Agenda item

Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad 3 llawr er mwyn darparu 6 uned byw

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Keith Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad 3 llawr er mwyn darparu 6 uned byw

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i ddymchwel adeilad presennol a strwythurau cysylltiol i gefn y safle a chodi adeilad 3 llawr newydd fyddai’n darparu 6 uned byw, dwy lofft, hunan cynhaliol.Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod maint y datblygiad arfaethedig yn fwy na’r hyn a ellid ei drafod o dan y drefn ddirprwyedig.

 

Eglurwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig ar ran ‘isaf’ Stryd Fawr Bangor o fewn ffiniau datblygu’r ddinas, wedi ei ddynodi fel canolfan is ranbarthol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd 2009 (CDUG).

 

Tynnwyd sylw i’r hanes cynllunio perthnasol ynghyd a’r sylwadau ychwanegol.

 

Amlygwyd bod cais blaenorol wedi ei wrthod ar sail dyluniad yr adeilad a hefyd effaith y datblygiad ar osodiad yr adeilad rhestredig. Roedd caniatâd adeilad rhestredig eisoes yn bodoli i ddymchwel yr adeiladu presennol sydd ar y safle a chwblhau gwaith i atgyweirio’r adeilad rhestredig. Nodwyd mai'r prif faterion dan ystyriaeth oedd effaith y datblygiad ar osodiad yr adeilad rhestredig ar effaith ar y strydlun

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad roedd safle’r datblygiad arfaethedig o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor ond ger ffin tref diffiniedig. Amlygwyd bod gofynion sylfaenol polisi CH3 yn caniatáu tai newydd ar safleoedd heb eu dynodi o fewn ffin datblygu’r ganolfan isranbarthol. Yn yr un modd, amlygwyd bod polisi CH6 yn caniatáu cynigion i ddatblygu tai ar safleoedd ar hap ar gyfer 5 uned neu fwy o fewn ffiniau datblygu’r ganolfan isranbarthol sy’n darparu elfen briodol o dai fforddiadwy oni bai y gellir bodloni’r Awdurdod Cynllunio.

 

Fel rhan o’r cais derbyniwyd asesiad o hyfywdra’r cynllun yn dangos na fyddai’n hyfyw i ddarparu unedau fforddiadwy ar y safle oherwydd y gost o adeiladu a gwerth terfynol yr unedau. Eglurwyd bod arwynebedd llawr pob uned tua 57m2. Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy yn cyfyngu tai un llawr gyda dwy lofft i 80m2. Mae maint yr unedau arfaethedig dipyn llai nag uchafswm maint fforddiadwy'r math yma o uned. Yn ychwanegol i hyn, nid oes darpariaeth parcio ar y safle ac mae lle mwynderol/allanol pob uned wedi ei gyfyngu i falconïau bychan. Nid oes golygfeydd agored na deniadol o’r safle ac oherwydd yr holl ffactorau hyn ystyriwyd y byddai’r unedau i gyd yn fforddiadwy yn ei natur beth bynnag. Nid yw’n rhesymol nac yn angenrheidiol felly i ofyn am ddarpariaeth o dai fforddiadwy drwy drefniant ffurfiol megis Cytundeb 106 ar y safle yma.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad yn datgan byddai’r datblygiad yn creu sŵn ac aflonyddwch pellach i drigolion cyfagos. Eglurwyd bod y safle yn cael ei defnyddio gan gwmni adeiladu ac ystyriwyd bod hyn yn creu mwy o sŵn a niwsans na’r defnydd preswyl arfaethedig. Ceir tai neu fflatiau preswyl bob ochor i safle’r cais ac felly ystyriwyd bod defnydd preswyl yn fwy addas na’r defnydd presennol

 

Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, amlygwyd nad oedd darpariaeth parcio yn rhan o’r bwriad. Derbyniwyd sylwadau cychwynnol gan yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu ar sail diffyg parcio. Mewn ymateb derbyniwyd sylwadau gan yr asiant yn amlygu bod polisïau cenedlaethol yn cefnogi datblygiadau gyda llai neu dim darpariaeth parcio mewn llefydd hygyrch oherwydd bod y datblygiad yn annog lleihad mewn defnydd o gerbydau modur. Er bod polisi CH36 yn annog parcio ar safleoedd neu yn agos i’r safle, mae’r polisi hefyd yn cydnabod byddai darpariaeth lai yn gallu bod yn dderbyniol mewn canol trefi lle mae dewis da o gyfleusterau, gwasanaethau a dulliau effeithiol eraill o deithio.

b)      Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail diffyg parcio, bod y bwriad yn amharu yn sylweddol ar y tai rhestredig ac nad oedd y dyluniad yn gweddu i’r ardal.

 

c)      Mewn ymateb i’r rhesymau gwrthod, amlygodd yr Uwch  Rheolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd yr Uned Trafnidiaeth yn gwrthwynebu’r cais ac ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth  os gall yr ymgeisydd brofi bod y lleoliad yn un cyfleus nid oedd modd dadlau i wrthod. 

 

Mewn ymateb i sylw am y dyluniad, amlygodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd y Swyddog Cadwraeth wedi gwrthod y cais, ond mater o farn oedd y dyluniad.

Wedi ystyried y sylwadau, tynnwyd y cynnig yn ôl gan nad oedd sail i wrthod oherwydd diffyg mannau parcio

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod ar sail dyluniad ac effaith ar y tai rhestredig

          Pleidleiswyd ac fe ddisgynnodd y cynnig i wrthod

d)         Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ganiatáu y cais

dd)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·        nid fflatiau ar gyfer myfyrwyr oedd dan sylw

·        bod gwir angen fflatiau ar gyfer teuluoedd ifanc ym Mangor.

·        y byddai peidio cael mannau parcio yn hybu'r economi leol drwy annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

·        bod y dyluniad arfaethedig yn gweddu yn well na’r hyn oedd yno.

e)         Mewn ymateb i’r sylwadau dros ganiatáu y cais, amlygodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio bod y cynllun yn goresgyn rhesymau gwrthod blaenorol a bod graddfa ac effaith y bwriad yn dderbyniol.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd mewn ymateb i’r datganiad Ieithyddol a hefyd yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol

 

Amodau

 

1.    Amser

2.    Yn unol â’r cynlluniau a’r adroddiad ecolegol.

3.    Deunyddiau a gorffeniadau.

4.    Cyflwyno manylion a darparu’r man gollwng cyn meddiannu’r fflatiau.

5.    Amodau Dwr Cymru.

6.    Cyflwyno cofnod ffotograffig o’r adeilad presennol cyn ei ddymchwel.

Dogfennau ategol: