Agenda item

I ystyried adroddiad gan Uwch Reolwr Ysgolion ar yr uchod.  

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Croesawyd y canlynol i’r Fforwm ar gyfer yr eitem hon:

 

            Eifion Jones  -           Ymgynghorydd Annibynnol

            Arwel Pierce  -           Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd

                                                                        Tywyn

David Thorp  -           Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn

 

            Cyflwynwyd adroddiad arbenigwr annibynnol ar waith ymchwil o gyllideb a diffyg ariannol Ysgol Uwchradd Tywyn. 

 

            Tynnwyd sylw’r Fforwm i gadw mewn cof bod y gwaith yn gychwyn tuag at gyflawni elfennau o brosiect P1 yng Nghynllun y Cyngor sef:

 

    • Dadansoddi sefyllfa gyllidol a chwricwlaidd ysgolion uwchradd sydd â niferoedd bychan o ddisgyblion
    • Adnabod anghenion lleiafswm staffio sydd ei angen er mwyn cynnal cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd sydd â niferoedd bychan o ddisgyblion
    • Argymell a chostio ble ddylai’r llinell warchodaeth staffio fod ar gyfer y Sector Uwchradd er mwyn i’r Cyngor ddefnyddio’r wybodaeth honno wrth sefydlu cyllideb 2018/19

 

(a)          Cymerodd yr Ymgynghorydd  Annibynnol  y cyfle i ddiolch i Lywodraethwyr a staff yr ysgol am eu cydweithrediad tra yn cynnal yr ymchwiliad a’r ffaith eu bod yn hollol agored ac yn awyddus i symud ymlaen.  Ymhelaethwyd ar y cefndir, cyd-destun sefyllfa gyllidol yr ysgol, y camau a weithredwyd eisoes a rhagolygon yr ysgol o 2017/18 ymlaen. Darganfuwyd bod sawl rheswm o anallu yr ysgol i osod cyllideb cytbwys megis:

 

·         Cwymp sylweddol yn nifer disgyblion dros y blynyddoedd

·         Colli hanner yr arian oherwydd lleihad yn y niferoedd – fodd bynnag rhagolygon yn awgrymu ychydig bach mwy o ddisgyblion

·         Lefel y gefnogaeth yn lleihau

·         Trefniadau gwarchodaeth gyllidol gyda niferoedd isel o ddisgyblion

 

Mewn cyfnod o geisio gwarchod a chodi safonau addysgol, roedd yr ysgol wedi gwneud camau breision gan gadw’r balans o hygrededd staff a’r gymuned, ac yr un pryd yn cydnabod bod camau eraill i’w gyflawni.

 

O ran camau gweithredu, nodwyd bod yr ysgol wedi:

 

·         Adolygu cyfrifoldebau a lefel staffio yr ysgol

·         Lleihau grwpiau dysgu’r ysgol yn y pynciau craidd ond yn parhau i ateb gofynion statudol cwricwlwm CA3 a CA4

·         Arfarnu ac ail-strwythuro’r drefn taliadau CAD (Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu) i reolwyr canol yr ysgol

·         Ad-drefnu’r Uwch Dim Rheoli

·         Adolygu a rhesymoli lefel o gyllid ym mhenawdau eraill y gyllideb

 

Ochr yn ochr â’r uchod, bu i’r ysgol weithio’n galed i gynnal a chodi safonau gan sicrhau cynnydd da.  Tynnwyd sylw bod defnydd o’r iaith Gymraeg yn cael blaenoriaeth yn y cwricwlwm gyda 95% o ddisgyblion yn dilyn cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf yn CA3 a CA4 er bod mwyafrif sylweddol ohonynt yn siarad Saesneg ar yr aelwyd.  Nodwyd ymhellach bod yr ysgol wedi dechrau cynyddu nifer y disgyblion gan sicrhau bod holl ddisgyblion blwyddyn 6 y dalgylch am fyncyhu’r  ysgol.  Pe byddai’r ysgol wedi gweithredu’n fwy llym o ran torri staff i greu arbedion cyllidol a thrwy hynny allu gosod cyllideb cytbwys dros y tair blynedd diwethaf wedi golygu y byddai’r cynnydd da yn y safonau a’r cynnydd yn nifer disgyblion wedi ei lesteirio.

 

Fodd bynnag, mae angen cyflawni arbedion pellach ar gyfer gallu gosod a gweithredu cyllideb gytbwys yn gyson i’r dyfodol, ac fe restrodd yr Ymgynghorydd Annibynnol  y prif newidiadau cyllidol real fesul blwyddyn dros y tair blynedd nesaf.  Drwy wneud hyn, rhagwelir y gellir gosod a gweithredu cyllideb cytbwys dynn ond mwy realistig yn 2017/18 a chyllidebau cytbwys a mwy hyblyg dros y ddwy flynedd 2018-2020 fydd yn gallu cyfrannu at gostau angenrheidiol blaenoriaethau datblygu’r ysgol.  Fodd bynnag, nodwyd y byddai’n anodd i’r ysgol gyfrannu at y £116,000 o ddiffyg hanesyddol cronnus ar ddiwedd 2016/17.

 

Felly, roedd dau fater i’w ystyried ymhellach gan yr awdurdod sef:

 

·         Diffyg cyllid hanesyddol

·         Lefel y gwarchodaeth i ysgolion bach

 

(b)  Adroddodd Cadeirydd Llywodraeth Ysgol Uwchradd Tywyn na fyddai yn dymuno gweld ‘run ysgol yn yr un sefyllfa a bod y 4/5 mlynedd diwethaf wedi bod yn hunllefus.  Roedd yr Ymgynghorydd Annibynnol wedi crynhoi teimladau’r Llywodraethwyr ac roeddynt yn ddiolchgar iddo am y cymorth a dderbyniwyd.  Nodwyd ymhellach bod yr ysgol yn ynysig yn ddaearyddol ond hyderir y bydd y sefyllfa yn parhau i wella i’r dyfodol.  O safbwynt addysgu grwpiau o oddeutu 29 disgybl ym Mlwyddyn 8, gwelwyd anhawsterau i ymdopi gyda’r ystod o allu o fewn y dosbarth, yn ogystal ag ystod o gefndir ieithyddol. Fe fydd 65 o ddisgyblion yn dechrau ym Mlwyddyn 7 eleni a 3 ohonynt yn Gymry Cymraeg ac felly roedd yn bwysig cynnal y gwaith da a wneir yn yr ysgol gyda’r iaith Gymraeg. Gofynnwyd i’r Fforwm am ei gefnogaeth i achos unigryw ac i nodi wrth y Cabinet bod y sefyllfa yn eithriad.  

 

(c)   Ategodd y Pennaeth Addysg (Dros Dro) o’r gefnogaeth sydd i’r iaith Gymraeg ac y byddai’n gam i ddibrisio’r angerdd sydd yn yr ardal dros yr iaith.

 

(d)  Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg i’r Ymgynghorydd Annibynnol ac i’r Llywodraethwyr a staff yr ysgol am eu cydweithrediad parod a’i fod yn awyddus i gynnal trafodaeth bellach gyda’r Tim Arweinyddiaeth maes o law.   

 

(e)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, mynegwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau’r Fforwm:

 

·         Gwelwyd gwerth o dderbyn y math yma o adroddiad gan bod nifer o arweinwyr ysgolion heb gefndir ariannol, a bod angen mwy o gefnogaeth ymarferol

·         Bod ysgolion yn cael eu herio a heb gyllid i’w cefnogi roedd yn anodd cynnal safonau addysgol

·         Bod cwtogi ar bynciau mewn ysgolion bach yn anodd ac o ganlyniad bod disgyblion yn symud i ysgolion eraill mwy

·         Nodwyd bwysigrwydd i beidio colli pynciau

·         A fyddai modd i’r awdurdod fod yn rhagweithiol gyda ysgolion eraill o fod yn cynllunio ynghynt yn y tymor hir fel nad ydynt yn mynd i drafferthion cyllidol

·         Bod sefyllfa pob ysgol yn unigryw

 

(f)    Mewn ymateb i’r uchod, nodwyd bod cefnogaeth ar gael i ysgolion o fewn gallu a’r adnoddau sydd ar gael yn yr Uned Gyllidol.  Ychwanegwyd bod rhydd i unrhyw Bennaeth gysylltu á’r Rheolwr Cyllid a thynnwyd sylw bod cymorthfeydd cyllidol ar gael i Benaethiaid.   

 

Penderfynwyd:          (a)  Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd allanol.

 

                                    (b)   Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg drafod yr cefnogaeth i’r ysgol ymhellach gyda’r Tim Arweinyddiaeth.

 

                                    (c)   Bod adroddiad yr Ymgynghorydd Annibynnol yn gyfrinachol ac o’r herwydd ddim i ymddangos ar wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: