniad croes i’r gyfraith

 

Mewn ymateb i gwestiwn, onid ydyw barn gyfreithiol annibynnol a’r gyfreithlondeb y Cynllun yn werth ystyriaeth pawb yn y Cyngor, a bod hawl i weithredu hyn ar sail methiant i gytuno, nododd y Swyddog Monitro, fel cynghorai'r Cyngor, nad oedd yn gwyro oddi ar y cyngor yr oedd wedi ei gyflwyno i’r cyfarfod.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar yr argymhelliad a phleidleisiodd mwy na chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar yr argymhelliad:-

 

O blaid (30)

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Steve Collings, Stephen Churchman, Annwen Daniels, Simon Glyn, Gareth Griffith, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, R.Medwyn Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones Huw Wyn Jones, Dafydd Meurig, Linda Morgan, Dafydd Owen, Dewi Owen, Edgar Owen, Rheinallt Puw, W.Gareth Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Cemlyn Williams a Gethin Glyn Williams.

 

Yn erbyn (30)

Y Cynghorwyr, Menna Baines, Dylan Bullard, Glyn Daniels, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Peter Garlick, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Louise Hughes, Aeron M Jones, Aled Wyn Jones, Charles Jones, Elin Walker Jones, Elwyn Jones, Kevin Morris Linda Wyn Jones, Sion Jones, Cai Larsen, Dilwyn Lloyd, Roy Owen, Jason Parry, Elfed Roberts, Mike Stevens, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gareth Williams, Gruffydd Williams ac Owain Williams.

 

Atal (4)

 

Y Cynghorydd Freya Hannah Bentham, Dylan Fernley, Eric Merfyn Jones a Dewi Roberts.

 

Gan fod canlyniad y bleidlais ar yr argymhelliad yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw o blaid yr argymhelliad.

 

Penderfynwyd, 

 

              i.        mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn 2011 i 2026 fel y diwygiwyd gan newidiadau a argymhellwyd gan yr Arolygydd yn yr adroddiad ar yr Archwiliad (dyddiedig 30 Mehefin 2017)

             ii.        cyhoeddi'r Cynllun a fabwysiadwyd, y Datganiad Mabwysiadu, Adroddiad AG/AAS terfynol a'r adroddiad ARhC.

           iii.        yn rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion i gywiro unrhyw wallau teipio a gramadegol, i ymdrin ag unrhyw fân faterion cywirdeb neu gamgymeriadau, yn ogystal ag ymgymryd ag unrhyw faterion cyflwyno eraill angenrheidiol a newidiadau canlyniadol (sydd eu hangen yn dilyn y newidiadau argymhellir yn unol â pharagraff 1.10 yn adroddiad yr Arolygydd), cyn cyhoeddiad terfynol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn.

           iv.        Bod y Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu mabwysiadu i gefnogi’r cynlluniau datblygu presennol, yn parhau i fod yn ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle mae’n briodol, nes eu bod yn cael eu disodli gan rai newydd neu’n cael eu tynnu’n ôl.

 

             v.        Bod y Canllawiau Cynllunio Atodol sydd wedi eu hadnabod yn Atodiad 9 o’r Cynllun yn cael eu paratoi gan roi blaenoriaeth i:

-          CCA Cynnal a Chreu Cytundebau Unigryw a Chynaliadwy

-          CCA Tai Fforddiadwy

-          CCA Tai Marchnad Lleol

-          CCA Math a Chymysgedd Tai

-          CCA Ymrwymiad Cynllun,

 

yn unol ag amserlen fframwaith monitro'r Cynllun

 

 

 

 

Dogfennau ategol: