Penderfyniad:
1.1 Cymeradwyo a nodi sefyllfa
ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2016/17.
1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn
“Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a Theuluoedd |
0 |
Addysg |
(48) |
Economi a Chymuned |
(19) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amylchedd (Rheoleiddio gynt) |
(38) |
Ymhynghoriaeth Gwynedd |
(96) |
Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(45) |
Cyllid |
(67) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(56) |
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol
(sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –
- £151k i glirio gorwariant Adran Plant a Theuluoedd
- £88k i glirio gorwariant Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
- £700k i’w glustnodi mewn cronfa er mwyn cyfrannu tuag at
Strategaeth Ariannol i'r dyfodol.
1.4
Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol a rhyddhau’r
ddarpariaeth fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o
gronfeydd a darpariaethau.
1.5 Datgan i’r
adrannau mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd y Cabinet yn clirio
gorwariant i’r dyfodol, ac y bydd disgwyl i adrannau gario
unrhyw orwariant ymlaen yn y dyfodol (yn unol a’r drefn o gario
tanwariant ymlaen).
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
1.1 Cymeradwyo a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r
Cyngor am 2016/17.
1.2 Cymeradwyo’r
symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn
Atodiad 1), sef:
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a Theuluoedd |
0 |
Addysg |
(48) |
Economi a Chymuned |
(19) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amgylchedd (Rheoleiddio
gynt) |
(38) |
Ymhynghoriaeth Gwynedd |
(96) |
Tîm Rheoli Corfforaethol
a Chyfreithiol |
(45) |
Cyllid |
(67) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(56) |
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) -
- £151k i glirio gorwariant Adran Plant a Theuluoedd
- £88k i glirio gorwariant Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
- £700k i’w glustnodi mewn cronfa er mwyn cyfrannu tuag at
Strategaeth Ariannol i'r dyfodol.
1.4
Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol a rhyddhau’r
ddarpariaeth fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o
gronfeydd a darpariaethau.
1.5 Datgan i’r
adrannau mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd y Cabinet yn clirio
gorwariant i’r dyfodol, ac y bydd disgwyl i adrannau gario
unrhyw orwariant ymlaen yn y dyfodol (yn unol â’r drefn
o gario tanwariant ymlaen).
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad i ystyried a nodi sefyllfa
ariannol derfynol adrannau’r Cyngor. Nodwyd fod yr adroddiad yn un calonogol
iawn a diolchwyd i’r aelodau staff am ei greu. Crynodebau fesul adran sydd i’w
weld yn atodiad 1, sy’n dangos fod mwyafrif o’r adrannau yn tanwario. Nodwyd os
yw adran yn tanwario uwchlaw £100k bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i
adrannau a phrosiectau eraill.
Nodwyd fod tanwariant o £939k o dan benawdau cyllideb
gorfforaethol, gyda £239k ohono yn mynd tuag at leddfu gorwariant mewn dwy
adran. Mynegwyd fod £700k yn cael ei glustnodi ar gyfer ariannu strategaeth
ariannol i’r dyfodol, a golygai hyn fod £1.76m mewn cronfa benodol i’r perwyl.
Gan fod y Cyngor yn wynebu cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â lefel ariannu
grant Llywodraeth erbyn 2018/19 a thu hwnt, gallasai’r gronfa yma roi’r amser i’r Cyngor gynllunio
er mwyn ymateb yn briodol.
Nodwyd fod yr adroddiad wedi bod at y Pwyllgor
Archwilio, a'u bod yn cefnogi’r argymhellion.
Adroddwyd fod y Pwyllgor Archwilio wedi holi am addasu
cyllidebau 2017/18 yr adrannau i adlewyrchu perfformiad ariannol 2016/17. Bu iddynt holi a derbyn eglurhaon
o’r gorwariant yn yr Adran Plant a’r tanwariant yn yr Adran Oedolion, a
sefydlwyd fod hynny ddim oherwydd methiant i ddarparu gwasanaethau. Nodwyd
gweithrediad masnachol yr Adran Ymgynghoriaeth.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
-
Trafodwyd gan fod yr adrannau yn
tanwario os bydd hyn yn rheswm i’r Llywodraeth leihau maint y grant i’r
dyfodol. Nodwyd nad oedd yn rheswm ar gyfer lleihau grant gan fod hwnnw yn
destun fformiwla nad oedd unrhyw beth i’w wneud a pherfformiad cyllidol.
Trafodwyd y ddadl am glirio gorwariant adrannau a’r peryglon o greu diwylliant lle nad oes gan gorwario unrhyw sgil effaith. Penderfynwyd ychwanegu pwynt 1.5 i’r argymhelliad i ddatgan i adrannau mai dim ond mewn achosion arbennig y bydd y Cabinet yn clirio gorwariant y dyfodol ac y bydd disgwyl i adrannau gario unrhyw orwariant ymlaen yn y dyfodol.
Awdur:Dafydd Edwards
Dogfennau ategol: