Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi)
Cofnod:
Cafwyd
cyflwyniad bras gan Rhun ap Gareth yn amlinellu'r canlynol:
·
Rôl y
Pwyllgor mewn derbyn Adroddiad yr Arolygydd
·
Gofynion
y broses statudol o ran y broses o baratoi CDLl ar y Cyd
·
Ystyried
addasrwydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd – Gwynedd a Môn
Cafwyd eglurhad gan
Nia Davies ar gamau'r broses o ddarparu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac ar
Adroddiad yr Arolygydd.
Cefndir (1 – 6)
·
Angenrheidrwydd
o gael Cynllun yn ei le.
·
Esbonio’r broses a ddechreuwyd yn 2011 a’r camau proses statudol cymhleth i gyrraedd y pwynt
yma, sef derbyn Adroddiad yr Arolygydd.
·
Proses cynhwysol - ymgynghori cyhoeddus a chyfnodau
cyfranogiad wedi bod drwy gydol y broses.
Proses Yr Archwiliad (7- 12)
·
Gwrandawiadau
i wahanol themâu
·
Dilyn ‘ Pwyntiau Gweithredu’ a newidiadau
·
Cyflwyno
cofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi
·
Gwrandawiadau
ychwanegol yn cael eu cynnal fel canlyniad i’r uchod
Adroddiad yr Arolygydd (13 – 21)
·
Adroddiad
yr Arolygydd wedi cael ei dderbyn ar 30 Mehefin, 2017.
·
Neges yr Adroddiad fod y Cynllun yn gadarn ac yn ymateb
i’r profion cadernid, ynghyd ac argymhellion o newidiadau mân (Atodiad A &
B).
·
Rhaid i’r Cynghorau dderbyn yr Adroddiad yn ei gyfanrwydd
gan ei fod yn adroddiad rhwymol. Nid oes posib dewis a dethol rhannau o’r
adroddiad yn unig.
Gofynion Statudol (22 – 23)
·
Gofyniad
statudol Cynghorau dderbyn/dim derbyn y Cynllun o fewn cyfnod 8 wythnos o fod
wedi derbyn Adroddiad yr Arolygydd.
Cynhelir y Pwyllgorau yma yng Ngwynedd ar y 28 Gorffennaf 2017 ac ym Môn
ar y 31 Gorffennaf 2017.
Risgiau a Heriau o
beidio cael Cynllun (24 - 32)
·
Fel
mae’n sefyll ar hyn o bryd nid oes unrhyw Gynllun yn ei le gan y ddau awdurdod.
·
Gofyniad i gael cynllun i reoli datblygiadau. Nid oes cyflenwad tir ar gyfer tai gan y ddau
awdurdod ar hyn o bryd, felly mae hyn yn codi heriau o apeliadau ar geisiadau
cynllunio sydd yn arwain i gostau yn erbyn yr awdurdodau.
·
Nodyn i atgoffa fod pwerau dewisol gan Lywodraeth Cymru i
fabwysiadau’r cynllun.
·
Os penderfynwyd mabwysiadau’r Cynllun, mae’r rheolaeth yn
hawlio i fudiad/unigolyn (ayyb) i gyflwyno her i’r Llys Uchel am gyfnod hyd
at chwe wythnos o’r dyddiad o benderfynu
mabwysiadu’r Cynllun.
Gofynion Ychwanegol (33 – 34)
·
Nodwyd
y bydd rhaid i’r Cynghorau gyhoeddi datganiad mabwysiadu ac Asesiad
Cynaladwyedd.
Camau i’w cymryd os fydd y Cynghorau
unigol yn penderfynu mabwysiadu’r Cynllun (35-39)
·
Casglu
gwybodaeth ac adrodd ar y Fframwaith Fonitro (pennod 7) yn flynyddol ynghyd a
pharatoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (rhestr Atodiad 9 o’r Cynllun).
·
Cynnal Adolygiad o’r Cynllun pedair blynedd ar ôl y
dyddiad mabwysiadu.
Pwyntiau a Godwyd:
i.
Diolchwyd am y gwaith oedd
wedi cael ei gynnal hyd yma fel rhan o’r broses o baratoi'r Cynllun, fodd
bynnag nodwyd pryder ynglŷn â’r orddarpariaeth o dai (8,000 o dai a
fyddai’n cyfateb i gynnydd o 20,000 yn y boblogaeth). Nodwyd y rhwystredigaeth
yn y ffaith fod y ffigwr hwn yn cael ei orfodi ar y Cynghorau. Er bod yna gost
ariannol yn gysylltiedig â pharatoi'r Cynllun, mynegwyd y byddai’r gost
ieithyddol o’i fabwysiadu yn ddirfawr.
ii.
Cefnogwyd y pryderon fel
nodwyd yn (i) uchod. Ymhellach esboniwyd mae Cynllun Lleol a oedd yn cyrraedd
gofynion y boblogaeth leol oedd angen ei baratoi, nid Cynllun a oedd wedi ei
lywio gan arweiniad canolog Llywodraeth Cymru.
iii.
Amlygwyd y ffaith mae rôl
y Pwyllgor ydi derbyn fod y broses yn gywir a chytuno iddo gael ei gyflwyno i’r
Cynghorau Llawn i’w fabwysiadu.
Penderfyniad:
Yn unol â’r
argymhellion, penderfynwyd:-
i.
Bod
y Pwyllgor yn derbyn Adroddiad yr Arolygydd yn ffurfiol ac yn nodi ei gynnwys
ii.
Bod
y Pwyllgor yn cytuno bod y broses i fyny at y cam mabwysiadu wedi ei gwblhau.
iii.
Bod
y Pwyllgor yn nodi materion a’r opsiynau a’r dogfennau perthynol angenrheidiol
Dogfennau ategol: