Agenda item

Cais ol-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais cynllunio ôl-weithredol ydoedd i gadw adeilad amaethyddol o ffrâm dur oedd yn y broses o gael ei adeiladu. Awgrymir y ffrâm bresennol adeilad gyda rhediad to mono pitch, ond bwriedir cwblhau‘r adeilad gyda tho brig. Byddai gorffeniad allanol yr adeilad yn gymysgedd o wal blociau concrid a gorchudd proffil dur o liw gwyrdd tywyll. Lleoli’r yr adeilad yng nghefn gwlad tu allan i unrhyw ffin datblygu, ac mewn cae amaethyddol o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn. Mae’n gorwedd 5.5 medr oddi wrth dŷ annedd unllawr sydd yn adeilad rhestredig gradd II.

Tynnwyd sylw ar y polisïau perthnasol oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Amlygwyd bod yr egwyddor o ganiatáu adeiladau at ddefnydd amaethyddol yng nghefn gwlad wedi ei sefydlu gan Bolisi D9 CDUG sydd yn cymeradwyo cynigion i godi adeiladau ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn rhesymol angenrheidiol. Datgan asiant yr ymgeisydd bod yr adeilad yn angenrheidiol ar gyfer cadw anifeiliaid yn ystod tywydd garw achlysurol, ac i gadw offer yn gysylltiedig ag anifeiliaid sydd yn pori’r tir, ac amaethu. Gan nad oedd manylion anifeiliaid wedi eu cyflwyno ystyriwyd cynnwys amod oedd yn cyfyngu defnydd yr adeilad at bwrpas amaethyddol yn unig, ac y dylid ei ddymchwel petai defnydd amaethyddol yn darfod o fewn cyfnod o 10 mlynedd. Yn ddarostyngedig i gynnwys yr amod uchod, ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cydymffurfio a pholisi C1 a D9 CDUG, ac na fyddai’n tanseilio Polisi PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Gyda’r safle yn gorwedd mewn man amlwg o fewn AHNE Llyn ystyriwyd yr angen i leihau unrhyw ardrawiad ar fwynderau gweledol yr AHNE. O ganlyniad,  derbyniwyd cynllun diwygiedig (30 Mawrth 2017) yn dangos adeilad bwriedig gyda tho brig, gyda gostyngiad uchder yr adeilad terfynol yn 3.7 medr uwchlaw lefel daear - gostyngiad 0.4 medr. Yn ogystal roedd bwriad gorchuddio’r adeilad gyda setiau proffil gwyrdd tywyll, gan ei fod yn lleihau ardrawiad adeiladau ar safleoedd amlwg yn y dirwedd. Derbyniwyd sylwadau'r Swyddog AHNE yn nodi y byddai’r addasiadau yn gwneud yr adeilad yn llai amlwg o’r ffordd..

 

Eglurwyd bod tŷ annedd agosaf (heblaw eiddo'r ymgeisydd) i’r adeilad bwriedig wedi ei leoli oddeutu 30 medr o’r safle. Oherwydd maint y bwriad a’i  leoliad mewn perthynas â’r eiddo cyfagos ni ystyriwyd bod yr adeilad bwriedig yn achosi difrod arwyddocaol i’r eiddo hwnnw. Yn ychwanegol, ni ystyriwyd bod y bwriad yn amharu ar breifatrwydd rhesymol defnyddwyr yr eiddo sydd gerllaw nac yn golygu gor-ddatblygiad o’r safle.

 

Wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, amlygywd bod y datblygiad yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, defnydd, dyluniad, deunyddiau ac effaith ar amwynder gweledol, ac ei fod yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         mai cwt bychan oedd yma ar ddarn bach o dir i ddarparu cysgod i anifeiliaid - yn nhermau amaethyddol roedd o raddfa fechan iawn

·         bod cynlluniau diwygiedig yn dangos to crib

·         byddai'r bwriad gorffenedig yn ymdoddi yn sylweddol i’r tirlun

·         bod trafodaethau ynglyn ag edrychiad y bwriad wedi eu cynnal gyda swyddogion

 

c)         Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd yn cytuno gyda chynnwys yr adroddiad oedd yn ymddangos fel cyfiawnhad dros yr angen i olweithredu

·         Nad oedd sylw yn yr adroddiad at lwybr cyhoeddus cyfagos

·         Gwell fuasai gosod y sied tu ôl i’r tŷ - awgrym i ail ystyried y safle

·         Er yr addasiadau uchder, byddai’r sied yn parhau yn uchel ac yn debygol o gael effaith ar y tŷ

·         Tyddyn yw’r tŷ ac felly angen ystyried y polisi yng nghyd-destun ‘amaeth’

·         Nid yw’r Cyngor Cymuned yn fodlon gyda’r dyluniad

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle

 

d)         Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ohirio'r penderfyniad er mwyn i swyddogion ail asesu y cais, edrych ar leoliad y llwybr cyhoeddus a’r cyfiawnhad am yr angen i’r fath adeilad a chyflwyno adroddiad diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD gohirio er mwyn ail asesu y cais a chyflwyno adroddiad diwygiedig.

Dogfennau ategol: