Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Chwefror a 31 Mawrth 2015.
Cofnod:
Gwaith Archwilio
Mewnol am y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2015
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2015 a 31 Mawrth 2015. Wrth gyflwyno’r wybodaeth am y gwaith a gwblhawyd yn ystod
y cyfnod cyfeiriodd y swyddog at -
·
24 o adroddiadau am archwiliadau o’r cynllun gweithredol gyda’r categori barn berthnasol yn cael
ei ddangos.
·
4 Adroddiad
arall (memoranda a.y.b)
·
4 o adolygiadau
grant
·
5 archwiliad
dilyniant
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod
y drafodaeth cyfeiriwyd at
y materion canlynol –
TGCH mewn
Ysgolion Uwchradd
Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed newid cyfrineiriau,
nododd y Rheolwr Archwilio bod yr un gorfodaeth ar
swyddogion ac aelodau i newid cyfrinair
ar gyfer mynediad i’r rhwydwaith,
a bod rheolau penodol ar gyfer systemau
eraill.
Iechyd a Diogelwch
– Gweithio’n Unig
Mewn ymateb i sylw
gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio nad
oedd cwmpas yr archwiliad yn
cynnwys Cynghorwyr ond fod cynnal
archwiliad o’r fath yn rhywbeth
i’w ystyried i’r dyfodol.
Nodwyd mai cyfrifoldeb rheolwyr oedd sicrhau
bod staff yn derbyn yr hyfforddiant perthnasol a bod Swyddogion Iechyd a Diogelwch ar gael i gynorthwyo pan gynhelir asesiadau risg.
Protocol ar Gyswllt Aelod
– Swyddog
Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed yr angen
i Gynghorwyr arwyddo i mewn
ac allan wrth iddynt ymweld ag unrhyw eiddo sy’n
perthyn i’r Cyngor, nododd y Pennaeth Cyllid yr edrychwyd ar
gyflwyno trefn ddigidol o gofrestru i mewn ac allan
efo cerdyn a ddefnyddir i ddefnyddio
argraffwyr ond byddai’n golygu buddsoddiad sylweddol oherwydd y nifer o ddrysau yn yr
adeiladau.
Nododd aelod ei fod yn
cael trafferth ar rai adegau i
dderbyn ymateb i ymholiadau gan
y Gwasanaeth Cynllunio. Mewn ymateb cynghorwyd
yr aelod i gysylltu efo’r
Pennaeth Rheoleiddio Dros Dro i
godi’r mater.
Ychwanegodd aelod y byddai rhestr o fanylion cyswllt swyddogion ynghyd â’u dyddiau gwaith
o fantais i’r aelodau.
Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’n codi’r mater o gysylltu â swyddogion yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Rheoli.
Cydgyfeiriant Rhwydwaith
Nodwyd nad oedd
categori barn wedi ei nodi ar
yr archwiliad hwn gan fod
y cynllun wedi symud yn ei
flaen, ac nad oedd bob amser yn briodol gosod
categori mewn amgylchiadau o’r fath.
Gwasanaethau Plant – Comisiynu Gofal
Mewn ymateb i sylw gan
aelod, nododd y Rheolwr Archwilio y cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr a bod gwaith ar droed i
ffurfioli trefniadau.
Gorfodaeth Parcio
Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed oriau gwaith
Swyddogion Gorfodaeth Sifil a threfniadau gweithio’n unig, nodwyd nad
oedd hyn wedi ei gynnwys
yng nghwmpas yr archwiliad.
Nododd aelod o ystyried yr her ariannol sydd yn wynebu’r
Cyngor, dylid ystyried ehangu rôl Swyddogion Gorfodaeth Sifil i gynnwys dyletswyddau
megis gorfodaeth baw cŵn a chynllunio.
Awgrymodd y Pennaeth Cyllid y gellid rhoi sylw i’r
sefyllfa oriau a gweithio’n unig ynghyd â dyletswyddau amgen i’r Swyddogion
Gorfodaeth Sifil yn y Gweithgor Gwella Rheolaethau efo’r archwiliad ‘Iechyd a Diogelwch – Gweithio’n Unig’, os gwahoddir rheolwr
perthnasol.
PENDERFYNWYD:
(a)
derbyn yr
adroddiadau ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Chwefror 2015 i 31 Mawrth 2015 a chefnogi’r argymhellion a gyflwynwyd eisoes i reolwyr
y gwasanaethau perthnasol er gweithrediad.
(b) bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor, ynghyd â’r Cynghorwyr Trevor Edwards,
John B. Hughes, Dilwyn Morgan a Angela Russell i wasanaethu ar
y Gweithgor i ystyried yr archwiliadau
oedd wedi derbyn categori barn ‘C’ gan roi sylw
i’r sefyllfa oriau a gweithio’n unig ynghyd â dyletswyddau
amgen i’r Swyddogion Gorfodaeth Sifil efo’r archwiliad
‘Iechyd a Diogelwch – Gweithio’n Unig’.
Dogfennau ategol: