Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg a’r Rheolwr Archwilio.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg
a’r Rheolwr Archwilio.
Nododd
yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod Safonau Archwilio Mewnol yn y Sector Gyhoeddus yn gofyn
iddo gyflwyno barn yn flynyddol ar
fframwaith reolaeth fewnol y Cyngor. Ar sail y gwaith a gwblhawyd yn ystod 2014/15, roedd y swyddog yn fodlon bod gan
Gyngor Gwynedd fframwaith
cadarn o reolaeth fewnol.
Adroddwyd bod 87 allan o 91
archwiliad a oedd yng nghynllun archwilio
addasedig terfynol archwilio mewnol wedi eu cwblhau
erbyn 31 Mawrth 2015 sef 95.6% o’r cynllun,
yn erbyn uchelgais perfformiad o 95% ar gyfer 2014/15.
Nodwyd
bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau, a gyflwynwyd yn ystod 2013/14, wedi parhau gyda’i
waith o gryfhau trefniadau’r Cyngor i ymateb i
adroddiadau archwilio mewnol.
Nododd yr Uwch Reolwr Refeniw
a Risg y cafwyd trafodaethau â’r swyddogion perthnasol yn dilyn cyflwyno
cynllun archwilio mewnol drafft ar
gyfer 2015/16 i’r pwyllgor hwn yn
y cyfarfod diwethaf ar 17 Chwefror ac y gwelir y cynllun terfynol fel Atodiad
3 i’r adroddiad.
Tynnwyd sylw bod uchelgais 3 o fesurau perfformiad Archwilio Mewnol ar gyfer
2015/16 wedi eu gostwng am y rhesymau canlynol:
·
Gwir ddyddiau archwilio a ddarparwyd i Gyngor
Gwynedd. Nifer yr archwilwyr wedi lleihau o 10 yn 2014/15 i 7 yn 2015/16. Hyn wedi ei
gytuno gan y Cyngor fel rhan
o’r cynlluniau arbedion effeithlonrwydd.
·
Gwir ddyddiau archwilio a ddarparwyd i gwsmeriaid
allanol. Daeth cytundeb gwasanaeth gyda Grŵp Cynefin i ben, ac nid oes sicrwydd
y llwyddir i ennill cytundeb gyda chwsmer allanol
yn ei le.
·
Canran o’r archwiliadau mewnol sydd yn
cyrraedd barn “B” neu well. Wrth i nifer
staff y Cyngor gael
ei dorri, mae’n ddisgwyliedig y bydd rhai rheolaethau
mewnol yn gwanhau. Fodd bynnag,
disgwylir mai gostyngiad dros dro fydd hyn,
cyn y bydd egwyddorion Ffordd Gwynedd yn datblygu o fewn
holl wasanaethau’r Cyngor.
Nododd
aelod yng nghyswllt archwiliad ‘Defnydd Ymgynghorwyr’ a gynhelir yn 2015/16, y dylid ystyried sut y penodir ymgynghorwyr,
eu perthynas â swyddogion a sicrhau bod y drefn benodi yn
cydymffurfio â safonau
OJEC. Mewn ymateb i’r sylw, nododd
yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod y gwaith wedi ei
gychwyn ac oes oedd gan aelod
unrhyw bryder o ran penodiad ymgynghorydd yna dylent gysylltu
efo’r Rheolwr Archwilio.
Mewn ymateb i sylw gan
aelod parthed y nifer o ddyddiau a nodwyd ar gyfer
cynnal yr archwiliad ‘Y Fenter Twyll Genedlaethol’, nododd yr Uwch
Reolwr Refeniw a Risg bod y fenter o gymharu data cyrff cyhoeddus er mwyn
atal twyll yn rhedeg ers
sawl blwyddyn a bod mwy o ymrwymiad amser i Archwilio
Mewnol yn 2015/16 nag mewn blynyddoedd blaenorol gan fod
yr Uned Atal Twyll Budd-dal wedi trosglwyddo i’r Adran Gwaith a
Phensiynau
(DWP) ers Tachwedd 2014.
Mewn ymateb i sylw yng
nghyswllt erthygl yn y Daily Post yn ddiweddar yn nodi
bod y Cyngor wedi dileu dyledion o £428,606 ar ôl gordalu £1,748,740 mewn budd-daliadau tai rhwng 2012-15, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod bob ymdrech yn cael ei
wneud i dderbyn
yr arian sydd yn ddyledus
i’r Cyngor.
Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod trefn reolaidd gan y Cyngor i ddileu
dyledion efallai sydd yn golygu
bod y gyfran yn uwch na chynghorau eraill sydd ddim yn
cynnal yr ymarferiad mor aml. Nododd bod y drefn o ddileu
dyledion yn rheolaidd yn arfer
da.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad fel adroddiad blynyddol ffurfiol yr Uwch
Reolwr Archwilio a Risg a’r Rheolwr
Archwilio yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2014/15.
Dogfennau ategol: