Codi 4 tŷ fforddiadwy, creu ffordd stad newydd a mynedfa cerbydol newydd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones
Cofnod:
Codi 4 tŷ
fforddiadwy, creu ffordd stad newydd
a mynedfa gerbydol newydd
a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad ym Mhwyllgor 13 Mawrth.
2017 er mwyn i’r aelodau ymweld â’r safle a derbyn
manylion o’r cynllun draenio tir a barn yr ymgynghorwyr statudol. Amlygwyd mai
cais llawn ydoedd i godi
pedwar tŷ fforddiadwy deulawr ar safle ger ardal anheddol o’r pentref ger
y ffin ddatblygu fel y'i diffinnir gan Fap Cynhigion Cynllun Datblygu Unedol
Gwynedd - o ganlyniad fe ddiffinniwyd
fel safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad
agored.
Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Eglurwyd bod y
safle yn ymylu gyda’r ffin datblygu ac yn gydnaws a pholisi CH7 sy’n caniatáu
cynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig addas sy’n union ar
ffin pentrefi neu ganolfannau. Ategwyd bod ochor ddeheuol y safle yn ymylu’r
ffin datblygu ger stad Bron Gwynedd ac felly gall y safle fod yn safle eithrio
gwledig. Caniatáu datblygiadau am dai fforddiadwy yn unig mae polisi CH7 pan fydd
yr angen wedi ei brofi - derbyniwyd datganiad Cynllunio a Chartrefi Fforddiadwy
gyda'r cais yn profi’r angen am y tai hyn. Derbyniwyd sylwadau hefyd gan Uned
Strategol Tai y Cyngor yn cydnabod yr angen am y math yma o dai fforddiadwy yn
yr ardal.
Amlygwyd bod gwrthwynebiadau ar sail bod safleoedd, tu fewn i’r ffin
datblygu, heb gael eu datblygu eto a bod y Cynllun Datblygu Lleol yn darparu
safleoedd newydd ar gyfer mwy o dai yn y pentref. Fel ymateb, nodwyd nad oedd
polisi CH7 yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd eraill o fewn y ffin ddatblygu
fodloni’r angen yn y lle cyntaf a’r cyfan sydd ei angen o dan y polisi yw angen
lleol profedig am dai fforddiadwy.
Amlygwyd bod gwrthwynebiadau eraill yn cyfeirio at wrthodiadau blaenorol ar
gyfer datblygiad preswyl ar y safle a’i fod wedi ei wrthod ar apêl. Eglurwyd
bod y cais dan sylw (3/18/384E) yn gais am ganiatâd amlinellol ar gyfer
datblygu’r cae i gyd ar gyfer datblygiad preswyl. Ar y pryd, roedd yr
ystyriaethau polisi yn wahanol i’r rhai presennol ac nid oedd y polisïau yn
rhyddhau tir tu allan i’r ffiniau datblygu i ddarparu tai fforddiadwy fel
safleoedd eithrio gwledig.
Yng nghyd-destun materion isadeiledd amlygwyd bod polisïau B32, B29 a CH18 yn berthnasol i’r agwedd llifogydd,
rheoli dŵr wyneb a sicrhau fod
darpariaeth ddigonol o seilwaith i’r datblygiad. Derbyniwyd
gwrthwynebiadau yn amlygu pryder am lifogydd, problemau dŵr wyneb a
phroblemau gyda’r brif garthffos. Cyflwynwyd cynllun diwygiedig yn dangos
cynllun draenio tir manwl ac asesiad cae glas o’r sefyllfa dŵr wyneb
presennol a’r sefyllfa ar ôl datblygu’r safle. Adroddwyd y byddai’r dŵr
wyneb yn cael ei waredu trwy sustemau Dŵr Cymru i beipen sy’n arllwyso i’r
Afon Cadnant. I sicrhau na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol pellach
lawr yr afon mae’r bwriad yn cynnwys 2 sustem gwanhad (attenuation)
(fe fydd un yn cael ei mabwysiadau gan Dŵr Cymru) a hydro-brêc
sy’n cyfyngu llif y dŵr wyneb i 5l/e. Mae’r asesiad cae glas yn dangos
byddai’r datblygiad yn lleihau'r rhediad dŵr wyneb oddi ar y safle a bydd
y dŵr wyneb sy’n deillio o’r datblygiad yn cael ei reoli drwy sustem
bwrpasol.
Nid oedd gan Dŵr Cymru wrthwynebiad i’r
cynllun draenio diwygiedig. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn
ddarostyngedig i amodau perthnasol a chwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod y tai yn cael eu trosglwyddo
i gymdeithas tai ac i amodau perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif
bwyntiau canlynol:-
·
Gwrthodwyd amryw o geisiadau
cynllunio ar y safle dros y 35 mlynedd diwethaf
·
Nid yw’r rhesymau dros wrthod
wedi newid - os rhywbeth maent yn waeth
·
Pryder llifogydd yn debygol o gynyddu - yr ardal wedi dioddef
risg cynyddol o lifogydd dros y blynyddoedd
·
Nid yw’r gwelliannau sydd wedi eu cynnig
yn ddigonol
·
Gyda llethr i’r tir, bydd
dŵr wyneb yn llifo oddiar y tir i lawr i Tan y
Buarth a Phen y Buarth
·
Mae dŵr yn sefyll yn y
cae wedi cawod o law
·
Yr Afon Cadnant yn gorlifo yn
bryder parhaus
c)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod yr adroddiad yn
rhoi arweiniad clir o’r meini
prawf
·
Bod y bwriad yn
estyniad rhesymegol i’r pentref
·
Bod cynllun y fynedfa wedi ei diwygio
·
Datrysiadau i’r
pryderon dŵr wyneb a gorlifo wedi eu cyflwyno
·
Llywodraeth Cymru
angen cyrraedd targedau tai fforddiadwy
·
Dim tai
cymdeithasol wedi eu hadeiladu ym Methel ers 35
mlynedd
·
Y bwriad yw
trosglwyddo'r tai i gymdeithas tai Cynefin
ch) Gwrthwynebwyd y cais gan yr
aelod lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed
y prif bwyntiau canlynol ganddo:-
·
Gwrthodwyd ceisiadau blaenorol
drwy Cyngor Gwynedd, ar apêl a Chyngor Cymuned
·
Bod y safle tu allan i’r ffin
datblygu ac nad oedd y tir wedi ei gynnwys yn y CDLL oherwydd sylwadau’r
Gwasanaeth Cynllunio – bod safleoedd eraill o fewn y ffin heb eu datblygu
·
Pryderon yn lleol o ran
mynediad i’r safle, carthffosiaeth a draenio tir
·
Dim sicrwydd bod cynllun
dŵr wyneb Dŵr Cymru yn mynd i weithio
·
Ei fod wedi derbyn ail farn am y datrysiad carthffosiaeth yn amlygu nad oedd y cynllun
yn un ymarferol a’i fod yn rhoi straen ychwanegol ar y system bresennol
·
Angen am dai fforddiadwy ond
yn y lleoliad cywir
·
Bod yr asesiad parcio wedi ei
wneud yn ystod oriau dydd yn hytrach na gyda’r nos pan mae’r sefyllfa ar ei
waethaf
·
Bod angen cadw at y cynllun
datblygu lleol - buasai caniatáu yn anghyfrifol
d)
Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio ei fod yn derbyn
y pryderon, ond na ellid cymharu'r
ceisiadau blaenorol gyda’r un presennol oherwydd y gwahaniaeth o ran graddfa. Nodwyd hefyd, er bod y bwriad tu allan i’r ffin datblygu, bod polisi CH7 yn ymdrin
ag eithriadau i’r polisi petai'r bwriad yn estyniad
rhesymegol. O ran pryderon
am lifogydd, nodwyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno
gan Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Uned Draenio
yn ymateb i’r pryderon hynny.
dd) Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â pharcio, amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod yr asesiad wedi ei
wneud yn ystod oriau gwaith,
ond bod yr asesiad hwnnw yn
un oedd yn rhoi ystyriaeth i’r sefyllfa ar
ei waethaf. Gydag estyniad i’r fynedfa, nodwyd
nad oedd
lle i amau
y buasai'r sefyllfa yn gwaethygu.
e)
Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu y cais
f)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau:
·
Mai tai fforddiadwy oedd y tai ac felly dim amheuaeth
bod eu hangen – yn codi posibiliadau
i’r pentref
·
Bod yr estyniad yn un rhesymegol – petai yn un ymylol ni
fuasai gorfodaeth am dai fforddiadwy
·
Bod ymateb wedi ei gyflwyno
dros y pryderon
·
Bod bwriad trosglwyddo'r
tai i ofalaeth cymdeithas tai Cynefin
·
Angen ystyried cynllun rheoli traffig a chyfyngu oriau adeiladu
·
Bod y tir yn wlyb
·
Rhaid ystyried bod
y Cyngor Cymuned yn gwrthod y cais
·
Bod angen ystyried
rhesymau gwrthod y ceisiadau blaenorol
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â Chyngor Gwynedd yn
mabwysiadu'r lôn a gosod llinellau melyn dwbl, nodwyd nad oedd yn arferol rhoi
llinellau melyn dwbl gan nad oedd problemau yn cael eu rhagweld.
PENDERFYNWYD
dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i arwyddo cytundeb 106 i sicrhau fod y tai yn cael eu
trosglwyddo i gymdeithas tai ac i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:
1.
Amser
2.
Yn
unol â chynlluniau
3.
Deunyddiau
4.
Tirweddu
yn cynnwys triniaethau ffin
5.
Cynllun
rheoli bioamrywiaeth
6.
Trafnidiaeth
(cwblhau'r lon stad, llefydd parcio ayyb)
7.
Dwr
Cymru
8.
Cwblhau'r cynllun draenio tir
cyn meddiannu’r tai.
9.
Cyfyngu’r dŵr arwyneb i
5l/s.
10. Tynnu hawliau a ganiateir.
11. Cynllun goleuo.
12. Oriau gwaith adeiladu (8yb tan 6yh Llun i Wener,
8yb i 1yh ar Ddydd Sadwrn, dim gwaith adeiladu ar Ddydd Sul neu Ŵyl Banc)
13. Cyflwyno lefelau tir fel y mae ac arfaethedig.
Dogfennau ategol: