Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd a dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL)
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Nigel W Pickavance a’r Cynghorydd Dylan
Fernley
Cofnod:
Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop
(yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu
arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd a dau
gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL)
a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheoaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad 24 Ebrill, 2017 er mwyn i’r
Pwyllgor ymweld â’r safle. Ategwyd mai ail-gyflwyniad
o gais llawn ydoedd ar gyfer
dymchwel adeilad presennol Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen a chodi adeilad tri llawr yn ei
le. Fe dynnwyd y cais blaenorol (C16/0157/11/LL) yn ei ôl cyn
derbyn penderfyniad. Byddai'r datblygiad yn cynnwys yr
elfennau canlynol :
·
Siop ar y llawr gwaelod yn cynnwys
200m2 o arwynebedd
llawr mân werthu "nwyddau cyfleuster" (convenience goods), cownter
caffi ac ardal eistedd, ynghyd ag ardal storfa / swyddfa / ffreutur ar gyfer staff - bwriedir agor y siop 24 awr y diwrnod,
7 diwrnod yr wythnos
·
10 fflat
un llofft ar y lloriau uwch
(5 ar bob llawr). Byddai pob fflat
yn cynnwys ystafell wely, ystafell fyw / fwyta, cegin, ystafell
ymolchi a chyntedd ac fe fyddai
ganddynt arwynebedd llawr o thua 45m2 pob un.
·
7 gofod
parcio wedi'u neilltuo, gan gynnwys
2 ofod ar gyfer gyrwyr anabl,
ynghyd a mannau ar wahân i
gadw gwastraff masnachol a phreswyl
Nodwyd bod polisi CH38 o’r CDUG yn ceisio diogelu
cyfleusterau cymunedol presennol. Wrth
dderbyn bod cyfleuster cymunedol wedi ei golli o'r
safle hwn oherwydd problemau gyda hyfywdra'r busnes blaenorol, byddai'r adeilad newydd yn gyfleuster
cymunedol yn darparu ystod eang
o wasanaethau a sicrhau dyfodol mwy sicr
i'r safle. Eglurwyd bod polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol yn gefnogol i'r
egwyddor o geisio sicrhau datblygiadau cadarnhaol ar safleoedd
ail-ddatblygu oedd o fewn ffiniau datblygu
trefol.
Nodwyd y byddai’r
bwriad yn sylweddol uwch na'r adeilad presennol,
ond gwnaed sylw bod sawl adeilad
tri llawr mewn rhannau eraill o Faesgeirchen, gan gynnwys blociau o fflatiau o faint cyffelyb.
O ganlyniad ni
ystyriwyd y byddai’r adeilad yn wahanol
ei naws i
adeiladau eraill yn y stad.
Er
y gwerthfawrogwyd pryderon lleol am y bwriad, rhaid oedd ystyried
y cynllun yng nghyd-destun lleoliad trefol y safle yn ogystal â’i
ddefnydd blaenorol. Ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn cael
effaith niweidiol arwyddocaol ychwanegol ar fwynderau trigolion
cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn gydnaws
gyda Pholisïau B23 a B33 o’r CDUG a oedd
yn anelu at amddiffyn mwynderau trigolion lleol.
Tynnwyd
sylw bod yr Asesiad Marchnad Dai, a gyflwynwyd gyda'r cais, yn honni
bod diffyg yn y farchnad dai yn
lleol am unedau un llofft ar gyfer
unigolion neu gyplau a oedd am gymryd eu camau
cyntaf yn y farchnad dai. Ystyriwyd
bod y safle yn addas ar gyfer
unedau byw a byddai’r fflatiau yn cwrdd â galw
lleol mewn modd a oedd
yn fforddiadwy.
Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
b)
Gwrthwynebwyd y cais gan y Cynghorydd Dylan Fernley, aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed
y prif bwyntiau canlynol ganddo:-
·
Ei fod yn siomedig nad oedd yr
adroddiad a’r cyflwyniad yn cyfeirio at agosatrwydd y bwriad at y tai gwarchod
cyfagos a byngalos yr henoed
·
Y byddai’r datblygiad yn cael
effaith niweidiol ar fusnesau tebyg lleol
·
Y byddai cynnydd mewn
problemau gwrthgymdeithasol o ganlyniad i’r datblygiad
·
Bod y gymuned leol yn
gwrthwynebu yn gryf - dim llythyrau cefnogol wedi eu
derbyn
·
Ni fyddai’r adeilad yn gweddu
i’r ardal oherwydd ei uchder ac nid oedd y llety yn addas ar gyfer yr anabl
·
Mai llety addas wedi ei reoli
yn effeithiol sydd ei angen yn yr ardal
Gwrthwynebwyd y cais gan y Cynghorydd Nigel Pickavance, aelod lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-
·
Ei fod yn cynrychioli
gwrthwynebiadau trigolion Maesgeirchen i’r bwriad a bod y pryderon hynny wedi
eu hamlygu mewn cyfarfod lleol
·
Y byddai’n or-ddatblygiad
o’r safle ac yn adeilad amlwg
·
Nad oedd angen siop a chaffi
yn yr ardal - yr anghenion hyn yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth bresennol
·
Byddai cynnydd mewn traffig a
pharcio
·
Ni fydd tenantiaeth reoledig
dros y fflatiau
·
Dim mynediad anabl i’r adeilad
na drysau tan
·
Bod y lleoliad gyferbyn a dau
faes chwarae
(ch)
Cynigwyd ac
eiliwyd i wrthod y cais oherwydd bod y bwriad yn or-ddatblygiad
a bod maint yr adeilad yn amlygu pryder.
d)
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Diolchwyd i’r Aelodau
Lleol am eu sylwadau ac am eu gwaith
·
Bod yr archfarchnad yn
niweidiol i’r economi leol
·
Bod maint yr adeilad yn
amharu ar fwynderau cyfagos
·
Bod y bwriad yn gwahodd
ymddygiad gwrthgymdeithasol
·
Effaith y bwriad ar
fwynderau trigolion lleol o fod ar agor 24/7
PENDERFYNWYD gwrthod y cais ar sail bod y bwriad yn or-ddatblygiad a fyddai’n cael effaith niweidiol ar mwynderau gweledol a preswyl.
Dogfennau ategol: