Agenda item

(a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer cyfnod y Gwanwyn i Haf 2017.   

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol:  

 

 

(i)         Ysgol Glanymor, Pwllheli

(ii)        Ysgol Talysarn

(iii)       Ysgol Bro Hedd Wyn

(iv)       Ysgol Llanllyfni

(v)        Ysgol Bro Tegid

 

(Copïau’n amgaeedig)

 

Cofnod:

(a)   Tywysodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw bod 5 ysgol gynradd, ac 1 ysgol uwchradd wedi eu harolygu gan ESTYN  yn ystod tymor y Gwanwyn 2017.

 

(b)              Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Glanymôr, Talysarn, Bro Hedd Wyn, Llanllyfni a Bro Tegid. 

 

Canmolodd Ymgynghorydd Her Gwe ysgolion Gwynedd am ei parodrwydd i rannu eu hunan arfarniadau o addysg grefyddol ac addoli ar y cyd gan bwysleisio mai un o gyfrifoldebau CYSAG ydoedd monitro safonau addysg grefyddol. Eglurwyd y ceisir derbyn yr hunan arfarniadau gan ysgolion yn ystod y tymor arolygiad neu yn fuan ar ôl hynny.  Gan nad yw addysg grefyddol yn bwnc cwricwlwm cenedlaethol, gwelir o’r hunan arfarniadau bod yr ysgolion yn cyflawni gofynion maes llafur Cytûn sydd yn cael ei lunio yn lleol gan CYSAG.

O’r hunan arfarniadau a gyflwynwyd gwelwyd bod ysgolion wedi barnu bod y safonau, y ddarpariaeth addysg yn dda a’r addoli ar y cyd yn bodloni’r gofynion statudol.  Cyflwynwyd hunan arfarniad Ysgol Llanllyfni yn seiliedig ar waith dros gyfnod hir ond cyfeiriwyd at  adroddiad arolygiad diweddar ESTYN oedd yn nodi nad oedd y ddarpariaeth  yng nghyfnod allweddol 2 yn bodloni gofynion y maes llafur cytun yn llawn.  Bydd yr ysgol yn llunio camau gweithredu er mwyn  mynd i ‘rafael â’r gwaith a hyderir y gwelir CYSAG gynnydd ac engreifftiau o waith ym mis Hydref.

Cyfeirwyd at y materion gwella a nodwyd gan yr ysgolion: 

·         Ysgol Glan y Môr yn awyddus i helpu bechgyn gyflawni gwell safonau mewn addysg grefyddol drwy ddatblygu llythrennedd, darllen ac ysgrifennu.

·         Ysgol Talysarn yn awyddus i sicrhau bod y disgyblion yn gallu dangos cynnydd wrth astudio crefyddau amrywiol; sicrhau bod addysg grefyddol yn cael ei graffu gan Banel Cwricwlwm yr Ysgol yn rheolaidd

·          Ysgol Bro Hedd Wyn yn awyddus i sicrhau bod y Cyfnod Sylfaen yn cael profiadau mwy eang a chyfoethog

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â threfniadau monitro CYSAG, eglurodd yr Ymgynghorydd Her y gwneir hynny fel a ganlyn:

·         Craffu ar ganlyniadau allanol ym mis Hydref neu yng nghyfarfod y Gwanwyn

·         Pori trwy adroddiadau arolygiadau

·         Gwahodd ysgolion i gyflwyno hunan arfarniadau gan sicrhau bod y cynnwys yn arfarnol ac yn feintiol

·         Gwahodd ysgolion i roi cyflwyniadau ar y gwaith a wneir ar lawr y dosbarth

O safbwynt gofynion addoli ar y cyd, esboniwyd ei fod i’w gynnal yn ddyddiol, ond nad oes rheidrwydd i’r Gwasanaeth fod dorfol, gall ei gynnal mewn dosbarthiadau ac nad oedd amser penodol ar ei gyfer.  Yn unol â’r ddeddf rhaid i’r sesiwn fod yn bennaf gristnogol gyda chais i ysgolion fod yn sensitif i grefyddau eraill.  Eglurwyd bod hawl gan rhieni i eithrio plant o addoli ar y cyd fel mae hawl ganddynt i’w heithrio o ddosbarthiadau addysg grefyddol.  Mae hawl gan Ysgol i fod yn gristnogol mewn addoli ar y cyd ond o safbwynt  addysg grefyddol, nid gwaith ysgolion yw gneud y plant yn grefyddol.

Yn hanesyddol ac yn draddodiadol prin iawn ydoedd sefyllfaoedd lle ceir staff yn gwrthod arwain addoli ar y cyd mewn ysgolion, a nodwyd bod stoc o adnoddau defnyddiol wedi eu cyhoeddi ar gael i helpu staff arwain.  Yn ogystal, ceir ysgolion yn gwahodd arweinwyr crefyddol lleol i arwain sesiynau addoli ar y cyd  gydag ysgolion yn croesawu’r cyswllt hwn.  Hefyd, nodwyd bod rhai ysgolion yn gwneud defnydd ac yn gwerthfawrogi cynllunAgor y Llyfrlle ceir criw o gyfeillion yn adrodd stori neu actio stori feiblaidd i ddisgyblion.

 

PENDERFYNWYD:        Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol â’r drefn, i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol, anfon llythyr at yr ysgolion uchod yn nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr ysgolion i gyrraedd y graddau.

 

 

 

Dogfennau ategol: