skip to main content

Agenda item

Estyniad ochr, gosod tanc septig ac adeiladu ffordd fynediad newydd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Estyniad ochr, gosod tanc septig ac adeiladu ffordd fynediad newydd.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle'r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad o fewn yr AHNE a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

         Nodwyd bod yr estyniad o ran ei ddyluniad, graddfa a maint yn dderbyniol ac yn gymesur gyda’r eiddo presennol.

 

         Tynnwyd sylw bod yr Uned AHNE wedi nodi bod yr estyniad a fwriedir yn gweddu’n dda i’r adeilad gwreiddiol ac nad oedd pryderon o ran yr effaith ar yr AHNE. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau gan yr Uned AHNE yng nghyswllt y trac mynediad, fe argymhellir gosod amod, pe caniateir y cais, ar gyfer cyflwyno manylion tirlunio ar gyfer y trac ac yn benodol ar gyfer y ffin ddwyreiniol.

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn siarad ar ran teulu Fferm Bryn a oedd yn denantiaid amaethyddol i’r ymgeisydd;

·         Nad oedd yr ymgeisydd wedi ymgynghori efo’r tenantiaid cyn cyflwyno’r cais;

·         Bod y fferm oddeutu 100 acer a byddai colli ychydig o dir yn cael effaith gan fygwth hyfywdra'r fferm;

·         Bod y perchennog wedi cadarnhau ar lafar efo’r tenantiaid na fyddai’r safle yn cael ei werthu;

·         Byddai’n well lleoli’r estyniad tu cefn i’r , yn hytrach na’r ochr, er mwyn osgoi’r tir amaethyddol;

·         Bod angen cyflwyno adroddiad o ran ystlumod a’r dylluan wen a oedd yn cynefino yn yr adeiladau allanol.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt cynllunio;

·         Materion tenantiaeth ddim yn berthnasol o ran cynllunio;

·         Nid oedd yr Uned Bioamrywiaeth, Uned AHNE, Cyngor Cymuned na Chyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r bwriad.

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod yr estyniad yn gweddu i’r adeilad presennol;

·         Ei fod yn cytuno efo’r sylwadau yn yr adroddiad o ran yr angen i godi clawdd gan ddefnyddio'r pridd a godir i wneud y trac mynediad;

·         Bod angen cynnal archwiliad i gadarnhau os oedd ystlumod yn bresennol cyn gwneud y gwaith.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau mai isel oedd risg presenoldeb ystlumod yn yr adeilad ac y byddai’n afresymol gofyn am arolwg llawn. Ychwanegodd, pe caniateir y cais, yn unol â’r arfer fe roddir nodyn ar y cais yn nodi’r rheidrwydd i atal gwaith os oedd ystlumod yn bresennol. Roedd hyn yn cael ei reoli tu allan i’r drefn cynllunio.

 

(dd)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Nododd aelod ei fod ddim yn deall pam y gofynnir am drac mynediad newydd yn yr AHNE pan fo mynediad i’r safle eisoes. Cynigodd welliant i gynnal ymweliad safle, eiliwyd y gwelliant.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod rhaid i dir feddiannwr rhoi rhybudd i denant amaethyddol;

·         Pryder o ran y llwybr cyhoeddus gyda’r estyniad gyferbyn;

·         Os byddai’r ymgeisydd ddim yn gallu darparu trac mynediad newydd, beth fyddai’r sefyllfa?

 

(e)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod rhai materion a gyfeiriwyd atynt gan gynrychiolydd y gwrthwynebydd ddim yn faterion cynllunio ac nid oedd addewidion y perchennog i’r tenant yn ystyriaeth cynllunio;

·         Nid oedd gan yr Uned AHNE wrthwynebiad i’r bwriad;

·         Byddai’r trac mynediad newydd yn hwyluso preifatrwydd ond os na fyddai’n bosib creu trac mynediad newydd fe fyddai’r mynediad presennol yn dderbyniol.

 

          Pleidleisiwyd ar y gwelliant, fe syrthiodd ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd.

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol a'r cynlluniau.

3.     Llechi’r to i gydweddu.

4.     Waliau allanol i fod o rendr lliw gwyn.

5.     Tirlunio yn arbennig ochr ddwyreiniol y trac.

 

Nodyn:

1.     Diogelu llwybr cyhoeddus.

2.     Copi o sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

3.     Peidio’r gwaith os darganfyddir fod ystlumod yn yr eiddo.

Dogfennau ategol: