Adeiladu tŷ a modurdy
AELOD LLEOL: Cynghorydd
W Gareth Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Adeiladu tŷ a modurdy
a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais i adeiladu tŷ annedd newydd a modurdy
ym mhentref gwledig Rhiw o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Thirwedd
o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Byddai’r tŷ arfaethedig yn ddeulawr wedi ei orffen gyda tho llechi
a waliau allanol carreg leol. Fel rhan
o’r cais derbyniwyd llythyr gan Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl yn amlinellu
anghenion y teulu gan fod un o feibion yr ymgeisydd wedi ei gofrestru gydag
anabledd parhaol.
Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
O ran egwyddor y datblygiad, dynodi’r Rhiw fel pentref gwledig.
Tynnwyd sylw at y polisi tai perthnasol (Polisi CH5) sydd yn nodi bod rhaid i gynigion gydymffurfio gyda’r holl feini
prawf o fewn y polisi. Trafodwyd chwech o’r meini
prawf hynny mewn manylder ac o ganlyniad, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i’r polisi CH5 ar y sail nad
oedd yr angen am dŷ fforddiadwy wedi ei brofi, nad oedd y safle wedi ei
leoli yn union gerllaw adeilad sydd wedi ei liwio a bod ei faint yn sylweddol
fwy na maint tŷ fforddiadwy. Wrth ystyried y safle yng nghyd–destun cefn
gwlad agored, ategwyd mai dim ond tai ar gyfer gweithwyr amaethyddol,
coedwigaeth neu fenter wledig fyddai’n bosibl eu cael ar y safle a hynny yn
seiliedig â gofynion Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy
(2010). Byddai’r
bwriad yn groes i’r gofynion
hyn gan nad oedd angen amaethyddol, coedwigaeth neu fenter wledig ar
gyfer y tŷ arfaethedig.
Ystyriwyd fod y bwriad yn ei ffurf
bresennol o ran ei faint a’i raddfa yn
groes i ofynion
Polisi B22 CDUG ac y byddai’n
cael effaith ar ffurf a chymeriad
y pentref. Cyfeiriwyd yn yr
adroddiad bod y tŷ yn sylweddol fwy
na maint
tŷ fforddiadwy ac ystyriwyd bod modd lleihau maint yr
eiddo wedi drafod anghenion y plentyn anabl. Nodwyd, pe byddai’r eiddo
yn cael ei
leihau o ran maint y byddai hynny yn
goresgyn y pryderon am effaith y bwriad ar gymeriad y pentref
a’r dirwedd.
Amlygwyd mai prif anghenion y cais oedd darparu tŷ
addas ar gyfer teulu sydd
â un mab gydag
anableddau parhaol. Fodd bynnag, wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, daethpwyd i’r
casgliad nad oedd egwyddor y datblygiad yn cwrdd â
gofynion sylfaenol polisïau tai'r Cyngor. Ni chyflwynwyd tystiolaeth i ddangos
bod yr ymgeisydd mewn gwir angen fforddiadwy ac ni ddangoswyd bwriad i gyfyngu
meddiannaeth i’r dyfodol. Er gwaethaf anghenion yr ymgeisydd nid yw’r Cyngor
wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod rhesymau teilwng
wedi eu cyflwyno i wyro oddi ar bolisïau cyfredol y Cyngor na pholisïau
cenedlaethol yn ymwneud a Thai Fforddiadwy.
(a)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn gefnogol i’r
cais
·
Ei bod hi’n eithriadol bwysig bod y teulu yn cael
cartref yn Rhiw gan fod cefnogaeth
i’r teulu yn y pentref
·
Anodd addasu eu cartref presennol
ar gyfer person anabl
·
Angen ty addas – anghenion yn cynyddu
b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei fod yn derbyn bod yr adroddiad
yn un anodd
·
Bod anghenion
unigryw ac anarferol y teulu yn cynyddu ac nad oedd tŷ addas ar eu cyfer
yn Rhiw.
·
Bod y teulu angen rhwydwauth
a chefnogaeth eu teulu
·
Derbyn yr
argymhelliad i wrthod, ond angen i’r Pwyllgor ystyried sefyllfa ‘eithriadol’
·
Llawr gwaelod y cynllun
yn cael ei
gydnabod yn unol a’r angehnion,
ond gellid cyfyngu yr ail lawr - yr ymgeisydd
yn derbyn hynny
·
Amserlen yn dynn
gan na fydd
y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
yn cydnabod Rhiw fel safle i’w
ddatblygu
·
Erfyn i’r Pwyllgor
ddirprwyo’r hawl i swyddogion gynnal
trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i ddiwallu anghenion
amlwg a theilwng y teulu a cheisio datrysiad gyda chynllun priodol ac addas.
·
Y cynllun yma yn
eithriad i’r drefn cynllunio
c)
Mewn ymateb i’r
sylwadau, amlygodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y cais yn yn groes
i bolisiau cynllunio’r Cyngor gan nad oedd
tystiolaeth fod yr ymgeisydd yn
gymwys am dy fforddiadwy ac ni fuasai’r ty yn fforddiadwy oherwydd ei faint. Er hyn
pwysleiddiodd fod yr achos yma
yn un unigryw
a heriol ac bod yna angen penodol yn
yr achos yma oherwydd amgylchiadau
eithriadol y teulu. Nodwyd os mai dymuniad
y Pwyllgor fyddai ystyried y cais fel un eithriadol
yna penderfyniad y Pwyllgor fyddai hynny, ond pwysleisiodd
fod y sefyllfa yma’n un eithriadol ac na fyddai’n creu
unrhyw fath o gynsail I’r dyfodol.
Amlygwyd na fyddai modd i’r
tŷ fod yn gymwys fel
tŷ fforddiadwy oherwydd ei faint a phetai'r Pwyllgor yn penderfynu caniatáu
y cais, yna ni fydd yn
bosib rhoi cytundeb 106 ar y tŷ. ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais yn groes
i’r argymhelliad
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan yr aelodau:
·
Nid gwerth arainnol sydd i’r ty – anghenion
y teulu yn uchafu hyn
·
Y sefyllfa yn un unigryw
·
Nad oedd angen trafoadaethau
i leihau maint y ty – caniatau yn unol a’r
cynlluniau
PENDERFYNIAD caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad ar sail fod yr
anghenion penodol a’r sefyllfa eithriadol yn yr achos yma’n
gorbwyso’r gofynion polisïau cynllunio arferol
Amodau cyffredinol yn ymwneud a:
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau.
3. Llechi.
4. Deunyddiau.
5. Amodau Trafnidiaeth
6. Amodau Dwr Cymru
Dogfennau ategol: