Cyflwyno adroddiad Uwch Reolwr Refeniw a Risg.
Cofnod:
Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan
yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.
Nodwyd bod camau
gweithredu ar gyfer y meysydd oedd â blaenoriaeth uchel neu ganolog wedi eu
nodi yn y datganiad. Eglurwyd y byddai’r meysydd yma yn derbyn sylw wrth lunio
Cynllun Strategol newydd y Cyngor gan gynnwys prosiectau i ymdrin â hwy.
Nododd y Prif Weithredwr ei fod yn cadeirio’r Grŵp Asesu Trefniadau
Llywodraethu a bod y datganiad gerbron yn gynnyrch gwaith sylweddol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nododd yr aelodau'r prif
sylwadau canlynol:
·
O safbwynt risg llywodraethu ‘Bod yn agored’, fe ddylid ail-edrych ar y gofyn
yn y cyfansoddiad i chwarter yr
aelodaeth bleidleisio o blaid cynnal pleidlais
gofrestredig yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn. Cydnabod na fyddai’n bosib
gwneud yn y pwyllgorau eraill ond oherwydd bod system electronig mewn lle yn Siambr
Dafydd Orwig fe ddylai pob
un pleidlais yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn fod yn
gofrestredig;
·
Bod angen ail-edrych ar y sgôr
risg a nodir o dan ‘Diwylliant’, o’r farn nad
oedd y dystiolaeth a nodir yn y datganiad
yn cyfiawnhau sgôr mor uchel;
·
A oedd y datganiad yn ddogfen gyhoeddus?
·
Byddai cynnwys enghreifftiau
o weithrediaeth yn egluro’n well i bobl pam fod risg
yn derbyn sgôr;
·
O ran cysondeb y datganiad, fe nodir o dan
‘Ymgysylltu’ bod ymarferiad
Her Gwynedd yn hynod o lwyddiannus tra nodir o dan ‘Atebolrwydd’
dim ond 2,000 o drigolion ymatebodd allan o boblogaeth 18+ o bron i 100,000.
Ymatebodd y swyddogion
i’r sylwadau fel a ganlyn:
·
Byddai’n rhaid ystyried y mater fel eitem ffurfiol
yn y Pwyllgor gydag adroddiad yn cloriannu manteision
ac anfanteision cynnal pleidlais gofrestredig ar gyfer pob
un pleidlais yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn;
·
Annog aelodau i fynychu hyfforddiant
yng nghyswllt Ffordd Gwynedd ar 5 Gorffennaf 2017. Yn gyffredinol nid oedd y meddylfryd corfforaethol yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog, drwy
newid diwylliant y Cyngor byddai’r sgôr risg yn
gostwng. Roedd nifer uwch o blant
yn mynd i
ofal yng Ngwynedd o gymharu â chynghorau eraill. Diwylliant yn fater
oedd wir angen sylw. Fe ddiwygir y dystiolaeth yn y datganiad i gyfleu hyn
yn well;
·
Byddai’r datganiad yn ymddangos
ar wefan y Cyngor ac yn cael
ei gynnwys efo’r datganiadau ariannol;
·
Fe gynhwysir enghreifftiau o dan ‘Diwylliant’ ac os oedd aelodau yn
cyfeirio at risgiau penodol eraill fe ellir nodi
enghreifftiau ond fe geisir cadw’r
ddogfen yn fyr;
·
Yng nghyd-destun ‘Ymgysylltu’ roedd yr ymateb yn
dda iawn o gymharu ag ymgynghoriadau eraill ond o ran ‘Atebolrwydd’ nid oedd yn arbennig
o dda.
PENDERFYNWYD:
(i)
cymeradwyo’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2016/17;
(ii) argymell bod Arweinydd y Cyngor
a’r Prif Weithredwr yn arwyddo’r
datganiad;
(iii) dylid derbyn adroddiad yng nghyswllt diwygio
cyfansoddiad y Cyngor i alluogi pob
pleidlais yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn i fod
yn gofrestredig heb y gofyn i
chwarter yr aelodaeth bleidleisio o blaid cynnal pleidlais
gofrestredig.
Dogfennau ategol: