Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts
Cofnod:
Dymchwel
tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle ar benrhyn Abersoch,
y tu allan i ffin datblygu'r
pentref a thu mewn i Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE). Nodwyd bod y safle ar amrywiol
lefelau ac wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac ymysg amryw o dai
eraill a oedd wedi eu lleoli ar glogwyn uwchben y môr. Adroddwyd y cyflwynwyd
lluniau gyda’r cais yn dangos y tŷ bwriadedig yn
y tirlun ehangach; gweler o’r lluniau bod y tŷ yn weladwy o’r môr yn
bennaf a’r eiddo cyfochrog i’r de a gogledd o’r safle. Ychwanegwyd y byddai’r
to, peth o wal gefn y modurdy a wal derfyn y safle i’w gweld o’r llwybr
cyhoeddus cyfochrog.
Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan gyfeirio at ymateb yr Uned
AHNE i’r cynlluniau diwygiedig. Nodwyd bod yr Uned o’r
farn na
fyddai’r bwriad yn amharu ar yr AHNE. Yn dilyn
derbyn sylwadau gan wrthwynebydd yng nghyswllt rhoi
statws adeilad rhestredig i’r strwythur presennol, trafodwyd y sylwadau gydag Uwch Swyddog
Cadwraeth y Cyngor ac fe gadarnhaodd
nad oedd yr adeilad presennol
o werth hanesyddol na phensaernïol ac nid oedd yn
cyfiawnhau statws rhestredig.
Nodwyd bod Polisi CH13 o’r CDUG, sef y prif bolisi
wrth asesu egwyddor y datblygiad, yn datgan y caniateir
cynigion i ddymchwel tŷ mewn cyflwr gwael
yng nghefn gwlad ac i ddatblygu
unedau byw newydd os cydymffurfir
a’r 5 maen prawf perthnasol.
Nodwyd yr ystyrir fod
dyluniad yr eiddo o edrych arno o’r
môr yn gweddu
gyda’r safle oherwydd ei fod
yn dilyn siâp, gosodiad a phroffil y safle a defnyddir deunyddiau a oedd yn creu
dyluniad ysgafn. Teimlir bod y lluniau, a gyflwynwyd fel rhan o’r cais,
yn dangos na fyddai’r
adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun
ac er bod edrychiad y tŷ yn wahanol,
ni ystyrir y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i dirwedd ac arfordir
yr AHNE.
Nodwyd bod Llwybr Cyhoeddus gerllaw’r safle a bod angen ei ddiogelu
yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad
a gellir gwneud hyn drwy amod
ar y caniatâd cynllunio.
Nodwyd bod lleoliad, dwysedd, cynnydd mewn maint
yn rhesymol a’r dyluniad a’r
deunyddiau yn welliant i safle
agored o’r fath. O gofio bod tŷ ar y safle’n bresennol,
a sawl tŷ arall bob ochr i’r safle, ni fyddai newid arwyddocaol i dirlun a golygfeydd
o, ac ar draws yr AHNE nac effaith sylweddol
arwyddocaol ar fwynderau’r trigolion cyfagos.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y datblygiad wedi ei ddylunio
i gyd-fynd efo amlinell/ffurf
y tir;
·
Bod y dyluniad yn ceisio cael
cydbwysedd o ran preifatrwydd
cymdogion a’r dyhead am olygfeydd;
·
Diwygiwyd uchder yr adeilad
a’r wal ar
y ffin ger y maes parcio cyhoeddus
er mwyn gwella
golygfeydd o’r llwybr cyhoeddus ac fe gydnabuwyd y newid gan yr
Uned AHNE;
·
Bod y lluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais
yn dangos, yn arbennig yr
un o gyfeiriad Lôn Pont
Morgan, y byddai’r datblygiad
prin yn weladwy
o’r pentref;
·
Nid oedd cymdogion wedi gwrthwynebu ac roedd yr ymgeisydd wedi
cyfarch eu sylwadau.
(c) Cynigwyd
ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau:
·
Pryder o ran egwyddor dymchwel a chodi tŷ a byddai ceisiadau eraill yn cael eu
cyflwyno pe caniateir y cais. Bod dymchwel adeiladau yn cael ei
yrru gan resymau masnachol yn hytrach na
phryderon am sefydlogrwydd yr adeilad;
·
Os caniateir y cais byddai delwedd
bentrefol Abersoch yn newid yn
gyfan gwbl;
·
Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r
bwriad gan y byddai’n anghymarus a gweddill y tai o’i amgylch;
·
Bod y dyluniad yn gweddu i’r
safle;
·
Mai pentref glan y môr yw
Abersoch, ddim yn gweld y dyluniad
yn gweddu’r safle. Dylid cynnal
ymweliad safle;
·
Pryder o ran yr effaith ar yr
Iaith Gymraeg yn y pentref;
·
Pryder o ran dymchwel tai efo hanes
er mwyn eu
gwerthu ar y farchnad agored. Roedd safleoedd yn cael eu
gwerthu oherwydd eu lleoliad;
·
Bod y bwriad yn uchelgeisiol. Dylid cydnabod nad ydyn yn
byw yn y gorffennol ac yng ngwledydd Ewrop roedd tai o ddyluniad gwahanol yn yr
un ardal;
·
Nid oedd yr adeilad presennol
yn addas. Dylid ymweld â’r
safle oherwydd ei fod mewn
lleoliad amlwg;
·
Bod dyletswydd i warchod yr
AHNE, pryder effaith gronnol o ran yr hawl i ddymchwel
a moderneiddio ar olygfeydd i mewn
ac allan o’r
AHNE. O’r farn nad oedd
gostwng uchder yr adeilad 1 medr
yn dderbyniol ac fe ddylai Cydbwyllgor
Ymgynghorol AHNE Llŷn ystyried y cais oherwydd ei effaith.
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:
·
Bod asesiad o ran egwyddor y
datblygiad yn erbyn 5 maen prawf polisi CH13 o’r CDUG ‘Dymchwel ac ail-adeiladu
tai mewn pentrefi gwledig ac yng nghefn gwlad’ wedi ei gynnwys yn yr adroddiad;
·
Annog cynnal ymweliad safle
gan mai’r prif faterion yn codi oedd yr effaith weledol
a’r effaith ar yr AHNE.
Nododd aelod pe cynhelir ymweliad safle y dylid edrych ar y safle o wahanol
gyfeiriadau yn y pentref a nodi cymeriad adeiladwaith yn yr ardal.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: