Agenda item

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C09A/0396/18/AM ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C09A/0396/18/AM ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl.

        

(a)      Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn parhau i olygu datblygu’r safle ar gyfer 27 o dai (a oedd yn cynnwys 5 fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol) ynghyd â chreu mynedfa newydd. Roedd y cais gwreiddiol yn destun cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn darparu elfen o dai fforddiadwy. Nodwyd y byddai angen diweddaru’r cytundeb 106 gan fod ei gynnwys yn parhau i fod yn ddilys er gwaethaf cyflwyno’r cais diweddaraf hwn.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn o dan gais amlinellol rhif C09A/0396/18/AM ac nid oedd newid wedi bod yn nhermau natur a manylion y bwriad nac ychwaith yng nghyd-destun polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol ac er bod y Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o gael ei fabwysiadu yn fuan, byddai’r safle yn parhau i fod o fewn ffin datblygu Deiniolen yn ogystal â’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y cynllun.

 

Eglurwyd nad oedd y cais diweddaraf hwn yn golygu unrhyw newid i’r cynlluniau oedd eisoes wedi derbyn caniatâd.

 

Nodwyd bod y gwrthwynebiadau i’r cais cyfredol hwn ar gyfer ymestyn yr amser er mwyn cyflwyno materion a gadwyd yn ôl wedi derbyn ystyriaeth lawn ac ar sail yr asesiad yn yr adroddiad credir bod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gynnwys amodau perthnasol fel y cynhwyswyd o fewn y caniatâd amlinellol blaenorol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nid egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer tai oedd dan ystyriaeth, yr egwyddor o ymestyn yr amser i gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl a oedd yn berthnasol;

·         Bod gwelliannau i’r llwybr eisoes wedi eu gwneud;

·         Bod y tir wedi ei ddynodi yn y CDUG a’r CDLl ar gyfer datblygiad preswyl. Fe allai’r cyfran o dai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad o dan y CDLl fod yn llai.

 

(c)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Nid oedd y cais yn ymateb i’r galw am dai gyda 3 safle arall a oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio am ddatblygiad preswyl ddim wedi eu datblygu;

·         Bod yr adroddiad yn rhoi llawer o sylw i bolisïau’r CDUG ond gan fod y CDLl ar fin cael ei fabwysiadu roedd perygl nad oedd yr adroddiad yn rhoi ystyriaeth ddigonol o ran polisïau’r CDLl. Dylid gohirio’r cais tan roedd sefyllfa'r cynllun newydd yn gliriach;

·         Bod Ysgol Gwaun Gynfi yn agos at gapasiti llawn, oedd gan y Cyngor gynlluniau i ehangu’r ysgol pe fyddai tai yn cael eu hadeiladu ar bob safle oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio eisoes?

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Y dylid gwrthod y cais ar sail gor-ddatblygu a dim tystiolaeth o angen lleol;

·         Bod newid yn yr amgylchiadau o ran diffyg angen lleol ers caniatáu’r cais amlinellol;

·         A fyddai’r ymgeisydd yn gallu gwneud cais pellach i ymestyn cyfnod amser cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl?

·         Bod asiant yr ymgeisydd wedi nodi y gellir darparu cyfran lai o dai fforddiadwy o dan y CDLl. Beth oedd y sefyllfa?

·         A fyddai’r nifer o dai fforddiadwy yn aros yr un fath?

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Nid oedd newid yn y sefyllfa gynllunio gyda’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDUG a’r CDLl. Fe fyddai’n anodd cyfiawnhau gwrthod y cais. Nodwyd bwriad i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil pe gwrthodir y cais;

·         Roedd rhaid bod newid yn y sefyllfa gynllunio i wrthod y cais, nid oedd newid ym mholisi lleol na cenedlaethol. Ni ellir tystiolaethu gwrthodiad felly yn sicr y byddai costau yn erbyn y Cyngor mewn apêl. Pe gwrthodir, fyddai’n rhaid i’r aelodau amddiffyn y penderfyniad mewn apêl;

·         Dim ond os oedd newid yn y sefyllfa polisi y gellir cyfiawnhau gwrthod cais pellach i ymestyn cyfnod amser cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl;

·         Roedd y CDLl yn nodi man cychwyn is o ran negodi cyfran tai fforddiadwy mewn datblygiad preswyl;

·         Y clymir darparu'r un nifer o dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol drwy gytundeb cyfreithiol o dan Adran 106.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.     2/5 mlynedd i ddechrau’r gwaith.

2.     Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

3.     Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).

4.     Mynediad a pharcio.

5.     Tirweddu a thirlunio.

6.     Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.

7.     Amodau Dŵr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.

8.     Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr hwyneb.

9.    Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.

Dogfennau ategol: