Cais llawn i godi adeilad gwasanaethau cynnal newydd i gynnwys storfeydd, gweithdai, tŷ golchi a swyddfeydd ynghyd â phlannu coedlan newydd ar dir cyfagos.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Thomas
Cofnod:
Cais
llawn i godi adeilad gwasanaethau cynnal newydd i gynnwys storfeydd, gweithdai,
tŷ golchi a swyddfeydd ynghyd â phlannu coedlan newydd ar dir cyfagos.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle tu mewn i
ffin Ardal Gadwraeth ac o fewn ardal a ddynodwyd yn Ardal Gwarchod
y Dirwedd.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Cydnabuwyd bod yr adeilad yn
sylweddol ac o ymddangosiad
‘diwydiannol’ o fewn ardal sensitif o ran dynodiadau ac edrychiad. Er hynny, credir
y byddai’r bwriad yn gyfle i
dwtio’r safle. Nodwyd y byddai’r gorffeniadau allanol terfynol i’w cytuno drwy
amod ffurfiol. Ni chredir y byddai’r adeilad oherwydd ei faint, dyluniad a gorffeniad yn cael
ardrawiad ar nodweddion na
chymeriad yr ardaloedd gwarchodedig.
Nodwyd bod y datblygiad arfaethedig yn golygu torri
rhai coed presennol o fewn y safle, roedd sylwadau
a dderbyniwyd gan yr Uned Bioamrywiaeth
yn datgan y dylid cynnal gwaith
torri coed y tu allan
i gyfnod nythu adar ac o gwblhau’r datblygiad na ddylid goleuo’r
safle i raddau
ble fyddai’n amharu ar goedlan
hynafol. Awgrymwyd cynnwys amodau
perthnasol er mwyn sicrhau y byddai’r gofynion uchod yn cael
eu bodloni.
Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng
Uwch Swyddog yr Uned Bioamrywiaeth
a’r ymgeisydd er mwyn cytuno
ar fesurau priodol i liniaru
effaith y golled o goed ar y safle. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cynnig plannu coedlan gyda rhywogaethau
cynhenid ar dir gerllaw a bod manylion cynllun tirlunio pellach yn cael ei
yrru er cytuno
ar gyfer ardaloedd eraill i blannu coed.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod wedi cyflwyno lluniau
i’r Gwasanaeth Cynllunio;
·
Ei fod yn berchennog llety
hunanarlwyo o safon gyda’r ardd yn
edrych yn uniongyrchol ar yr adeilad biomas;
·
Nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad o ran egwyddor ond roedd polisïau
lleol a cenedlaethol yn cefnogi llety
yn ogystal;
·
Yr angen i’r ymgeisydd gyflwyno
cynllun plannu coed manwl;
·
Yr angen i gynnal asesiad
effaith gweledol.
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y datblygiad yn allweddol
i gynaliadwyedd Portmeirion;
·
Y byddai’r bwriad yn gwella’r
adnoddau;
·
Yn barod i gydweithio efo’r
swyddogion.
(ch)
Mewn ymateb i sylwadau’r gwrthwynebydd,
nododd y Rheolwr Cynllunio:
·
bod y Gwasanaeth wedi derbyn
lluniau ganddo a oedd yn dangos perthynas ei eiddo â’r
safle. Ystyriwyd na fyddai effaith annerbyniol.
·
bod Uwch Swyddog o’r Uned
Bioamrywiaeth wedi bod yn cynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd ac argymhellir
gosod amod tirlunio.
·
O’r farn
nad oedd angen asesiad effaith gweledol gan fod y safle yn eithaf cuddiedig o
fewn safle Portmeirion ac ystyrir na fyddai effaith niweidiol sylweddol weledol
yn deillio o’r bwriad.
(d) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod yr ymgeisydd yn gyflogwr
pwysig yn yr ardal a oedd
yn cyflogi’n lleol;
·
Bod angen yr adnoddau;
·
Bod y tirlunio yn gryf eisoes;
·
Yr angen i ystyried yr
effaith ar y gwrthwynebydd pan drafodir y tirlunio.
Nododd y Rheolwr Cynllunio bod y tirlunio/plannu
arfaethedig yn mynd tu hwnt i’r hyn oedd yn angenrheidiol i sgrinio’r
datblygiad.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
3. Cytuno ar orffeniadau
4. Tirlunio
5. Cynllun Goleuo
6. Gwarchod llwybr cyhoeddus
7. Dŵr Cymru
8. Cyfyngu defnydd
9. Gwaredu deunyddiau/offer presennol
10. Dim storio deunyddiau yn allanol
11. cyfyngu oriau
Dogfennau ategol: