Agenda item

Adeiladu adeilad ffram portal ar gyfer ail leoli busnes trwsio cerbydau ynghyd â gwella mynedfa, llawr caled allanol, draenio a thirlunio.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Anwen J. Davies

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Adeiladu adeilad ffram portal ar gyfer ail leoli busnes trwsio cerbydau ynghyd â gwella mynedfa, llawr caled allanol, draenio a thirlunio

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod polisi D7 o’r CDUG yn datgan y caniateir cynigion ar gyfer gweithdai neu unedau diwydiannol / busnes ar raddfa fach y tu allan i ffiniau datblygu os gellir dangos mai safle’r datblygiad oedd y lleoliad mwyaf addas i gyflenwi’r angen ac os gellir cydymffurfio gyda meini prawf yn y polisi. Nodwyd yr ystyriwyd fod y datblygiad o ran ei faint yn un ar raddfa fach. Roedd gofyn hefyd fod y safle yn cael ei gyfiawnhau fel yr un mwyaf addas i gyflenwi’r angen. Adroddwyd y cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth am nifer o safleoedd roedd wedi ei ystyried ac nad ydynt yn addas neu ddim ar gael am amrywiol resymau. O’r wybodaeth a gyflwynwyd ymddengys fod ymdrech wedi ei wneud i geisio safle neillog, gan gynnwys safleoedd ar neu ger stadau diwydiannol presennol, ac nad oedd safle neillog addas ar gael.

 

          Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio efo’r meini prawf o dan y polisi hwn oherwydd:

·         Bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw ffin ddatblygu’r pentref. Er y byddai peth wahaniad oddi wrth yr adeilad agosaf tua’r dwyrain ystyriwyd bod y bwriad wedi ei leoli yn gymharol agos at adeiladau yn y pentref a pan fyddai’r tai oedd gyda chaniatâd cynllunio byw ar eu cyfer ar yr ochr ddeheuol o’r ffordd sirol yn cael eu hadeiladu byddai’r bwriad yn ymddangos fel ei fod wedi ei leoli o fewn grŵp o adeiladau.

·         Bod graddfa’r bwriad yn dderbyniol ar gyfer y safle;

·         Y byddai’r tirlunio arfaethedig yn digolledu yn erbyn y golled o’r clawdd presennol er mwyn creu mynedfa addas. Gellir gofyn hefyd fel rhan o’r manylion tirlunio am gynllun rheoli tymor hir ar gyfer y tirweddu;

·         Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i’r gymdogaeth leol o ran ei raddfa, math a dyluniad.

 

Tynnwyd sylw bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Nodwyd o ran ei leoliad a’i faint ystyriwyd mai yn lleol y byddai effaith y bwriad ac na fyddai’n cael effaith ehangach ar y dirwedd hanesyddol.

 

Nodwyd yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod archwiliad safleoedd posib i ail leoli’r busnes yn dangos diffyg safleoedd addas heblaw am y safle dan sylw;

·         Byddai ymestyn cyfyngiad cyflymder 30mya y pentref tu hwnt i’r safle yn gwella diogelwch ffordd;

·         Byddai’r bwriad yn diogelu busnes a oedd yn cyflogi 3 llawn amser a 4 rhan amser;

·         Byddai’r bwriad yn diogelu gwasanaeth pwysig yng nghefn gwlad;

·         Bod y bwriad yn cydymffurfio â pholisïau’r CDUG;

·         Nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad a derbyniwyd 80 llythyr o gefnogaeth gan y gymdogaeth leol.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod angen gwaith yng nghefn gwlad;

·         Bod y Cyngor Cymuned, yr Uned Drafnidiaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gymuned o blaid y cais;

·         Wedi bod yn amser dyrys i’r busnes ond gobeithir y cefnogi’r cais.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y lleoliad yn ardderchog ac fe fyddai’r datblygiad o fudd i’r economi leol;

·         Cwestiynu’r amser agor a argymhellir. Byddai’n annheg rhwystro’r busnes rhag cystadlu gan gyfyngu’r oriau felly dylid newid yr oriau agor i rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr ac ychwanegu bore dydd Sadwrn er mwyn bod yr un fath a busnesau tebyg;

·         Balch bod y Cyngor wedi cydweithio efo’r ymgeisydd i gael ateb a nodi diolch i’r ymgeisydd a swyddogion.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio mai’r ymgeisydd oedd wedi cynnig yr oriau agor.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais efo amodau yn ddarostyngedig i gynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd o ran oriau gwaith.

 

         Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Cwblhau yn unol gyda chynlluniau.

3.     Yr adeilad i fod o liw gwyrdd BS 12 C 39.

4.     Cyflwyno a chytuno cynllun ar gyfer adeiladu’r clawdd a thirlunio ynghyd â chyflwyno cynllun rheoli hir dymor ar gyfer y tirweddu.

5.     Gweithredu’r cynllun tirlunio.

6.     Adeiladu’r cloddiau cyn cychwyn ar y defnydd.

7.     Oriau Gwaith.

8.     Amodau Priffyrdd.

9.     Adeiladu byndiau addas ar gyfer tanciau.

10.   Amod Dŵr Cymru.

11.   Cynllun goleuo i’w gytuno a dim goleuadau allanol eraill i’w gosod heb ganiatâd ysgrifenedig yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

12.   Dim trwsio cerbydau y tu allan i’r adeilad.

Dogfennau ategol: