Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio. Ar sail gwaith Archwilio Mewnol a gwblhawyd yn ystod
2016/17, roedd y swyddog yn fodlon bod gan
Gyngor Gwynedd fframwaith
cadarn o reolaeth fewnol.
Adroddwyd bod 69 allan o 72
archwiliad a oedd yng nghynllun archwilio
addasedig terfynol archwilio mewnol wedi eu cwblhau
erbyn 31 Mawrth 2017, sef 95.83% o’r cynllun, yn erbyn
uchelgais perfformiad o 95%
ar gyfer 2016/17.
Tynnwyd sylw mai gwir ganlyniad
2016/17 o ran mesurydd ‘Cyfran
o adroddiadau dilyniant Archwilio Mewnol yn cyrraedd barn “Derbyniol” neu well (mesur corfforaethol)’ oedd 92% yn hytrach
na 83% fel
y nodir ar dudalen 12 o’r rhaglen.
Cyfeiriwyd
at fesur cyflawni newydd ar gyfer
Archwilio Mewnol – ‘Cyfran o’r gweithrediadau
cytunedig sydd wedi eu gweithredu
yn unol â’r
amserlen.’ Nodwyd bod llunio gweithrediadau cytunedig efo swyddogion
yn hytrach na llunio
argymhellion, fel y gwnaed yn y gorffennol,
yn annog perchnogaeth swyddogion o’r gweithrediadau.
Mewn
ymateb i sylw gan aelod
yng nghyswllt gostyngiad yn lefel
staffio Archwilio Mewnol, nododd yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod y gostyngiad yn unol
â chynllun arbedion effeithlonrwydd a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn. Ychwanegodd bod swydd wag ar hyn o bryd
yn Archwilio Mewnol, hysbysebwyd y swydd ond siomedig
oedd yr ymateb.
Nododd yr ystyrir efallai
hysbysebu’r swydd fel cytundeb hyfforddi
i gymhwyso.
Nododd aelod bod Adran o’r Cyngor
yn derbyn llawer o farn C ar archwiliadau, holodd os oedd
y sefyllfa wedi gwella a pa mor
debygol y byddai camau wedi eu
cymryd gan yr Adran. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Archwilio bod gwasanaeth o fewn Adran benodol
wedi derbyn llawer o farn C ar archwiliadau a byddai archwiliad dilyniant yn cael
eu cynnal. Ychwanegodd ei fod yn anffodus
pan roedd archwiliadau yn derbyn barn C ond ei fod
yn braf gweld
rheolaethau mewn lle i ymateb
a gobeithir y byddai darganfod datrysiadau cytunedig yn annog
perchnogaeth swyddogion.
Nododd
aelod bod rheolwyr newydd ar rai achlysuron
yn gofyn i Archwilio Mewnol
gynnal archwiliad. Mewn ymateb, nododd
y Rheolwr Archwilio bod rheolwr newydd un
canolfan hamdden wedi gofyn am archwiliad
ac wedi defnyddio’r adroddiad fel cynllun
gweithredu.
Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.13 o’r adroddiad, holodd a fyddai’n fuddiol nodi’r archwiliad dilyniant a oedd
wedi derbyn barn anfoddhaol. Mewn ymateb, nododd
y Rheolwr Archwilio mai archwiliad dilyniant Cynnal a Chadw Safleoedd Gweithdai, Modurdai a Depos, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol oedd wedi derbyn barn anfoddhaol. Adroddwyd ar hyn i’r Pwyllgor mewn
cyfarfod blaenorol. Eglurodd bod y gwasanaeth ers derbyn barn anfoddhaol wedi rhoi cynllun
gweithredu mewn lle i ymateb.
Nododd
yr Aelod Lleyg bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn arfer da, holodd
a fyddai’r drefn yn parhau. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r Gweithgor yn parhau a’i
fod yn galluogi
aelodau i drafod archwiliadau mewn mwy o ddyfnder
efo’r swyddogion perthnasol.
Cyfeiriodd yr Aelod Lleyg at archwiliad ‘Trefniadau Busnes GwE’ yng
Nghynllun Archwilio Mewnol 2017/18, holodd a fyddai cynghorau eraill yn cyfrannu
gan fod GwE
yn draws sirol. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio mai ar gais
y cyn Pennaeth Addysg y cynhwyswyd yr archwiliad yng
nghynllun 2017/18. Eglurodd mai’r
Cyngor oedd Awdurdod Arweiniol GwE.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel adroddiad blynyddol ffurfiol y Pennaeth Archwilio Mewnol yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2016/17.
Dogfennau ategol: