Cyflwyno adroddiad Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol).
Aelodau Lleol a effeithir gan y cynigion (nad ydynt yn aelodau o’r Pwyllgor) yn derbyn gwahoddiad: Y Cynghorwyr Cai Larsen, Roy Owen, Jason Parry, Ioan Thomas, Steve Collings, Keith Jones, Nigel Pickavance, Mair Rowlands, Catrin Wager, Glyn Daniels, Linda Ann Jones, Anne Lloyd Jones, Dewi Owen, Mike Stevens, Simon Glyn, Sian Wyn Hughes, W. Gareth Roberts, Gareth Williams, Freya Bentham, Eryl Jones-Williams, Annwen Hughes, Elfed Roberts, Elwyn Jones, Peter Garlick, Edgar Wyn Owen, Craig ab Iago, Dilwyn Lloyd, Eric M. Jones, Owain Williams, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Louise Hughes, Beth Lawton a Alwyn Gruffydd.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr adroddiad, gan nodi bod y Cyngor
Llawn, yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth, wedi derbyn adroddiad ar yr adolygiad.
Eglurodd bod yr amserlen o ran cyflwyno cynigion drafft i’r Comisiwn Ffiniau
gan y Cyngor wedi ei ymestyn i ganol mis Mehefin oherwydd y cyfnod etholiadol.
Nododd y gofynnir
i’r pwyllgor ystyried y cynigion drafft a’r opsiynau posib a nodir yn yr
adroddiad gerbron gan argymell i’r Cyngor Llawn, a fyddai’n cyfarfod ar 15
Mehefin, gynigion gan y Cyngor i’r
Comisiwn Ffiniau. Yn ogystal, argymell i’r Cyngor Llawn y dylid pwyso eto ar y Comisiwn Ffiniau i roi sylw i anghenion
cynrychiolaeth leol effeithiol ac effaith y boblogaeth oedd ddim ar y gofrestr
etholwyr wrth lunio ei gynigion.
Tynnodd sylw bod
y Comisiwn Ffiniau wedi
cynnig mai’r cyfartaledd o etholwyr i bob aelod yng Ngwynedd fyddai 1,243 o
etholwyr. Nododd bod pob etholaeth yn wahanol ac nid oedd yn ymarferol glynu yn
rhy llym at y ffigwr hynny ym mhob achos. Nod y cynigion drafft oedd caniatáu
amrywiaeth o hyd at 25% uwchben neu o dan y nifer hynny, ar sail y math o
amrywiaeth yr oedd y Comisiwn wedi ei ganiatáu yn y gorffennol.
Nododd mai egwyddor arall oedd wrth wraidd y cynigion gerbron oedd
ceisio lleihau’r nifer o etholaethau dau aelod yn y sir. Eglurodd mai barn y
Cyngor oedd y dylid cael etholaethau un aelod er mwyn symleiddio atebolrwydd i
etholwyr lle mae daearyddiaeth a natur cymunedau yn caniatáu hynny.
Adroddodd bod yr
opsiynau wedi eu trafod i wahanol raddau gyda’r Aelodau Lleol perthnasol ac fe ymgynghorwyd â’r Cynghorau Cymuned.
Tywysodd yr
aelodau drwy’r adroddiad gan ofyn iddynt fynegi barn ar y cynigion a gwahoddwyd
yr Aelodau Lleol a oedd yn bresennol i gyflwyno
sylwadau.
Dolbenmaen / Porthmadog (Tremadog)
Nodwyd bod y ddwy
etholaeth yn rhai, lle ni awgrymir newid ar hyn o bryd, ond y gallai’r Comisiwn
Ffiniau ystyried eu newid, os nad eleni, yn sicr erbyn yr adolygiad a fyddai’n
digwydd ar ôl etholiadau 2022. Os cyfyd yr angen i newid, yr unig bosibilrwydd
y gellid ei ystyried oedd rhannu ward Porthmadog (Tremadog) fel bod rhai o’r
wardiau cymunedol yn ymuno ag etholaeth Dolbenmaen ac
eraill yn symud i un o ddwy etholaeth arall Porthmadog gan arwain at leihad o 1
sedd. Gofynnwyd i’r aelodau am eu barn o ran argymell newid neu adael y mater
i’r Comisiwn.
Nododd aelod
lleol Dolbenmaen y byddai unrhyw newid a ystyrir yn
golygu ychydig iawn o newid o ran niferoedd etholwyr. Byddai ymestyn y ffin
tuag at Cwmstradllyn efallai’n balansio’r niferoedd ond byddai ymestyn y ffin i
Pwllgoleulas yn golygu gormod o symudiad un ffordd o
ran ward Dolbenmaen.
Nododd aelod
lleol Porthmadog (Tremadog) bod ardal ddaearyddol y ward yn ei ffurf bresennol
yn golygu pellter rhwng Penmorfa a’r Wyddfa. ‘Roedd o’r farn bod yr hyn a ystyrir ddim yn rhoi ystyriaeth i’r problemau pragmataidd
a oedd yn wynebu pobl wledig a symudiadau cymdeithasol. Nododd os argymhellir
newid fe fyddai Pant Glas yn gorwedd yn well efo
Bryncir na Clynnog. Eglurodd oherwydd hanes/traddodiad bod Tremadog efo
Porthmadog yn gwneud synnwyr ac fe fyddai ward o
Fryncir i’r Wyddfa yn rhy fawr.
Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) mai niferoedd etholwyr
oedd prif ystyriaeth y Comisiwn ond oherwydd bod yr aelodau lleol yn fodlon nad
oedd angen newid ac nad oedd unrhyw newid ystyrlon arall yn cynnig ei hun, ni
chyflwynir cynnig i’r Comisiwn.
PENDERFYNWYD peidio
argymell newid i’r Cyngor Llawn.
Etholaethau lle na gynigir
newidiadau
Nododd aelod bod
niferoedd etholwyr wardiau Gerlan, Ogwen a Tregarth a Mynydd Llandygai oddeutu
30% dros y ffigwr 1,243, a gofynodd a oedd perygl y byddai’r Comisiwn yn
ystyried bod y nifer etholwyr yn rhy uchel? Cydnabodd yr Uwch Reolwr
(Cefnogaeth Gorfforaethol) bod perygl y byddai’r Comisiwn yn edrych arnynt ond
gobeithir na fyddent yn awgrymu newid gan bod eu prif
ffocws ar yr etholaethau bychan.
Ychwanegodd y
Prif Weithredwr mai llefydd naturiol efo'i gilydd dylai yrru’r gwaith o ran
llunio ffiniau etholaethol ond mathemateg oedd yn dueddol o yrru’r Comisiwn.
Nododd y byddai rhaid i’r Cyngor amddiffyn yr hyn a gynigir i’r Comisiwn rhag
iddynt edrych ar y fathemateg a llunio etholaethau 2 neu 3 aelod, a oedd ym
marn y Cyngor yn drysu atebolrwydd. Cadarnhaodd bod risg ond bod y Cyngor yn
ceisio creu cynllun y gall y Cyngor ei amddiffyn.
Ardal Dinas Bangor
Adroddodd yr Uwch
Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) ei fod wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Dinas
Bangor ar 5 Mehefin a’u bod yn ei hanfod yn derbyn y byddai gostyngiad yn
niferoedd y cynghorwyr ond eu bod eisiau lleihau’rgostyngiad. Nododd bod y
Cyngor Dinas am gyflwyno opsiwn o ran rhannu’r ddinas i leihau’r gostyngiad a
gynigir cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.
Nododd aelod
lleol Deiniol y cyflwynodd awgrym i uno Garth a Hirael cyn ei fod wedi
dod yn ymwybodol bod ymgyrch i geisio cofrestru llawer o bobl yn ardal Bangor.
‘Roedd nifer o unigolion ddim wedi cofrestru i bleidleisio yn ward Deiniol ond
yn y tymor hir fe ellir bod cynnydd sylweddol yn nifer
yr etholwyr.
Nododd aelod lleol
Menai (Bangor) bod Prifysgol Bangor yn trafod trefniadau o ran cofrestru pob
myfyrwyr yn awtomatig. Gallai niferoedd etholwyr gynyddu’n sylweddol felly fe ddylid pwyllo a disgwyl am ymateb mwy cadarn gan y
brifysgol.
Nododd aelod
lleol Garth ei fod yn syniad edrych ar ffigyrau hanesyddol o ran niferoedd
etholwyr gydag oddeutu 9,000 o fyfyrwyr ar goll o’r niferoedd presennol.
Nododd aelod ei fod yn cytuno efo sylwadau’r aelodau lleol, roedd dogfen
y Comisiwn yn cyfeirio at poblogaeth ac etholwyr, o edrych ar y boblogaeth
roedd y wardiau presennol yn cyrraedd y gofynion. Ychwanegodd na fyddai’r newid a gynigir i
gydfynd â gofynion y Comisiwn o ran etholwyr yn adlewyrchu gwir waith
cynghorydd a fe ddylid rhoi cyfle i’r aelodau lleol a Cyngor Dinas Bangor
gyflwyno cynnig.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) nad oedd y
Comisiwn am ymestyn y dyddiad cau ac roeddent yn asesu ar bwynt mewn amser gan
adolygu pan gynhelir adolygiad o ffiniau etholaethol yn y dyfodol. Nododd nad oedd yn anghytuno efo’r sylwadau a wnaed ond ceisir
ymateb yn unol â gofynion y Comisiwn.
PENDERFYNWYD rhoi cyfle i’r aelodau lleol a Chyngor Dinas Bangor i
gyflwyno cynnig cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.
Ardal Tref Caernarfon
Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y gwneir awgrymiadau i
dacluso ffiniau yn nhref Caernarfon, gan ddefnyddio ffiniau naturiol Ffordd
Llanberis a’r Ffordd Gyswllt trwy’r dref fel ffiniau amlwg a naturiol. Tynnwyd sylw y byddai hyn yn gadael sefyllfa
etholaeth bresennol Seiont, yn etholaeth 2 aelod gydag oddeutu 2,392.
Fodd bynnag, er mwyn gweithredu ar ddymuniad y Cyngor i geisio cael etholaethau
un aelod, argymhellir ei rannu i mewn i ddwy etholaeth - Etholaeth Ganol Tref
Caernarfon o oddeutu 1,177 ac Etholaeth Hendre, oedd yn bennaf yn un stad tai
mawr unigol, o tua 1,215 o etholwyr. Adroddwyd bod y
Cynghorydd Roy Owen (aelod lleol Seiont) yn anghytuno efo’r cynigion.
Nododd aelod lleol Cadnant ei fod yn gefnogol i’r cynigion a fyddai’n
tacluso ffiniau’r dref ac yn cyd-fynd â gofynion y Comisiwn.
Nododd y
Cynghorydd Cai Larsen (aelod lleol Seiont) ei fod yn
croesawu’r cynigion synhwyrol a bod ward Seiont yn enfawr gyda mannau
difreintiedig gyda llawer o waith achos.
Mewn ymateb i
sylw gan aelod lleol Cadnant mai heno fyddai cyfarfod y Cyngor Tref, nododd yr
Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) os derbynnir sylwadau gan y Cyngor Tref
fe’u cynhwysir yn yr adroddiad i’r Cyngor Llawn.
PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.
Ardal Ffestiniog
Nododd yr Uwch
Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) tra roedd ardal Bowydd a Rhiw yn iawn fel y mae, roedd etholaeth Diffwys a Maenofferen gyda 750 o
etholwyr yn rhy fechan ac etholaeth Teigl (1,315) ychydig yn fwy na’r
cyfartaledd. Adroddwyd ymhellach i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad o ran y ffin
a gynigwyd gan Gyngor Tref Ffestiniog, y bu
camddealltwriaeth o ran pa hen bost y cyfeiriwyd ato. Nododd
bod y Cyngor Tref a’r aelodau lleol yn unfrydol o’u cefnogaeth i’r ffin
ddiwygiedig a oedd yn cydymffurfio â gofynion y Comisiwn.
PENDERFYNWYD argymell y
cynnig i’r Cyngor Llawn.
Ardal Tywyn
Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod etholaeth Tywyn yn
etholaeth dau aelod. Tynnodd sylw bod 3 ward
cymunedol yn ardal Tywyn, roedd ward Morfa yn agos i’r hyn a edrychir o ran
niferoedd etholwyr gyda wardiau Tywyn Gorllewin a Thywyn Dwyrain efo'i gilydd
tua’r nifer iawn felly roedd ffin naturiol ar gyfer creu 2 etholaeth. Adroddodd bod yr aelodau lleol yn gefnogol i’r cynnig.
Nododd bod risg o
ran etholaethau Aberdyfi a Pennal oherwydd bod rhagolygon am leihad pellach yn
nifer etholwyr ond awgrymir am y tro fod ward Tywyn Dwyrain yn mynd hefo ward
Tywyn Gorllewin.
PENDERFYNWYD argymell y
cynnig i’r Cyngor Llawn.
Ardal Abersoch, Aberdaron, Botwnnog, Tudweiliog,
Morfa Nefyn a Llanbedrog
Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod y 3 opsiwn posib a nodwyd
yn yr adroddiad yn arwain at leihad o dri aelod yn yr ardal. Adroddodd y cynhaliwyd trafodaethau efo’r aelodau
lleol lle mynegwyd pryder bod yr opsiynau a gynigir yn golygu cymaint o leihad
o 3 aelod a’r effaith ar gynrychiolaeth effeithiol i’r boblogaeth gyfan.
Nododd y rhoddir cyfle i’r aelodau lleol gynnig opsiwn arall cyn cyfarfod y
Cyngor Llawn a fyddai’n dilyn at y gostyngiad mwyaf synhwyrol o ran aelodau.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod o ran ymateb gan gynghorau cymuned, nododd yr Uwch Reolwr
(Cefnogaeth Gorfforaethol) mai Cyngor Cymuned Botwnnog yn unig oedd wedi ymateb
gan nodi eu gwrthwynebiad i fwriadau’r Comisiwn.
Nododd aelod bod Cyngor Cymuned Llanengan yn trafod y mater yn eu
cyfarfod ar nos Fercher. Mewn
ymateb, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y byddai’n
angenrheidiol i dderbyn unrhyw gynnig ychydig o ddyddiau cyn cyfarfod y Cyngor
Llawn ar 15 Mehefin er mwyn ei asesu.
Pwysleisiodd y
Prif Weithredwr bod unrhyw gynnig yn gorfod cydymffurfio gyda gofynion y
Comisiwn ac, os oedd y mathemateg yn awgrymu lleihad yn y nifer o Aelodau
byddai’r Comisiwn yn gweithredu.
Nododd aelod
lleol Llanengan y byddai’n cynnal trafodaethau gyda’r aelodau lleol perthnasol
yng nghyswllt Llanbedrog/Mynytho ac Abersoch/Llanengan/rhan o Langian ond nad oedd y ffigyrau pendant ganddo. Mewn
ymateb, nododd Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) ei fod wedi rhannu
niferoedd etholwyr yn y wardiau cymunedol efo aelodau lleol yr ardal yn dilyn
cynnal cyfarfod. Eglurodd nad oedd y wybodaeth
o ran rhannu’r wardiau cymunedol ar gael, byddai swyddogion yn dilyn derbyn
cynigion gan yr aelodau lleol yn gwneud y gwaith o gyfrif nifer etholwyr o fewn
ward etholaethol.
Mewn ymateb i
awgrym gan aelod lleol Clynnog y dylid galw cyfarfod arbennig o Bwyllgor Ardal
Dwyfor, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod yr amserlen yn
gyfyng a byddai’n rhaid penderfynu ar y cynigion yng nghyfarfod y Cyngor Llawn
wythnos nesaf.
Nododd aelod
lleol Llanbedrog bod nifer o dai haf yn yr ardal ac er
nad oedd y perchnogion ar y gofrestr etholwyr, roedd aelodau lleol yn eu
cefnogi hwythau hefyd. Ychwanegodd y ceisir llunio cynnig a
fyddai’n rhannu’r etholaethau mewn ffordd naturiol. Roedd
o’r farn bod Llanbedrog yn gweu yn naturiol efo Mynytho. Nododd bod Cyngor Cymuned Llanbedrog wedi trafod y mater a byddai’n
cysylltu efo’r clerc er mwyn iddynt gyflwyno cynnig.
PENDERFYNWYD rhoi cyfle
i aelodau lleol ardal Llŷn lunio cynnig ar gyfer yr etholaethau yn yr
ardal cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.
Cynhaliwyd munud
o dawelwch am 11.00am fel arwydd o barch i rhai a ddioddefodd yn dilyn
digwyddiad terfysgol diweddar yn Llundain.
Ardal Trawsfynydd, Harlech, Dyffryn Ardudwy a
Llanbedr
Nododd yr Uwch
Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod 2 opsiwn posib, roedd yr ail opsiwn yn rhoi
niferoedd mwy cytbwys ar draws y tair etholaeth a awgrymir gyda opsiwn un yn
awgrymu etholaeth Harlech, Talsarnau a Llanfair a fyddai’n etholaeth fawr o 1,820.
Tynnwyd sylw mai’r mater oedd yn creu tensiwn o ran llunio’r etholaethau oedd,
a fyddai Talsarnau/Maentwrog/Trawsfynydd efo’u gilydd yn gwneud synnwyr.
Nododd aelod
lleol Llanbedr mai opsiwn 1 oedd y gorau gyda wardiau cymunedol Harlech a
Talsarnau efo'i gilydd yn gwneud mwy o synnwyr na gyda
wardiau cymunedol Trawsfynydd a Maentwrog.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth
Gorfforaethol) yn ddaearyddol bod opsiwn 1 yn gwneud mwy o synnwyr.
Nodwyd y
derbyniwyd sylwadau gan aelod lleol Dyffryn Ardudwy a
oedd yn nodi ei bryder y byddai Dyffryn Ardudwy a Talybont efo Llanbedr yn creu
etholaeth fawr gyda Talybont yn ymylol ond ei fod yn cydnabod bod rhaid gostwng
y nifer o etholaethau. Roedd yn cynnig ‘Dyffryn Ardudwy,
Llanbedr a Talybont’ fel enw i’r etholaeth newydd.
PENDERFYNWYD argymell
opsiwn 1 i’r Cyngor Llawn.
Ardal Llanrug
Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod angen tacluso yng
nghylch Llanrug er mwyn gwastatau sefyllfa’r etholaethau trwy ddelio â
chymunedau Cwm y Glo (438), Brynrefail (224) a Ceunant (305) a hefyd
Penisarwaun (560) a Rhiwlas (533).
Nodwyd y cynigir
dwy etholaeth wedi eu haddasu sef un etholaeth ar
gyfer Cwm y Glo, Brynrefail a Cheunant (967) ac etholaeth ar gyfer Penisarwaun
a Rhiwlas (1,093). Adroddwyd bod peth gwahaniaeth barn ymysg
yr aelodau lleol.
Nododd aelod
lleol Penisarwaun ei ddymuniad i gadw cymuned Brynrefail efo Penisarwaun a
Rhiwlas gyda chyfanswm etholwyr yn 1,317 a oedd
ychydig uwchben y cyfartaledd a nodwyd gan y Comisiwn. Ychwanegodd bod Afon
Rhyddallt yn ffin naturiol
Nododd aelod
lleol Llanrug nad oedd eisiau etholaeth 2 aelod a’i
fod o’r farn y dylai’r cynnig gerbron fod yn dderbyniol i’r Comisiwn.
Ychwanegodd bod cymuned Brynrefail efo cyswllt cryfach efo Cwm y Glo na Rhiwlas. Nododd bod Cyngor Cymuned
Llanrug o blaid y cynnig.
Nododd aelod
lleol Cwm y Glo bod peryg y llunnir etholaeth 2 aelod pe na
fyddai’r Cyngor yn cyflwyno cynnig. Ychwanegodd y byddai
etholaeth newydd Cwm y Glo, Brynrefail a Cheunant yn cyd-fynd â’r dalgylch
ysgol.
Ychwanegodd aelod
lleol Penisarwaun bod Brynrefail a Chwm y Glo yn mynd efo'i gilydd ond roedd
angen llunio etholaeth o ran ffin naturiol.
Mewn ymateb i’r
sylw, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) os na
fyddai newid y bod perygl y gallai’r Comisiwn lunio un etholaeth 2 aelod.
Holodd aelod lleol Penisarwaun os derbyniwyd ymateb gan Gyngor Cymuned
Llanddeiniolen. Nodwyd na
dderbyniwyd ymateb ganddynt.
PENDERFYNWYD argymell y
cynnig i’r Cyngor Llawn.
Ardal Bontnewydd, Llanfaglan a Chaeathro / Ardal
Waunfawr, Betws Garmon a Rhyd Ddu
Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod y cynigion gerbron
ar gyfer yr ardaloedd yma wedi eu llunio gan gymryd i ystyriaeth y cysylltiadau
cymunedol lleol a dalgylch ysgolion.
PENDERFYNWYD argymell y
cynigion i’r Cyngor Llawn.
Ardal Dinas a Dinas Dinlle
Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod y cynnig gerbron yn
ceisio ymateb i newid yn ardal Bontnewydd i raddau ond hefyd yn ceisio
defnyddio’r cymunedau o gwmpas ac o dan ffordd fawr yr A499 fel ffin gweddol
naturiol rhwng cymunedau.
Nododd aelod
lleol Llanwnda y byddai’n anoeth creu etholaeth mor
fach a oedd yn ardal 2 cyngor cymuned sef Llanwnda a Llandwrog. Roedd o’r farn
y dylid cadw etholaeth Llanwnda yn ei ffurf bresennol a oedd yn cwrdd â
gofynion nifer etholwyr y Comisiwn ac o fewn ardal un
cyngor cymuned.
Mewn ymateb,
nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y byddai cadw etholaeth
Llanwnda fel y mae yn codi mater o ran lle byddai
Dinas Dinlle yn eistedd.
Ychwanegodd yr
aelod lleol pe penderfynir creu etholaeth Dinas a Dinas Dinlle fe fyddai’n rhaid ystyried cyfuniad o
Rostryfan/Rhosgadfan/Carmel a’r Fron.
Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bod unrhyw gyfuniad yn bosib ond bod
rhaid i’r mathemateg fod yn unol â’r gofynion. Ychwanegodd y dylid trafod efo’r aelodau lleol i
drafod yr ardal.
PENDERFYNWYD cynnal
trafodaethau efo’r aelodau lleol perthnasol i lunio cynnig ar gyfer yr
etholaethau yn yr ardal cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.
Ardal Llanllyfni, Talysarn, Nantlle a Nebo
Nododd yr Uwch
Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr awgrymir dwyn ynghyd Llanllyfni (513)
Talysarn (714) Nantlle (152) a Nebo (253) i greu un
etholaeth newydd o 1,612 (Cyngor Cymuned Llanllyfni i gyd heblaw am Benygroes).
Adroddodd nad oedd gan aelod lleol Talysarn wrthwynebiad i’r cynnig
gerbron er ei fod yn nodi bod etholaeth newydd (Groeslon, Carmel a Ceserea) yn
amrywiol iawn o ran demograffeg.
PENDERFYNWYD argymell y
cynnig i’r Cyngor Llawn.
Ardal Groeslon, Carmel a Ceserea / Ardal Rhostryfan
a Rhosgadfan
Nododd yr Uwch
Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yn dilyn y drafodaeth am
Ardal Dinas a Dinas Dinlle fe gynhelir trafodaethau efo’r aelodau lleol.
Ardal Clynnog, Trefor, Llithfaen a’r Ffôr
Tynnodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) sylw bod etholaeth
bresennol Clynnog yn sylweddol o dan drothwy niferoedd etholwyr.
Nodwyd mai opsiwn
3 a gynigwyd gan aelod lleol Llanaelhaearn a ffafrir oedd cadw etholaeth
bresennol Llanaelhaearn (1,151) fel y mae er y byddai
ei alw yn “Yr Eifl” yn fwy synhwyrol. Byddai ward Nebo (233)
wedyn yn cael ei ychwanegu at Glynnog i greu etholaeth newydd o 946 o etholwyr
(sydd yn dal yn etholaeth fechan iawn yn nhermau’r Comisiwn) a’i dynnu oddi
wrth ward Llanllyfni fyddai’n lleihau maint y ward hwnnw i 1,369 mwy rhesymol.
Byddai hyn yn cyfarch pryderon a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Pistyll am
gysylltu cymunedau bychain gwledig gydag ardaloedd mwy a gwahanol iawn.
Nododd aelod
lleol Clynnog ei fod yn cytuno mai opsiwn 3 oedd yr un
gorau.
PENDERFYNWYD argymell
opsiwn 3 i’r Cyngor Llawn.
Ardal Abererch, Efailnewydd, Pentre Uchaf a Buan
Nodwyd bod y
cynnig ar gyfer yr ardal yma wedi ei gynnwys mewn camgymeriad ac fe argymhellir na ddylid newid felly gofynnir i’r Pwyllgor
ei ddiystyru.
Nododd aelod
lleol Abererch ei fod yn hapus gyda’r argymhelliad bod yr etholaethau yn aros
yr un fath.
Ardal Penllyn
Nododd yr Uwch
Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr awgrymir cyfnewid wardiau rhwng y ddwy
etholaeth bresennol ond cadw dwy sedd fel bod 3 sedd yn yr ardal gyfan, sef y
Bala a hefyd Gorllewin Penllyn - Llanuwchllyn (494), Cwm y Glyn (83) a Llanycil
(323) (etholaeth o 900) a Dwyrain Penllyn – Gwalia (125), Llan y Betws (456) a
Llanfor (347) (etholaeth o 928). Nodwyd bod yr etholaethau yn fychan o edrych
i’r dyfodol ond ei fod yn anorfod mewn ardal mor
wledig.
Nodwyd bod yr
aelodau lleol yn pryderu, os na gynigir newid, y
llunnir etholaeth fawr neu etholaeth 2 aelod.
PENDERFYNWYD argymell y
cynnig i’r Cyngor Llawn.
Ardal Llanegryn, Bryncrug a’r Friog
Nododd yr Uwch
Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr awgrymir symud ward Llanegryn o un etholaeth i’r llall er mwyn creu dwy etholaeth wedi eu
hail-drefnu:-
Llanegryn,
Bryncrug a Llanfihangel = 1,000 (ardal 3 Cyngor Cymuned)
Y Friog, Islaw’r
Dre a Llangelynnin = 1,332 (ardal 2 Cyngor Cymuned).
PENDERFYNWYD argymell y
cynnig i’r Cyngor Llawn.
Sylwadau Cyffredinol
Nododd aelodau'r
prif bwyntiau ychwanegol yma:-
·
Roedd y cyfnod
ymgynghori, a groesodd cyfnod etholiad yn gwbl annigonol ar gyfer unrhyw
drafodaeth leol ystyrlon ac wedi effeithio ar y gallu i fanylu ar rhai
cynigion.
·
Dylai’r Comisiwn Ffiniau
roi sylw i anghenion cynrychiolaeth leol effeithiol ac effaith y boblogaeth
sydd ddim ar y gofrestr etholwyr, ar bwynt arbennig mewn amser, wrth lunio ei
gynigion. Yn benodol, y galw a’r llwyth gwaith sydd yn codi yn sgil presenoldeb
myfyrwyr, ymwelwyr a pherchnogion ail-gartrefi sydd ddim ar y gofrestr etholwyr
leol yn golygu bod yn rhaid rhoi sylw i hynny wrth bennu maint etholaethau.
Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y cyflwynir y sylwadau yn yr adroddiad i’r Cyngor Llawn.
Dogfennau ategol: