Agenda item

Adeiladu tŷ deulawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Adeiladu tŷ deulawr

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai  cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu tŷ deulawr wedi ei orffen gyda rendr a tho llechi. Amlygwyd bod yr ymgeisydd angen tŷ ar gyfer cynnal a hyrwyddo ei fusnes. Mae’r safle o fewn dynodiad Ardal Gwarchod y Dirwedd gyda ffin datblygu'r pentref wedi ei lleoli ar derfyn gogleddol y rhesdai a’r capel gerllaw. Golygai hyn bod mwyafrif o arwynebedd y tŷ bwriadedig y tu allan i ffin y pentref a bod hyn gyfystyr a chodi tŷ newydd y tu allan i ffin datblygu.

 

Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd yn yr adroddiad ynghyd ag ymatebion i’r ymgynghoriad.

 

Amlygywd bod yr ymgeisydd yn anghytuno gyda barn swyddogion ynglŷn â lleoliad y ffiniau ac felly cyflwynwyd cynllun yn dangos gosodiad y datblygiad mewn perthynas a ffin datblygu'r pentref gyda’r rhaglen. Nid yw’r datblygiad wedi ei gyflwyno fel bwriad ar gyfer tŷ fforddiadwy ac mae maint a graddfa’r bwriad yn awgrymu’n gryf nad oes unrhyw fwriad i’r tŷ fod yn fforddiadwy. Ni chyflwynwyd unrhyw fanylion na thystiolaeth i ddangos fod yr ymgeisydd angen tŷ fforddiadwy.

 

Datgan yr ymgeisydd y dylai’r tir fod wedi ei gynnwys oddi fewn i’r ffin ddatblygu yn CDUG gan ei fod wedi ei gynnwys yn y mapiau mewnosod drafft a bod y tir wedi ei ddileu o’r ffin yn dilyn penderfyniad yr Arolygydd i dynhau ffiniau datblygu pentrefi yn gyffredinol. Deallir gan yr ymgeisydd ei fod wedi gwneud cais i’r Uned Polisi i gynnwys y safle yn ei gyfanrwydd  o fewn ffin datblygu'r pentref yn CDLl.  Gellid cadarnhau nad oedd newid i’r ffin datblygu yn CDLl mewn perthynas i’r safle yma ar hyn o bryd.

 

Er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd nid yw’r Cyngor wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod rhesymau cynllunio teilwng wedi eu cyflwyno i wyro oddi ar bolisïau cyfredol y  Cyngor.  Nid yw egwyddor o godi annedd ar y safle yn cydymffurfio a gofynion polisi tai'r cyngor sef polisi C1, CH7 a CH9 CDUG a Chanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy (2009).

 

Mae’r tŷ deulawr arfaethedig o ddyluniad modern ac wedi ei leoli yn agos at derfyn cefn gerddi tai cyfagos a chwrtil y capel a’r tŷ capel. Mae’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos er na fydd y tŷ yn uwch na’r capel cyfochrog, fe fydd yn sylweddol uwch na’r tai deulawr gerllaw, ac felly mae pryder ynglŷn â’i leoliad, maint a’i raddfa mewn perthynas â’r tai hynny. O ran ei faint a’i raddfa, ni ystyriwyd fod y bwriad yn parchu’r safle a’i gyffiniau ac y byddai  yn achosi niwed arwyddocaol i  breifatrwydd gardd a chwrtil y ty capel a’r eiddo i’r de orllewin o’r safle.

 

         Derbyniwyd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad. Fodd bynnag, wedi ymweld ar safle roedd gan y swyddogion trafnidiaeth bryderon am y fynedfa yn arbennig felly o ran gwelededd wrth gael mynediad i’r ffordd ddosbarth 2 gyfagos. Fodd bynnag, wedi ystyried sylwadau’r Uned Drafnidiaeth byddai’n anodd gwrthod y cais ar seiliau diogelwch ffyrdd.

 

         Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, sylwadau a dderbyniwyd, ni ystyriwyd fod y datblygiad yn dderbyniol. Nid oedd cyfiawnhad wedi ei gyflwyno ar gyfer datblygu’r safle fel safle eithrio gwledig (polisi CH7), ac oherwydd hynny, ystyriwyd fod y datblygiad yn gyfystyr a bwriad i godi newydd yng nghefn gwlad yn groes i bolisi C1, CH7 ac CH9 CDUG. 

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nad oedd cyfeiriad tuag at ei adroddiad personol ef yn adroddiad y swyddogion

·         Bod ganddo dystiolaeth nad oedd y wybodaeth yn yr adroddiad yn gyflawn

·         Bod swyddogion wedi gwneud camgymeriad yn 2008 gyda’r ffiniau a bod tystiolaeth o hyn ar gael

·         Ei fod angen byw yn Llanbedrog i oflau am ei rieni

·         Ei fod yn ddyn busnes llwyddiannus yn cyflogi dros 20 o bobl

·         Ei fod wedi derbyn nifer o wobrwyon am ei gyfraniad i Economi Gwynedd

·         Na allai ddeall pam bod swyddogion Cynllunio yn gwrthwynebu ei gais ac yntau yn gwneud ei ran dros bobl Gwynedd

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio'r penderfyniad er mwyn derbyn gwybodaeth lawn am y ffiniau.

 

PENDERFYNWYD  - gohirio'r penderfyniad er mwyn derbyn gwybodaeth lawn am y ffiniau.

Dogfennau ategol: