Agenda item

Adeiladu deulawr.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Adeiladu tŷ deulawr.

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2017 er mwyn rhoi cyfle i swyddogion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd baratoi cynllun ar gyfer y pwyllgor yn dangos lleoliad y tŷ bwriadedig mewn perthynas i ffin datblygu'r pentref fel y dynodwyd o fewn Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) a Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl). Roedd y cynllun wedi ei gynnwys yn y rhaglen ac amcangyfrifir y byddai 60% o arwynebedd llawr y tŷ tu allan i’r ffin datblygu.

 

Nodwyd mai’r prif fater cynllunio oedd egwyddor y datblygiad. Eglurwyd oherwydd bod rhan helaeth o’r safle ynghyd â’r wedi eu lleoli tu allan i’r ffin datblygu roedd y bwriad cyfystyr a chodi newydd yng nghefn gwlad ac yn groes i bolisi C1, CH4 a CH9 o’r CDUG.

 

Nodwyd bod y swyddogion yn parhau i bryderu ynglŷn ag effaith andwyol y bwriad ar sail gor-edrych, colli preifatrwydd a chreu strwythur gormesol gan gael effaith negyddol ar ddeiliaid tai cyfagos.

 

         Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, y sylwadau a’r wybodaeth a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd, ni ystyriwyd fod y datblygiad yn dderbyniol.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Wedi derbyn gohebiaeth gan yr ymgeisydd, roedd yn anghytuno o ran lleoliad y ffin datblygu;

·         A fyddai canran uwch o arwynebedd llawr tu fewn y ffin yn gwneud gwahaniaeth?

·         Bod nifer o geisiadau aflwyddiannus wedi eu cyflwyno yng nghyswllt y safle;

·         Cyngor Cymuned Llanbedrog wedi tynnu eu sylwadau yn ôl;

·         Nid oedd y bwriad yn cydymffurfio â’r polisïau gan ei fod tu allan i’r ffin datblygu ac fe fyddai’n amharu ar fwynderau preswyl tai cyfagos;

·         Er mwyn dangos tegwch i’r ymgeisydd dylid cynnal ymweliad safle;

·         Ddim yn gweld diben cynnal ymweliad safle;

·         Wedi cynnig cynnal ymweliad safle er mwyn asesu agosatrwydd y at y gweithdy ac effaith y bwriad ar y lôn a’r fynedfa.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod y ffin datblygu yn y CDUG a’r CDLl yr un peth ac oherwydd y drafodaeth yn y Pwyllgor blaenorol fod sleid wedi ei ddarparu i’r Pwyllgor er mwyn dangos y sefyllfa ynglŷn â’r ffin a lleoliad y tŷ arfaethedig yn glir.

·         Ei fod yn fater o egwyddor, dim ond mewn rhai sefyllfaoedd eithriadol y caniateir tŷ marchnad agored tu allan i’r ffin datblygu. Nid oedd amgylchiadau y cais hwn yn eithriadol felly ni welir diben mewn cynnal ymweliad safle.

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig i gynnal ymweliad safle, syrthiodd y cynnig.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Holodd aelod a oedd yr ymgeisydd wedi trafod efo’r swyddogion yng nghyswllt gwella’r bwriad. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio byddai gosod y mwy i mewn i’r ffin datblygu yn gwaethygu’r effaith ar fwynderau preswyl tai cyfagos. Eglurodd bod y swyddogion eisoes wedi trafod nifer o opsiynau gyda’r ymgeisydd.

 

          PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

          Rhesymau:

 

1.     Mae Polisi CH7 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn datgan mai fel eithriad i bolisi y caniateir tai ar gyrion ffiniau datblygu pentrefi a hynny ar gyfer tai fforddiadwy. Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn cynnig datblygiad fforddiadwy, nid oes tystiolaeth wedi ei gyflwyno i ddangos fod yr ymgeisydd mewn gwir angen tŷ fforddiadwy ac nid oes unrhyw fwriad i gyfyngu meddiannaeth i’r dyfodol i angen fforddiadwy, felly mae’r cynnig cyfystyr a thŷ newydd yng nghefn gwlad. Mae’r bwriad felly yn groes i egwyddorion polisi C1, CH7 a CH9 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd; a Chanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd 2009. 

 

2.     Byddai’r tŷ, oherwydd ei faint a’i leoliad yn arwain at ymwthiad gormesol a niweidiol i fwynderau trigolion eiddo cyfagos, yn enwedig oherwydd effaith ddominyddol y tŷ arfaethedig a’r gor-edrych a fyddai'n deillio ohono. Mae'r cais felly'n groes i bolisïau B22 a B23 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.

Dogfennau ategol: