Agenda item

Ymestyn maes carafanau teithio.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cynyddu nifer carafanau teithiol o 10 i 17 ar safle presennol.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli rhwng pentref Pengroeslon a Rhydlios a thu mewn i Ardal Gwarchod y Tirlun.

 

         Nodwyd bod polisi D20 o’r CDUG yn caniatáu cynigion i gynyddu nifer y lleiniau ar safleoedd carafanau teithiol presennol, cyhyd a bod y cynnig yn ffurfio rhan o gynllun a fyddai’n arwain at welliannau amgylcheddol a gweledol o ran lleoliad, gosodiad, dyluniad a gwedd y safle a’i le yn y dirwedd o’i amgylch gan ystyried unrhyw effaith gronnol safleoedd carafanau teithiol presennol.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd bod hawl cynllunio am 10 carafán teithiol yn bodoli ar y safle yn ystyriaeth cynllunio o bwys wrth ystyried y cais presennol. Ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn amharu yn sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal, diogelwch ffyrdd na mwynderau trigolion cyfagos.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nid oedd y gymuned leol yn hapus efo’r bwriad;

·         Bod y safle carafanau yn hynod o weladwy o’r lôn ac nad oedd llawer o sgrinio;

·         Nid oedd y tirlunio a gynigir yn mynd i gael effaith, fe ddylid plannu coed brodorol;

·         Bod angen tirweddu ar hyd ochr y safle gyda’r trac mynediad a dim y cae ochr arall i’r trac, cryfhau’r clawdd ochr Porthor a thirlunio ar hyd y ffin gyda’r ffordd gyhoeddus.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio  gellir gofyn i’r ymgeisydd symud y llinell tirlunio fel ei fod yn mynd o amgylch y safle yn ogystal. Ychwanegodd y gellir ystyried dwysedd y tirlunio a defnydd o goed a oedd yn gynhenid i’r ardal.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Dylai’r ymgeisydd ymgymryd â’r tirlunio cyn ehangu’r safle;

·         Bod y safle presennol yn hollol amlwg yn y tirlun ac fe ddylid gofyn i’r ymgeisydd i blannu coed cyn cyflwyno cais i ehangu’r safle;

·         A oedd amod ar y caniatâd cynllunio gwreiddiol o ran tirlunio?

·         Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Y dylid rhoi ystyriaeth i effaith y cynnydd mewn nifer o garafanau ar y dirwedd. Fe argymhellir, pe ganiateir y cais, i osod amod tirlunio ac fe sicrheir bod y cynllun tirlunio yn cyd-fynd â gosodiad y safle;

·         Caniatawyd y cais cynllunio gwreiddiol 1986 ac nid oedd rheidrwydd bod amod tirlunio wedi ei osod.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.      5 mlynedd

2.      Unol â chynlluniau a gyflwynwyd

3.      Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 17

4.      Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd.

5.      Dim storio ar y tir.

6.      Rhestr cofnodi

7.      Tirlunio

Dogfennau ategol: