(copi’n amgaeedig)
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd, er cymeradwyaeth, achos busnes terfynol
GwE oedd yn crynhoi’r sefyllfa
bresennol fesul maes gwaith,
yn asesu’r opsiynau posib ac yn argymell yr
ymyraethau mwyaf effeithiol ar gyfer
cyflawni.
Nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol – Cadeirydd y Bwrdd Rheoli) yr aseswyd
y cynllun busnes yn erbyn y meini
prawf canlynol:
·
A yw’n gwneud y gorau o brofiad ac arbenigedd?
·
Mewn adeg o lymder ariannol a sicrheir gwerth am arian ac oes
hyblygrwydd i reoli’r lleihad mewn arian?
·
A yw’n ddealladwy fel y gellir ei rannu
â rhan ddalwyr?
(b) Nododd Mr Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) bod yr Awdurdodau Lleol
wedi cadw’r rolau arweiniol yn y meysydd hyn
felly dylid sicrhau capasiti
digonol o fewn y rhwydweithiau.
Mewn
ymateb nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol – Cadeirydd y Bwrdd Rheoli), bod y Bwrdd Rheoli wedi diwygio
ei gylch gwaith ynghyd a’i
aelodaeth i gydymffurfio â’r model cenedlaethol.
(c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol:
·
Yr angen i wella Cyrff
Llywodraethu Ysgolion.
·
Mewn ymateb i sylw gan
aelod, nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol – Cadeirydd y Bwrdd Rheoli) bod prif swyddog yn chwarae
rôl arweiniol ar bob rhwydwaith. Ychwanegodd y gallai awdurdodau rhoi mwy o adnoddau i gyflawni rhaglen
benodol ond pan sefydlwyd GwE ni ddarganfuwyd gofynion unigryw gan awdurdodau unigol.
·
Byddai atebolrwydd yn gliriach pan fo’r Cytundeb Lefel
Gwasanaeth yn ei le yn nodi
rôl a chyfrifoldebau.
·
Bod adroddiad SAC yn nodi y dylid
gweld symudiad tuag at gyd-berchnogi yn hytrach na chomisiynu gan awdurdod unigol
a bod GwE yn cymryd camau ymlaen
gyda chynllun busnes ar y cyd
wedi ei lunio.
Penderfynwyd:
(a) Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad.
(b) Cymeradwyo’r ymyraethau canlynol fesul maes gwaith:
·
Cyngor a Chefnogaeth i Lywodraethwyr (tudalen 10 o’r adroddiad)
·
Y Cyfnod Sylfaen (tudalen 10 o’r adroddiad)
·
Llwybrau Dysgu 14 – 19 (tudalen 12 o’r adroddiad)
·
Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
a Grant y Gymraeg Mewn Addysg (tudalen 13 o’r adroddiad)
·
Cydlynu Rhanbarthol y Strategaeth TGC
(tudalen 14 o’r adroddiad)
·
Cefnogaeth
Adnoddau Dynol Arbenigol (tudalen 14 o’r
adroddiad)
(c) Dirprwyo’r cyfrifoldeb
o gynllunio a gweithredu ar yr ymyraethau i Fwrdd
Rheoli GwE.
Dogfennau ategol: