Newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels
Cofnod:
Cais ôl-weithredol i newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau
teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau
a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli
o fewn ffin ddatblygu Blaenau Ffestiniog. Roedd y safle yn
dir gwag tu cefn i
rhesdai Gwynedd, gyda nifer o dai
ar wasgar o gwmpas y safle.
Adroddwyd bod gwaith eisoes wedi
cychwyn ar y safle gyda rhan
fwyaf o’r lleiniau ffurfiol yn eu lle,
a’r llystyfiant wedi ei blannu.
Yn ystod yr ymweliadau
safle roedd carafán deithiol a charafán modur wedi eu lleoli
ar y safle. Roedd yr ymgeisydd yn
ymwybodol o’r sefyllfa gynllunio, gyda’r Uned Gorfodaeth
wedi bod yn trafod y mater gydag ef eisoes.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd bod y Swyddog Carafanau wedi cadarnhau nad
oedd gosodiad y safle yn bodloni
amodau trwydded (Safonau Model 1983) o ran dwysedd
safle. Ystyriwyd nad oedd
gosodiad y safle yn addas ar
gyfer ei ddefnydd bwriedig fel safle teithiol.
Tynnwyd sylw nad oedd
mannau agored wedi eu cynllunio
i mewn i’r
safle, ac er bod yna lecynnau agored
union gerllaw, nid oedd unrhyw le i blant chwarae
o fewn diogelrwydd y safle ei hun.
Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli oddi ar Ffordd Baltic (ffordd ddi-ddosbarth) a’r fynedfa i’r
ffordd yma oddeutu 80m i ffwrdd
o gyffordd Ffordd Baltic gyda’r Gefnffordd A470. Dyma’r ffordd fwyaf
uniongyrchol i mewn ac allan
o’r safle. Roedd mynedfa newydd eisoes wedi ei
chreu i’r safle o Ffordd Baltic. Nid oedd gwrthwynebiad penodol i’r fynedfa
yma ar ei
ben ei hun. Nodwyd bod yr Uned
Drafnidiaeth wedi cadarnhau fod rhwydwaith
ffyrdd o’r fynedfa yma i’r
dde tua’r A470 neu i’r chwith
tua Ffordd Glanypwll o led ddigonol i ymdopi a traffic cyffredinol ddwy ffordd, ond ni
ystyrir fod y gyffordd naill ochr i Ffordd
Baltic (h.y cyffordd gyda’r A470 na’r gyffordd gyda Ffordd
Glanypwll) yn addas ar gyfer
y math o draffig a ddisgwylir
mewn perthynas â safle carafanau teithiol. Yn ogystal,
roedd yr Uned Cefnffyrdd wedi cadarnhau nad oedd
defnyddio cyffordd Ffordd Baltic a’r A470 yn dderbyniol.
Adroddwyd bod y Swyddog Achos Gorfodaeth a’r Uned Drafnidiaeth
wedi datgan yn glir na fyddai mynedfa i’r safle
oddi ar Ffordd
Baltic yn dderbyniol petai cais yn
cael ei gyflwyno
ar gyfer y safle. Roeddent wedi awgrymu o bosib y byddai defnyddio’r fynedfa bresennol heibio eiddo’r ymgeisydd ac a adnabyddir fel
Ty’n y Coed yn gallu bod yn
dderbyniol. Nid oedd y fynedfa
yma yn ffurfio
rhan o’r cais, ac nid oedd
wedi ei asesu
gan yr Uned
Cefnffyrdd.
Nodwyd yr ystyrir bod y datblygiad yn annerbyniol a’i fod yn groes i’r
polisïau perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn berchennog 3 busnes ac yn cyflogi
pobl leol;
·
Ei fod wedi cyfarfod efo
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar 3/3/14 lle trafodwyd
os fyddai’n bosib cael datblygiad
o’r fath ar y safle. Nododd
y swyddog nad oedd yn rhagweld
problem na ellir ei ddatrys;
·
Bod y swyddog wedi siarad efo’r
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth a’i fod wedi derbyn
cadarnhad dros y ffôn ar 10/3/14 bod y fynedfa bwriedig yn iawn;
·
Ni ddefnyddir y gyffordd wrth ymyl
Baltic House, fe ddefnyddir y gyffordd nesaf a oedd newydd
ei ail-wneud. Roedd wedi cysylltu
efo swyddog o’r Awdurdod Cefnffyrdd
a’i fod wedi
derbyn cadarnhad ei fod yn
hapus efo’r bwriad os rhoddir
arwyddion na ddylid defnyddio Ffordd Baltic;
·
Ei fod wedi cychwyn ar
y gwaith ar y safle a’i fod
yn bwriadu gwneud y gwaith yn ei amser
ei hun.
(c)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth:
·
Ei fod wedi derbyn ymholiad
gan yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu o ran y safle ac wedi ymweld â’r safle yng nghyswllt datblygu safle ar gyfer carafanau
modur;
·
Y trafodwyd mynediad o Hospital Road a bod ganddo e-byst a anfonwyd i’r Gwasanaeth
Cynllunio i gadarnhau hyn. Ni thrafodwyd mynediad o Ffordd Baltic.
Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: