Ail ddatblygu safle gan gynnwys creu 19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft, cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan, adnewyddu ac addasu adeiladau presennol, newid defnydd i greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau i’r adeiladwaith presennol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen a’r Cynghorydd
Roy Owen
Cofnod:
Ail ddatblygu safle gan gynnwys creu
19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft,
cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan,
adnewyddu ac addasu adeiladau presennol, newid defnydd i
greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau i’r adeiladwaith presennol
a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
ail-ddatblygu safle o ddefnydd cymysg: Defnydd Dosbarth B1 (diwydiant ysgafn a
defnydd swyddfa), B2 (diwydiant cyffredinol) a D2 (ymgynnull ag hamdden) ynghyd
a manwerthu atodol er mwyn creu 19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft,
cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan, adnewyddu ac addasu adeiladau
presennol, newid defnydd i greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau ac
addasiadau ynghyd a chodi adeiladau o’r newydd sy’n llenwi’r gwagleoedd rhwng y
strwythurau presennol.
Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion
gorllewinol Ffordd Santes Helen, yn rhan o ardal Hen Gei Llechi o fewn Ardal
Gadwraeth Caernarfon a Gosodiad Hanfodol Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer
Castelli a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd (CADW).
Nodwyd bod rhan helaeth o’r safle o fewn Parth Llifogydd C2 fel y’i cynhwysir
yn y Mapiau Cyngor Datblygu Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd
(2004). Dynodir y safle ynghyd a gweddill glannau’r Afon Seiont
gyferbyn a Ffordd Santes Helen fel safle ail-ddatblygu yng Nghanllaw Cynllunio
Atodol: Briffiau Datblygu.
Nodwyd bod y cynlluniau diweddaraf a gyflwynwyd gyda’r cais yn ymateb
yn bositif o ran graddfa, edrychiad, deunyddiau a thirlunio. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol i
gefnogi’r bwriad a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi dod i’r
canlyniadau canlynol
·
Credir bydd y datblygiad yn cynnig buddiannau
economaidd i’r ardal leol gan
arwain at wariant ychwanegol yn yr
economi leol.
·
Credir bydd y bwriad yn arwain at fuddsoddiad
uniongyrchol a chreu swyddi ar y safle
gyda’r swyddi hyn yn debygol
o fod yn addas ar gyfer
y boblogaeth leol ac i’r perwyl hyn
bydd y bwriad yn cyfrannu tuag
at gadw’r boblogaeth bresennol yn yr
ardal ac yn ei dro’n debygol
o gael effaith
bositif ar hyfywdra’r iaith Gymraeg.
·
Ar y cyfan, ni
chredir fod natur na graddfa’r
datblygiad arfaethedig yn debygol o gael
effaith andwyol ar yr iaith
Gymraeg.
Amlygwyd bod Dŵr Cymru yngwrthwynebu’r
cais dros dro hyd at dderbyngwybodaeth
yn ymwneud â statws y gyfundrefn garthffos gyhoeddus leol presennol ynghyd a’r
angen am fanylion pellach parthed cyfradd llifiant presennol ac arfaethedig
dŵr wyneb a dŵr aflan o’r safle gan ystyried bod capasiti
cyfyngedig yn y gyfundrefn gyhoeddus bresennol ar gyfer derbyn mwy o
lifiant.
Nodwyd bod trafodaethau wedi cymryd lle rhwng
asiant yr ymgeisydd, swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol a Chyfoeth Naturiol
Cymru ynglyn a goblygiadau datblygu ar ran helaeth
o’r safle oddi fewn i Barth C2 Llifogydd fel y’i cynhwysir yn Nodyn Cyngor
Technegol 15 Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2004). Cydnabuwyd bod y safle yn
agored i orlif llanw o’r Fenai, ac o ganlyniad i’r trafodaethau hyn yn ogystal
â chyflwyno Asesiad Canlyniadau Llifogydd, codi lefelau arwynebedd llawr,
ail-leoli’r datblygiad sydd fwyaf sensitif ac agored i lifogydd (y 3 uned
wyliau) i safle sydd y tu allan i Barth C2 ynghyd a chynnwys amodau perthnasol
parthed mesuriadau lliniaru, ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol ar sail
gallu rheoli risg llifogydd.
b)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod yr
elfen yma yn allweddol i adfywiad y
prosiect
·
Bod y safle yn wag ac yn segur
·
Bod y
cynllun yn un cyffrous
·
Bod
buddiannau amlwg i’r gymuned
·
Bod y
dyluniad yn gwarchod gwedd y dref – yn creu golygfeydd newydd
·
Y
safle yn nodwedd rhwng y castell a’r rheilffordd
·
Bod y cynllun yn gyrchfan
newydd i’r dref
·
Safleoedd
i werthu nwyddau lleol ac i grefftwyr lleol ddatblygu eu sgiliau
c)
Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
ch) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglyn a pham na ellid rhoi
cyfleoedd i fusnesau eraill arwahan B1, B2 a D2,
nodwyd bod y cyfyngiad yn rheoli'r safle, ond ategwyd y byddai modd ail edrych
ar hyn petai'r sefyllfa yn newid drwy gyflwyno cais cynllunio o’r newydd.
PENDERFYNWYD i
ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol Dŵr Cymru a hefyd yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
Amodau:-
1. 5 mlynedd.
2. Yn
unol â’r cynlluniau.
3. Cytuno gyda manylion
edrychiadau allanol gan gynnwys samplau
o’r wahanol ddefnyddiau cyn dechrau’r gwaith ar y safle..
4. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed mesuriadau lliniaru effaith llifogydd.
5. Amodau
priffyrdd.
6. Amod
rhywogaethau gwarchodedig.
7. Cyfyngu’r defnydd manwerthu i fod
yn atodol i ddefnydd y gweithdai
yn unig.
8. Amodau
dwr Cymru.
9. Cyfyngu defnydd y datblygiad i ddefnydd Dosbarth B1, B2 a C3 (unedau gwyliau).
Dogfennau ategol: