Agenda item

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2016-17 ac ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2017-18.

 

Gofynnwyd i’r aelodau ystyried y swyddogaethau a restrwyd yng ngholofn gyntaf yr hunan asesiad gan nodi pa asesiad a gredai oedd yn berthnasol iddynt gan ddefnyddio’r categorïau canlynol:-

 

·         Categori 1 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn yn cyflawni’r swyddogaethau, neu yn achos tasgau penodol, nad yw’r angen i weithredu wedi codi.

 

·         Categori 2 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth yn sylweddol, gan gynnal yr un safon â llynedd.

 

·         Categori 3 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth, ond bod angen rhoi sylw pellach.

 

·         Categori 4 – Dim tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth a bod sail i awgrymu bod angen rhoi sylw i’r maes.

 

Eglurwyd hefyd:-

 

·         Bod angen nodi’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r categori mae’r pwyllgor yn ei ddyfarnu.

·         O ddyfarnu categori i bob swyddogaeth a nodi’r dystiolaeth, gallai’r pwyllgor ddod i gasgliad ynglŷn â pha gamau pellach sydd angen eu cymryd, os o gwbl.

·         Y byddai unrhyw awgrymiadau am gamau pellach yn bwydo trwodd i raglenni gwaith y pwyllgor i’r dyfodol.

Nodwyd y dylai rhaglen waith 2016-2017 (Atodiad 2 i’r adroddiad) gynnwys y rheswm dros beidio cynnal cyfarfod o’r pwyllgor ar 27 Mawrth, 2017.

 

PENDERFYNWYD

(a)        Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau italig ac wedi’u tanlinellu):-

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

TYSTIOLAETH

CAMAU PELLACH

Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

2

Mae’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill

 

Nifer fechan iawn o gwynion sy’n dod gerbron.

 

Darperir rhaglen anwytho ar gyfer aelodau newydd.

 

Cadw golwg ar batrymau cwynion.

Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

1

Cefnogi rhaglen anwytho ar gyfer y Cyngor newydd.

 

Mae bron pob aelod wedi bod yn y sesiynau byr ar y Cod Ymddygiad ar y dyddiau anwytho sy’n cyflwyno’r hanfodion i’r aelod.  Mae tua 20 aelod wedi mynychu hyfforddiant pellach ac mae rhagor o hyfforddiant i ddod ym mis Medi.

Y pwyllgor i ystyried y data adborth o’r sesiynau hyfforddiant a thargedu yn effeithiol ar sail hynny.  Dylai’r adroddiad meintiol hefyd nodi pa ganran o’r aelodau sydd wedi derbyn yr hyfforddiant.

 

Ystyried dulliau o gynyddu diddordeb aelodau yn y pwnc.

 

Y pwyllgor i dderbyn adroddiad ar sut mae aelodau cymuned a sir yn cael eu hyfforddi gyda’r bwriad o lunio cynllun fydd yn defnyddio dulliau hyfforddi llai confensiynol.

 

Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

2

Rhoddwyd ystyriaeth i ddiwygiadau i’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer eu mabwysiadu gan y Cyngor llawn.

 

Ystyried os oes angen ystyriaethau mwy lleol ar y Cod Ymddygiad Enghreifftiol.

 

Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

2

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau.

Derbyn adroddiadau blynyddol gan yr Ombwdsmon a Phanel Dyfarnu Cymru.

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a datganiadau a wneir.

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

Edrych ar y dull o adrodd ar y cofrestrau buddiannau / lletygarwch a cheisio cael gwell dealltwriaeth o beth yw’r amgylchedd buddiannau a lletygarwch.  Ydi’r arweiniad yn glir ar hyn?

 

Y pwyllgor i dderbyn adroddiad ar y protocolau buddiannau / lletygarwch drafft.  Dylai’r adroddiad gynnwys enghreifftiau o’r mathau o roddion sy’n briodol / amhriodol gan edrych hefyd oes yna batrymau o ran pwy sydd wedi rhoi rhoddion, ayb.

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad

2

Bod mewnbwn yn cael ei roi i’r hyfforddiant.

 

Y sesiynau anwytho a hefyd y 2-3 cwrs sydd wedi’u rhedeg.  Dylid nodi hefyd ei bod yn flwyddyn etholiad.

 

Rhaglen Hyfforddiant newydd a dilyn hwn ymhellach.

 

Edrych ar yr holl gyfundrefn hyfforddi ar y Cod Ymddygiad.

 

Rhoi goddefebau i aelodau

1

Ymdriniwyd â cheisiadau am oddefebau gan weithredu ar sail wrthrychol a phriodol.

 

 

Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

Amherthnasol

Ni chyfyd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn.

 

Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

Amherthnasol

Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath.

 

Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

Cyfathrebwyd gyda’r Cynghorau Cymuned i’w hysbysu o’r newidiadau i’r Cod a threfnwyd hysbyseb ar y cyd â nifer ohonynt.

 

Edrych ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth a datblygu’r berthynas gyda chynghorau cymuned.

 

 

(b)        Cymeradwyo’r rhaglen waith canlynol ar gyfer 2017-2018, gyda’r awgrymiadau am eitemau sy’n bwydo trwodd o’r camau pellach a nodwyd dan (a) uchod:-

 

10 Gorffennaf, 2017

 

Adroddiad Blynyddol

Hunan Arfarniad a Rhaglen Waith

Honiadau yn erbyn aelodau

Trefn Datrys Lleol Un Llais Cymru

 

2 Hydref, 2017

 

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Honiadau yn erbyn aelodau

Adolygiad Protocolau

 

22 Ionawr, 2018

 

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu

Honiadau yn erbyn aelodau

 

27 Mawrth, 2018

 

Hunan Arfarniad a Rhaglen Waith

Hyfforddiant

Dogfennau ategol: