Agenda item

Cais ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle bresennol a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro hyd at 10 mlynedd),

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle presennol a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro hyd at 10 mlynedd).

 

a)        Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddefnyddio'r chwarel i gynorthwyo gyda’r gwaith o wella rhwydwaith ffordd leol. Byddai’r chwarel yn ail gydio yn y gwaith cloddio o dan telerau’r caniatâd mwynau, yn ogystal â gwaredu deunyddiau gwastraff o’r gwaith adeiladu’r ffordd osgoi i’w defnyddio ar gyfer adfer y safle.

 

Tynnwyd sylw at y datganiad amgylcheddol oedd wedi ei gyflwyno gyda’r cais a phwysleisiwyd bod y prosiect ar gyfer dibenion y Ffordd Osgoi yn unig. Amlygwyd bod angen y safle am 5 mlynedd ond byddai cyfyngiad hyd oes trefniadau cludiant trwm yn gysylltiedig â symud deunyddiau yn 3 blynedd. Ni fydd disgwyl symudiadau cludiant ar y fforddbydd y cludiant yn dod yn syth oddiar y ffordd osgoi.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nid oedd dynodiad i warchod bywyd gwyllt ar y safle a bod yr awdurdod wedi cynnal asesiad cynefinoedd ar y cais a daw i’r casgliad na fydd unrhyw effaith andwyol ar ddynodiadau amgylcheddol rhyngwladol na chenedlaethaol megis SSSIs & SACs. Nodwyd y byddai’r safle yn adfer ei hun yn eithaf cyflym wedi i’r gwaith gwblhau.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais yn gynhenid ar gyfer y Ffordd Osgoi

·         Bod y bwriad yn gyfle unigryw i leihau cludo ac ail sefydlu gan sicrhau gostyngiad sylweddol i drafnidiaeth gwasanaethau

·         Mantais y safle yw ei fod yn ffinio yn uniongyrchol gyda’r prosiect

·         Bod deunydd y chwarel yn addas

·         Bod caniatâd gweithredol eisoes ar y chwarel

 

c)         Nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ei fod yn gefnogol i’r cais, ond bod rhai pryderon ynglyn a bod y ffordd uwchben Peblig yn cau ar ôl y datblygiad.

 

ch)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

d)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·      Bod yr elfen yma yn bwysig  iawn ar gyfer y Ffordd Osgoi ac yn gymorth i wasanaethu’r prosiect

·      Prosiect enfawr i’r ardal ac yn un i’w groesawu

 

PENDERFYNWYD awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu'r cais yn ddarostyngedig i'r amrediad o amodau a ganlyn a, ble noder, i gyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad:

 

  1. Dechrau ymhen tair blynedd
  2. Hyd y caniatâd wedi ei gyfyngu i bum mlynedd o gyflwyno'r rhybudd dechrau gyda gweithgaredd yn ymwneud â mewnforio deunyddiau er adfer y chwarel yn gyfyngedig i ofynion y cynllun ffordd osgoi ac wedi'i gyfyngu i gyfnod o dair blynedd o gyflwyno rhybudd dechrau gweithgaredd tirlenwi
  3. Arolwg topograffig i gael ei gyflwyno er cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio mwynau ar unwaith pan ddaw'r gweithgareddau i ben; i gynnwys archwiliad cyflawn o'r deunyddiau sydd ar gael at ddibenion adfer. Os yw cyfaint y deunyddiau a ddeillia o waith adeiladu'r ffordd osgoi yn annigonol i gwblhau'r gwaith o adfer y safle yn unol â chynlluniau'r cais, bydd cynllun adfer diwygiedig yn cael ei gyflwyno er cymeradwyaeth gan yr awdurdod cynllunio mwynau
  4. Cynllun adfer graddol i dargedu ardaloedd allweddol
  5. Cynllun adfer diwygiedig ar gyfer y ffordd gludo ogleddol er mwyn ei adfer er dibenion amaethyddol yn unol â'r canllawiau yn Atodiad B-D NCT 1 (Agregau), gan fanylu ar y cyfaint a lleoliadau storio pob deunydd sydd wedi'i glustnodi at ddibenion adfer, h.y. ni ddylai deunyddiau a gloddiwyd wrth greu'r ffordd gludo gael eu hallforio oddi ar y safle
  6. Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd
  7. Amseroedd gwaith fel y maent:  07:00 - 19:00 ddydd Llun i ddydd Gwener;  07:00 - 13:00 ddydd Sadwrn, a dim gweithio mwynau ar ddydd Sul, Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus.
  8. Cludiant sy'n ymwneud ag allforio a mewnforio deunyddiau, a danfon deunyddiau ar gyfer gwaith sypynnu concrid ac asffalt i gael ei gyfyngu at y llwybrau cludiant pwrpasol a ddangosir ar gynllun y cais
  9. Cynllun plannu coed a llwyni cyflawn yn gynwysedig mewn gwaith adfer,

o   Sŵn yn ystod oriau gwaith arferol (0700-1900), ni ddylai'r lefel graddfa sŵn fod yn fwy na 55dB(A) LAeq, 1 awr (maes agored).  Gyda'r nos (1900-2200), ni ddylai'r cyfyngiadau fod fwy na 10dB(A) uwchlaw'r lefel cefndirol 

o   Ni ddylai cyfyngiadau yn ystod y nos fod yn uwch na 42 dB (A) LAe1, 1 awr maes agored ger anheddau sensitif. (MTAN1).

o   Gweithrediadau dros dro i fod ddim mwy na 70 dB LAeq, 1 awr (maes agored) am hyd at 8 wythnos y flwyddyn.

o   Cynnal arolwg monitro sŵn yn unol â chais ysgrifenedig yr Awdurdod Cynllunio Mwynau, i gydymffurfio â Safon Brydeinig BS.4142:2014 'Methods for rating and assessing industrial and commercial sound', i asesu ac arddangos cydymffurfiaeth â'r cyfyngiad sŵn ffiniol. 

o   Defnyddio larymau sŵn gwyn ar gyfer gyrru wysg eich cefn;

  1. Strategaeth adferiad os canfyddir, yn ystod y datblygiad, halogiad nad oedd wedi'i ganfod yn flaenorol,
  2. Storio tanwydd,
  3. Gofyniad i nodi manylion cyflawn y tanc storio dŵr budr i gael ei gyflwyno er cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn gwaith gydag amod pellach yn gofyn bod unrhyw seilwaith dros dro sy'n ymwneud â draeniad budr/carthffosiaeth ar y safle wedi'i ddigomisiynu'n llwyr ac wedi'i symud o'r safle pan ddaw'r caniatâd i ben,
  4. Defnyddio bowser dŵr ar lwybrau cludo, gwlychu ardaloedd prosesu a deunyddiau wedi'u prosesu, a chadw log o gwynion yn ymwneud â llwch.
  5. Arolwg llwch yn cael ei gynnal am o leiaf chwe mis mewn lleoliadau wedi'u cytuno a bod gwaith mathru, sgrinio, trosglwyddo a gweithrediadau eraill sy'n debygol o arwain at lwch a gludir yn yr aer yn cael ei wneud mewn adeilad priodol.
  6. Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu i sicrhau fod arfer da a mesurau lliniaru da wedi'u sefydlu i amddiffyn yr amgylchedd dyfrol, gan gynnwys: amodau gwaith ar y safle a mesurau i reoli effeithiau amgylcheddol megis symudiadau cerbydau trymion, cyfleusterau golchi olwynion, gorchuddio cerbydau, ardaloedd storio diogel, ansawdd aer, oriau gwaith, sŵn/dirgryniad, rheoli gwastraff a llygredd. Hefyd, monitro'r dŵr ffo posib o ddeunyddiau llaid a gwastraff i liniaru ardrawiad posib y datblygiad a gweithdrefnau arllwyso ar yr amgylchedd
  7. Darpariaeth ar gyfer cofnodi cloddiadau y tu mewn i Safle Geomorffoleg Daearegol o Bwys Rhanbarthol (RIGS),
  8. Gall manylion unrhyw oleuo allanol fod yn destun amod cynllunio, felly hefyd y gall cael gwared â llystyfiant.
  9. Lliniaru ardrawiadau posib ar amgylchedd yr afon (pellter sefyll),
  10. Nodyn i'r ymgeisydd yn cyfeirio at ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru, Rheoli Perygl Llifogydd Cyngor Gwynedd, y Gwasanaeth Erydu Arfordirol, Gwarchod y Cyhoedd Gwynedd, a Dŵr Cymru i'r ymgynghoriad, gan gyfeirio'n benodol at reolaeth benodol yn eu cylchoedd gorchwyl nhw
  11. Nodyn i'r ymgeisydd mai cyfrifoldeb ac atebolrwydd canlynol y datblygwr ac/neu'r tirfeddiannwr yw datblygu a meddiannu'r safle'n ddiogel.
  12. Nodyn i'r ymgeisydd bod y cais wedi ei asesu'n unol â saith amcan cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dogfennau ategol: