I ystyried cais gan
Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y
cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd
cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Amlygodd ei fwriad o
gyflogi'r ymgeisydd petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu gan gynnig hyd at
30awr yr wythnos iddo. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i rannu gwybodaeth am gefndir y
troseddau ac amlygodd mai camddealltwriaeth oedd y prif reswm dros ei
gamgymeriad. Cadarnhaodd bod ganddo drwydded yrru gyfredol lawn.
Ymneilltuodd yr
ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD
bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
sylwadau llafar
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Yn dilyn collfarn gan Lys Ynadon De Ynys Môn (Medi 2000) am un digwyddiad o drais ABH derbyniwyd dedfryd o wasanaeth yn y gymuned a gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Yn unol â pharagraff
6.5 o bolisi’r Cyngor
bydd cais yn cael ei
wrthod os bydd llai na
3 blynedd wedi pasio ers derbyn
collfarn o drais ABH. O ystyried bod y gollfarn yma wedi digwydd
dros 16 mlynedd yn ôl, roedd
yr Is-bwyllgor yn fodlon nad
oedd yn disgyn
o fewn gwaharddiad cymal 6.5 ac felly nid yn sail i wrthod y cais.
Yn dilyn collfarn gan Lys Ynadon De Ynys Môn (Rhagfyr 2003) am un
cyhuddiad o ymddygiad meddw ac afreolus derbyniwyd dirwy a gorchymyn i dalu
costau. Nid yw polisi’r Cyngor yn cyfarch trosedd o’r fath yn benodol, fodd
bynnag amlygwyd bod cymal 17.1 o’r polisi yn nodi bod gofyn i 12 mis basio ers
y gollfarn. O ystyried bod y gollfarn yma wedi digwydd 13 mlynedd yn ôl, roedd
yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yn disgyn o fewn gwaharddiad cymal 17.1 ac
felly nid yn sail i wrthod y cais.
Yn dilyn collfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn (Mawrth 2009) am un cyhuddiad
o ddefnyddio cerbyd heb yswiriant (Chwefror
2009) derbyniwyd 7 pwynt cosb a gorchymyn i dalu dirwy, gordal dioddefwr a
chostau. Ni chafodd yr ymgeisydd ei wahardd rhag gyrru. Yn unol â pharagraff
12.2 o’r polisi ystyrir y drosedd fel un
moduro difrifol ac y dylai 6 mis basio ers derbyn y gollfarn. O ystyried bod y
gollfarn yma wedi digwydd 8 mlynedd yn ôl,
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na ddylai’r gollfarn yma fod yn sail i
wrthod y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd
ac y byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau
trefniant y drwydded.
Roedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon bod y rhesymau
uchod yn cyfiawnhau bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyda Chyngor
Gwynedd.