Cyflwynwyd gan:Cyng / Cllr Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Cymeradwyo
Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2016/17 gyda’r newidiadau a nodwyd gan y
swyddogion ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cael ei fabwysiadu.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNWYD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad sydd adrodd ar berfformiad y
Cyngor am y flwyddyn a aeth heibio. Nodwyd ei fod yn ofyn statudol i gyflwyno
adroddiad blynyddol. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn ystod
mis Hydref yn ôl yr arfer, ond yn dilyn trafodaethau penderfynwyd symud y
dyddiad yn nes at ddiwedd y flwyddyn ariannol. O ganlyniad i hyn nodwyd fod man
waliau teipio a man newidiadau i’r ystadegau yn yr Adroddiad.
Manylwyd ar y newidiadau angenrheidiol canlynol –
·
Adroddiad
o Tud..21 - Gofal -
Paragraff olaf ar yr ochor dde - ffigwr cywir ar gyfer cyfradd oedi 2016/17 yw
4.91% nid 4.44%. Newid hwn yn berthnasol i’r 4ydd mesur ar dudalen 40 yn y tabl
mesurau.
o Tud.26 - Tlodi,
Amddifadedd, Economi a Tai - Trydydd paragraff ar ochor dde - gwariant Caffel y
Cyngor i fusnesau lleol yn uniongyrchol neu drwy is-gontractau yn werth £59.8m
o Tud.30 - Paragraff cyntaf
ochor dde'r dudalen - wedi lleihau ôl troed carbon o 30.1% ers 2005 ac wedi
llwyddo i gyflawni arbedion cronnus o £3.67m
·
Tabl Mesurau
o Tud.40 – Gofal – Nifer y defnyddwyr gwasanaeth oedolion sy’n derbyn
taliadau uniongyrchol – Ffigwr cywir 121 – tuedd felly yn codi yn hytrach na
gostwng
o Tud.44 – Y Gymraeg – Bydd data 2016/17 ar gael i fesur cyntaf ar gael ar
ddechrau mis Gorffennaf.
o Tud.44 - Y Gymraeg - Ail
fesur - Canran Ysgolion Uwchradd sydd wedi sefydlu gwaelodlin o ddefnydd
cymdeithasol pobl ifanc Blwyddyn 7 o’r Gymraeg - Ffigwr 2016/17 yw 100 ac o
ganlyniad tuedd yn aros yn gyson.
o Tud.42 - Tlodi,
Amddifadedd, Economi, Tai - ail fesur mae dau fesur gwahanol ar ddata ‘canran
gwawriant y Cyngor gyda busnes’ felly gwybodaeth fel a ganlyn:
o
Canran o wariant caffael y Cyngor sydd yn mynd i
gwmnïau sydd a’u pencadlys yng Ngwynedd |
40.33 |
41.1 |
39.5 |
39.1 |
ê |
Canran o
wariant caffel y Cyngor sydd yn mynd i gwmnïau sydd â phencadlys neu gangen
yng Ngwynedd, sydd wedyn yn gwario’n lleol drwy
is-gontractau |
- |
52 |
52 |
50 |
ê |
Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled i ddod ar
adroddiad at ei gilydd.
Mae’r adroddiad wedi ei baratoi yn seiliedig ar
adroddiadau perfformiad unigol aelodau’r Cabinet. Gan fod yr adroddiad yn cael
ei chyhoeddi yn gynt eleni ni fydd modd cymharu perfformiad Gwynedd a gweddill
Cymru na’r ‘Teulu’ o gynghorau cyffelyb gan na fydd data ar gael.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
-
Tynnwyd sylw at waith da'r adran
Ofal. Pwysleisiodd fod mwy o waith yn cael ei wneud a fydd yn datblygu
gwasanaethu i drigolion Gwynedd. Nododd fod angen pwysleisio'r gwaith sy’n
digwydd yn y maes Gofal i wella’r sefyllfa o ran trosglwyddiadau o ysbytai .
-
Holwyd er bod 74% yn nodi fod
Gwynedd yn le da i fyw a oes cwestiynau yn cael ei holi i’r 17% sydd yn
anhapus. Pwysleisiwyd eu bod yn cwestiynu ac mae’r rhesymau yn amrywiol, nodwyd
fod y rhesymau yn cael eu nodi ac yn cael eu bwydo yn ôl i’r adrannau er mwyn
ysgogi gwelliant parhaus.
-
Nodwyd fod ymgynghoriaeth a
thrigolion bellach yn fwy eang ac mae elfennau o’r gwaith yn cael ei wneud dros
y we. Mynegwyd fod hyn yn rhoi mwy o drawstoriad a samplau mwy. Mae hyn yn
galluogi’r Cyngor i greu samplau o
ardaloedd sydd yn nodi beth yw problemau ardaloedd penodol.
-
Cyfeiriwyd at nifer o
ddangosyddion caolonogol ym maes addysg a diolchwyd i staff yr adran ac yn benodol i staff yr ysgolion am
eu gwaith caled i wella safon addysg plant.
-
Nodwyd fod yna berygl fod yr
adroddiad yn edrych gormod ar yr ochr bositif o berffomriad
ond ddim yn cyfeirio digon at y materion sydd angen sylw. Fodd bynnag, wrth geisio
edrych yn y mesurau am y materion hynny, ymddengys yn gyffredinol mai ychydig o
ystyriaethau o'r fath sydd yna; sy’n golygu bod perfformiad y Cyngor yn
gyffredinol yn galonogol gyda’r adroddiad yn adlewyrchu hynny.
-
Roedd yr adroddiad yn destament i ymdrechion holl staff y
Cyngor i geisio cynnal perfformiad mewn cyfnod lle
mae’r cyngor wedi gorfod arbed dros £31m yn y 4 blynedd diwethaf yn unig – a
hynny ar ben y £31m y bu’n rhaid ei ddarganfod yn yr wyth blynedd cyn hynny.
Awdur:Janet Roberts
Dogfennau ategol: