Agenda item

Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r dwyrain gyda’r canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a Chanolfan Hamdden Plas Silyn.

 

Nodwyd bod polisi CH20 o’r CDUG yn caniatáu cynigion ar gyfer seilwaith newydd ac offer telathrebu yn ddarostyngedig i ystyriaeth lawn o feini prawf penodol. Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi o fewn dogfennau’r cais cynllunio y rhesymau pam fod y lleoliad yma wedi ei ddewis ar gyfer y datblygiad, gan nodi ei fod yn rhan o amcan y Llywodraeth i ledaenu signal ffon 4G i lefydd ble nad oedd yn bodoli’n barod, ac yn benodol ardaloedd gwledig.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd, ac yn benodol ar iechyd plant yn yr Ysgol Gynradd gerllaw. Nodwyd bod maen prawf rhif 3 o bolisi CH20 yn sicrhau bod datblygiadau arfaethedig yn bodloni canllawiau’r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydriad Anïoneiddiol (ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma. Er y cydnabuwyd fod pryder wedi ei godi ynglŷn ag effaith posib, ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i’r polisïau cenedlaethol na’r Cynllun Unedol ac nid oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith posib y datblygiad.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Roedd y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu 50m a 90m i

         ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau gwahanol, cydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol yn yr achos yma.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn Bennaeth Ysgol Bro Lleu a bod pryder o ran agosatrwydd y mast i’r ysgol a’r effaith y gallai gael ar y plant;

·         Byddai’r stad ddiwydiannol yn gallu cuddied y bwriad yn well;

·         Ddim yn ymwybodol o wir effaith datblygiad o’r fath, a oedd datblygiadau tebyg wrth ymyl ysgolion eraill?

·         Bod rhieni yn pryderu gyda rhai yn bygwth symud plant o’r ysgolion;

·         Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar fin gwneud cais cynllunio ar dir wrth ymyl ac yn bygwth tynnu allan os caniateir y datblygiad yma;

·         Pryderu o ran effaith negyddol y datblygiad ar y plant a’r pentref.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Mai’r bwriad oedd cyflawni amcan y Llywodraeth i ddarparu cyflenwad signal 3G/4G ble nad oedd yn bodoli eisoes mewn ardaloedd gwledig;

·         Bod mynediad at ddarpariaeth 3G/4G yn greiddiol i ffyniant economaidd a bod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cefnogi datblygiadau telathrebu gan eu bod yn gweld ei fod yn angenrheidiol i gyflawni eu cynllun twf economaidd uchelgeisiol;

·         Symudwyd lleoliad y mast telathrebu i gefn y gyfnewidfa ffôn i leihau’r effaith gweledol;

·         Bod y mast yn gorfod bod yn  21 medr o uchder neu ni fyddai’n gweithio’n effeithiol;

·         Bod lleoliadau arall wedi eu diystyru oherwydd gwahanol resymau, y safle yma oedd yr un mwyaf addas;

·         Yn cydnabod bod pryderon o ran iechyd ond nid oedd yn ystyriaeth gynllunio gan y cyflwynwyd datganiad ICNIRP yn cadarnhau fod y datblygiad yn unol â’r canllawiau ac yn ddiogel;

·         Bod y lleoliad yn synhwyrol ac fe fyddai’n llenwir bylchau o ran y ddarpariaeth gyda buddion economaidd a cymdeithasol arwyddocaol yn deillio o’r bwriad.

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd yn gweithredu fel aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y gymuned leol yn pryderu am effaith negyddol y datblygiad ar iechyd yn enwedig iechyd y plant;

·         Cyfeirio at astudiaethau rhyngwladol a oedd yn dangos bod datblygiadau o’r fath yn cael effaith ar iechyd;

·         Bod angen bod yn rhagofalus. A oedd safle arall mwy derbyniol na wrth ymyl yr ysgol?

·         Bod angen ystyried yr oblygiadau yn ddwys iawn.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod yr ymgeisydd wedi ystyried safleoedd eraill ac wedi nodi'r safleoedd a ystyriwyd fel rhan o’r cais;

·         Ei fod yn faes technegol, deallir bod rhaid lleoli’r mast yn weddol agos at ddefnyddwyr;

·         Bod ymgyrch sylweddol i gyflenwi signal 4G i lefydd ble nad oedd yn bodoli’n barod;

·         Gellir gosod mast telathrebu hyd at 15 medr o uchder o dan hawliau datblygu a ganiateir heb wneud cais cynllunio. Roedd mastiau telathrebu wedi eu caniatáu gan y Pwyllgor yn ddiweddar ar safleoedd yn Groeslon a Tanygrisiau;

·         Bod dim amheuaeth bod angen economaidd a cymdeithasol am y ddarpariaeth;

·         Gwerthfawrogi’r pryderon. O ran iechyd, roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau bod y datblygiadau yn cydymffurfio â’r gofynion cenedlaethol.

·         Dylid ystyried cynnal ymweliad safle yn sgil y pryderon a fynegwyd o ran lleoliad y mast a’r effaith weledol.

 

(dd)   Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Nad oedd y lleoliad yn addas gyda safleoedd mwy addas yn Nyffryn Nantlle;

·         Y dylai’r ymgeisydd asesu safleoedd eraill;

·         Bod angen derbyn gwybodaeth am y safleoedd eraill a ddiystyrwyd;

·         Ddim yn ymwybodol o’r effaith ar iechyd felly dylid bod yn rhagofalus;

·         Bod gair y Pennaeth yn ddigonol felly nid oedd angen cynnal ymweliad safle;

·         Nid oedd y safle yn addas a ni fyddai’r stad ddiwydiannol yn addas ychwaith.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn deall y teimladau cryf a phryderon lleol ond roedd rhaid bod yn ofalus o ran gwrthod y cais ar sail materion iechyd. Nododd bod y bwriad yn cydymffurfio â deddfwriaeth genedlaethol ac nad oedd manylion llawn yr astudiaethau rhyngwladol gerbron y Pwyllgor. Pwysleisiodd y byddai’n anodd amddiffyn gwrthod y cais ar sail materion iechyd mewn apêl. Nododd y byddai nifer o geisiadau cynllunio am ddatblygiadau o’r fath yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol felly roedd rhaid bod yn hynod o ofalus o ran clymu ceisiadau a gyflwynir yn y dyfodol pe gwrthodir y cais ar y sail a nodir.

 

Nododd aelod nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad i wella’r ddarpariaeth ond bod oddeutu 90% o fastiau telathrebu wedi eu lleoli yng nghefn gwlad agored lle'r oedd y signal yn gryfach. Ychwanegodd ei phryder o ran agosatrwydd y mast at yr ysgolion, meithrinfa a chanolfan hamdden. Nododd y dylid derbyn gwybodaeth o ran y 10 lleoliad a ystyriwyd a pham nad oeddent yn addas.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

Dogfennau ategol: