skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

“Yn fy ward fy hun (Abersoch) mae pryder mawr ynglŷn â’r cynigion i gau Meddygfa cangen.


Bydd Pwyllgor Lleol Gwynedd o’r Cyngor Iechyd Cymuned yn gwahodd cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd i drafod materion gofal iechyd sylfaenol yng Ngwynedd. Credaf fod y sefyllfa recriwtio a chadw Meddygon Teulu yng Ngwynedd yn argyfwng sy’n aros i ddigwydd. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau gofal yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 

Sut mae’r Cyngor ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd yn paratoi ar gyfer sefyllfa fregus gyda gwasanaeth meddygon yng Ngwynedd ar hyn o bryd, a pha gynlluniau sydd ar y gweill yn y tymor byr a’r hirdymor i ddatrys recriwtio staff meddygol - oes yna ymateb a neu drafodaethau i sicrhau gwasanaeth addas meddygol i gleifion a chyhoedd y Sir?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

Rwyf yn ymwybodol iawn o’r cefndir ac yn deall pam bod y Cynghorydd Dewi Roberts yn codi’r cwestiwn yma. Mae'r heriau sy'n wynebu gofal cychwynnol yn genedlaethol ac yn lleol yn sylweddol.  Mae poblogaeth sy'n heneiddio, daearyddiaeth wasgaredig, galw cynyddol, anhawster cyson i recriwtio a chadw staff, a'r angen i ddatblygu patrymau darparu gwasanaeth newydd yn creu sefyllfa heriol yn y maes iechyd a gofal.

 

Nid oes ateb syml i’r cwestiwn yma, mae hi’n gynyddol amlwg nad yw’r dulliau traddodiadol o weithredu bellach am ddiwallu’r angen ac o ganlyniad rhaid cychwyn ar daith o newid a datblygu’r hun sydd am fodloni’r galw cymhleth ohoni.

 

Mewn gwirionedd, cwestiwn sy’n ymwneud a recriwtio meddygon a staff iechyd yw hwn ac wrth gwrs, rôl y Bwrdd Iechyd fyddai cydlynu ymdrechion i ymateb yn ffurfiol i’r sefyllfa yma.

 

Wedi dweud hyn, un o flaenoriaethau’r Cyngor yma ydi ymateb i’r angen i wella’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi oedolion sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd a gofal. Mae’r gwaith o atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf neu ymateb mor fuan â phosib pan fo materion yn codi yn un o brif egwyddorion y Ddeddf, ac rwyf yn hyderus y bydd y gwaith partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau gofal ac ataliol yng Ngwynedd yn arwain at ysgafnhau'r baich a’r angen am ofal clinigol.

 

Mae llawer iawn o waith yn digwydd wrth ymateb i’r angen i wella’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd a gofal. Ond mae gofyn i ni feddwl yn wahanol, a rhan o hyn yw edrych ar draws yr holl ystod o wasanaethau a chyfleodd sydd mewn cymunedau. Rydym ar siwrne uchelgeisiol a heriol ond rwy’n grediniol ein bod yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith o wella hyn, er bod llawer o waith pellach i’w wneud.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

“Gan gyfeirio at Llythyr Dr EL Jessup ar ran y Pwyllgor Meddygon Teulu  Gogledd Cymru i Aelodau Senedd ar y 7fed  Awst 2017 lle maen nhw yn dweud -

 

‘The Lleyn peninsula is also badly affected, Criccieth practice having just given in their notice of closure. The domino effect that has long been forecast is now seriously looming on the horizon.

There has been a seeming absence of proactive action to address the fundamental issues behind the crisis we now face. 

Just this week, we were distressed to hear that trainee posts appear to have been withdrawn from the pool that exists in North Wales. Good candidates have moved up to North Wales in anticipation of applying for these posts and are left disappointed by this seemingly precipitous decision.’

 

Gaf ofyn pam mae penderfyniad wedi ei wneud -  I dynnu nôl swyddi hyfforddiant meddygon yn Gogledd Cymru pam mae hi mor amlwg fod recriwtio yn anodd, ac am cadarnhad ein bod yn cadw llygaid barcud at y sefyllfa er mwyn lles ein trigolion yng Ngwynedd.”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

“Mae hyfforddi meddygon teulu yn cymryd 3 blynedd. Mae 18 mis yn cael ei dreulio mewn Meddygfa a 18 mis yn yr Ysbyty yn gweithio ym maes pobl hyn, plant, obstetric ac Iechyd meddwl. Ar ddiwedd y 3 blynedd mae’n rhaid i’r Meddyg basio arholiad cymhwyso. Mae 8 meddyg y flwyddyn yn cael ei recriwtio i’r cynllun yn Ysbyty Gwynedd, mae Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn derbyn meddygon i hyfforddi hefyd.

 

Peth arall i’w nodi. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £20,000 o ysgogiad i bobl ymuno yn y cynllun. Hefyd mae posib i rywun wneud y cynllun yn rhan amser, ond mae o felly yn cymryd mwy na tair blynedd i gwblhau, yr un peth yn digwydd os bydd cyfnod o famolaeth yn digwydd.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Yn dilyn pleidlais yn ddiweddar yn y Cyngor i wrthod cynnig a olygai torri tâl Aelodau’r Cabinet a Chadeiryddion o rhwng £2,000 a £3,000 y pen. Faint yn union fydd y swm ychwanegol hwn yn ei gostio i’r Cyngor hwn ac i’r trethdalwyr?”

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd y Cyngor:

 

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy’n gosod yr arweiniad yn genedlaethol ynghylch lefel Cyflogau ar gyfer aelodau etholedig.  Yr unig elfen o hyblygrwydd o fewn y canllawiau yw’r cyfrifoldeb ar wahanol gynghorau i benderfynu gosod Cyflogau Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau ar un o ddwy lefel. 

 

Penderfynodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 18 Mai 2017 i gadw lefel cyflog Aelodau Cabinet ar Lefel 1 (£29,100) a Chadeiryddion Pwyllgorau ar lefel 1(£22,100), yn unol â phenderfyniad y flwyddyn flaenorol ar y sail ei fod yn adlewyrchu’r cyfrifoldeb a’r llwyth gwaith ynghlwm a’r rolau dan sylw. 

 

Mewn geiriau eraill, nid oedd swm ychwanegol i’r Cyngor ei dalu ar sail y penderfyniad hwn. 

 

Dylid nodi fodd bynnag fod pob cyflog aelod wedi codi o £100 yn y flwyddyn ariannol 2017/18 (gan gynnwys yr uwch gyflogau), felly mae’r costau ychwanegol i’r Cyngor eleni yn seiliedig ar arweiniad y Panel Annibynnol yn £100 fesul aelod, sef cyfanswm o £7,500.

 

Petai’r Cyngor wedi pleidleisio gyda’r cynnig i newid y Cyflogau i Lefel 2 ar gyfer Aelodau’r Cabinet a’r Cadeiryddion, yna byddai wedi arwain at arbediad o £37,200.