Cais am ganiatâd cynllunio dros dro ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Iard safle a darparu sied cynnal a chadw, cyfleusterau lles a maes parcio, adeiladau swyddfa, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol, cyfleuster sypynnu asffalt symudol a darparu llwybr halio
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Garlick
Cofnod:
Cais am ganiatâd cynllunio dros dro ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag
adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys;
Iard safle a darparu sied cynnal a chadw, cyfleusterau lles a maes parcio,
adeiladau swyddfa, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster
sypynnu concrid symudol, cyfleuster sypynnu asffalt symudol a darparu llwybr
cludo.
a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan
nodi bod y bwriad yn rhan o brosiect cynorthwyo Ffordd Osgoi Caernarfon.
Tynnwyd sylw at bolisi C3 sydd yn annog ailddefnyddio safleoedd a
ddatblygwyd o’r blaen. Bydd yr un ystyriaethau o’r polisi yn ffafrio defnyddio
tir a ddatblygwyd o'r blaen hefyd yn berthnasol i sefydlu compownd
dros dro ar lain galed safle'r cyn gwaith brics.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau
y cais
PENDERFYNWYD Awdurdodi Uwch Reolwr y
Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu'r cais yn ddarostyngedig
i'r ystod o amodau a ganlyn a, ble noder, cyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â
gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad:
1. Dechrau ymhen tair blynedd
2.
Hyd y cyfnod gweithio 5
mlynedd
3.
Gweithgareddau a ganiateir a
Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd
4.
Amseroedd gwaith fel ag y
maent: 07:00 - 19:00 ddydd Llun i ddydd
Gwener; 07:00 - 13:00 ddydd Sadwrn a dim
gweithio mwynau i'w wneud ar ddydd Sul, Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus.
5.
Danfoniadau deunyddiau ar gyfer
swp-brosesu concrid ac asffalt wedi'i gyfyngu i'r llwybr cludo oddi ar y ffordd
sydd wedi'i dangos ar gynlluniau'r cais.
6.
Cynllun plannu coed a llwyni
cyflawn yn gynwysedig mewn gwaith adfer,
o
Sŵn yn ystod oriau gwaith
arferol (0700-1900), ni ddylai'r lefel graddfa sŵn fod yn fwy na 55dB(A) LAeq, 1 awr (free field). Gyda'r
nos (1900-2200), ni ddylai'r cyfyngiadau fod fwy na 10dB(A) uwchlaw'r
lefel cefndirol
o
Ni ddylai cyfyngiadau yn ystod
y nos fod yn uwch na 42 dB (A) LAe1, 1 awr free field ger
anheddau sensitif. (MTAN1).
o
Gweithrediadau dros dro i fod
ddim mwy na 70 dB LAeq, 1
awr (free field) am hyd
at 8 wythnos y flwyddyn.
o
Arolwg monitro sŵn yn
unol â chais ysgrifenedig yr Awdurdod Cynllunio Mwynau, i'w gynnal yn unol â
Safon Brydeinig BS.4142:2014 'Methods for rating and assessing industrial and commercial
sound', i asesu ac arddangos cydymffurfiaeth â'r cyfyngiad sŵn ffiniol.
o
Defnyddio larymau sŵn
gwyn ar gyfer bagio cerbydau.
7.
Strategaeth adferiad os canfyddir,
yn ystod y datblygiad, halogiad nad oedd wedi'i ganfod yn flaenorol.
8.
Storio tanwydd.
9.
Gofyniad i nodi manylion
cyflawn y tanc storio dŵr budr i gael ei gyflwyno er cymeradwyaeth yr
awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn gwaith gydag amod pellach yn gofyn bod
unrhyw seilwaith dros dro sy'n ymwneud â draeniad budr/carthffosiaeth ar y
safle wedi'i ddigomisiynu'n llwyr ac wedi'i symud o'r safle pan ddaw'r caniatâd
i ben.
10.
Defnyddio bowser dŵr ar lwybrau cludo,
gwlychu ardaloedd prosesu a deunyddiau wedi'u prosesu, a chadw log o gwynion yn
ymwneud â llwch.
11.
arolwg llwch yn cael ei gynnal
am o leiaf chwe mis mewn lleoliadau wedi'u cytuno a
bod gwaith mathru, sgrinio, trosglwyddo a gweithrediadau eraill sy'n debygol o
arwain at lwch a gludir yn yr aer yn cael ei wneud mewn adeilad priodol.
12.
Cynllun Rheoli Amgylchedd
Adeiladu i sicrhau fod arfer da a lliniaru da wedi'u sefydlu i amddiffyn yr
amgylchedd ddyfrol, gan gynnwys: amodau gwaith ar y safle a mesurau i reoli
effeithiau amgylcheddol megis symudiadau cerbydau HGV, cyfleusterau golchi
olwynion, gorchuddio cerbydau, ardaloedd storio diogel, ansawdd aer, oriau
gwaith, sŵn/dirgryniant, rheoli gwastraff a
llygredd. Hefyd, monitro'r dŵr ffo posib o ddeunyddiau llaid a gwastraff i
liniaru ardrawiad posib y datblygiad a gweithdrefnau arllwyso ar yr amgylchedd.
13.
Darpariaeth ar gyfer cofnodi
cloddiadau y tu mewn i Safle Geomorffoleg Daearegol o Bwys Rhanbarthol (RIGS).
14.
Gall manylion unrhyw oleuo
allanol fod yn destun amod cynllunio, felly hefyd gall cael gwared â llystyfiant.
15.
Nodyn i'r ymgeisydd yn
cyfeirio at adwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, Rheoli Perygl Llifogydd Cyngor
Gwynedd, y Gwasanaeth Erydu Arfordirol, Gwarchod y Cyhoedd Gwynedd, a Dŵr
Cymru i'r ymgynghoriad, gan gyfeirio'n benodol at reolaeth benodol yn eu cylchoedd
gorchwyl.
16.
Nodyn i'r ymgeisydd mai
cyfrifoldeb ac atebolrwydd canlynol y datblygwr ac/neu'r tirfeddiannwr yw
datblygu a meddiannu'r safle'n ddiogel.
17.
Nodyn i'r ymgeisydd bod y cais
wedi ei asesu'n unol â saith amcan cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015.
Dogfennau ategol: