Agenda item

Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd â dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL)

 

AELODAU LLEOL:   Y Cynghorwyr Dylan Fernley a Nigel W. Pickavance

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd â dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle'r cais wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu Canolfan Isranbarthol Bangor. Nodwyd bod polisi CH38 o’r CDUG yn ceisio diogelu cyfleusterau cymunedol presennol. Wrth dderbyn bod cyfleuster cymunedol wedi ei golli o'r safle hwn oherwydd problemau gyda hyfywdra'r busnes blaenorol, byddai'r adeilad newydd hefyd yn gyfleuster cymunedol ynddo'i hun, a thrwy ddarparu ystod fwy eang o wasanaethau, roedd potensial i sicrhau dyfodol mwy sicr i'r safle. 

 

         Eglurwyd bod polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol yn gefnogol o'r egwyddor o geisio sicrhau datblygiadau cadarnhaol ar safleoedd ail-ddatblygu oedd o fewn ffiniau datblygu trefol.

 

         Nodwyd y byddai’r adeilad a fwriedir yn sylweddol uwch na'r adeilad presennol, ac yn wir fe fyddai'n uwch na'r holl adeiladau eraill sydd yn y cyffiniau. Tynnwyd sylw bod sawl adeilad tri llawr mewn rhannau eraill o Faesgeirchen, gan gynnwys blociau o fflatiau o faint cyffelyb, ac ni ystyriwyd y byddai’r adeilad yn wahanol ei naws i adeiladau eraill yn y stad.

 

         Nodwyd er y gwerthfawrogir pryderon lleol am y bwriad, roedd rhaid ystyried y cynllun yng nghyd-destun lleoliad trefol y safle yn ogystal â’i ddefnydd blaenorol. Ni chredir y byddai'r datblygiad yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ychwanegol ar fwynderau trigolion cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn gydnaws gyda Pholisïau B23 a B33 o’r CDUG a oedd yn anelu at amddiffyn mwynderau trigolion lleol.

 

         Tynnwyd sylw bod yr Asesiad Marchnad Dai a gyflwynwyd gyda'r cais yn honni bod diffyg yn y farchnad dai yn lleol ar gyfer unedau un llofft ar gyfer unigolion neu gyplau a oedd am gymryd eu camau cyntaf yn y farchnad dai. Nodwyd yn gyffredinol ystyriwyd bod y safle yn addas ar gyfer unedau byw a byddai’r fflatiau yn cwrdd â galw lleol mewn modd a oedd yn fforddiadwy.

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod angen am lety a siop ym Maesgeirchen;

·         Bod galw am lety 1 ystafell wely nad oedd yn cael ei ddiwallu;

·         Bod ganddo brofiad o ddatblygu eiddo o’r fath.

 

(c)     Gwrthwynebwyd y cais gan y Cynghorydd Nigel Pickavance, aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Bod nifer uchel o wrthwynebiadau i’r bwriad;

·         Y  byddai’n or-ddatblygiad o’r safle;

·         Bod problemau gwrthgymdeithasol mewn bloc o fflatiau a oedd 4 milltir i ffwrdd o’r safle ac o ystyried na fyddai rheolaeth o’r safle yma ei bryder y byddai problemau cyffelyb yn codi;

·         Ei bryder y byddai’r adeilad yn edrych dros 2 gae chwarae;

·         Awgrymu y dylid cynnal ymweliad safle;

·         Nad oedd angen am siop a chaffi yn yr ardal gyda’r anghenion yma yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth bresennol ym Maesgeirchen.

 

         Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan y Cynghorydd Dylan Fernley, aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Hanfodol y cynhelir ymweliad safle i asesu’r sefyllfa;

·         Y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar fusnesau tebyg lleol;

·         Ei bryderon o ran cynnydd mewn problemau gwrthgymdeithasol o ganlyniad i’r datblygiad;

·         Ni fyddai’r adeilad yn gweddu i’r ardal oherwydd ei uchder ac nid oedd y llety yn addas ar gyfer yr anabl;

·         Bod angen am lety yn yr ardal ond roedd rhaid iddo fod yn addas ac wedi ei reoli.

 

(ch)   Cynigwyd i gynnal ymweliad safle. Nododd yr aelod y dylid cynnal ymweliad safle oherwydd pryderon yr Aelodau Lleol a’i phryder y byddai’r adeilad yn sefyll allan oherwydd uchder y safle.

 

          Eiliwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

Dogfennau ategol: