skip to main content

Agenda item

Datblygiad preswyl o 5 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad gerbydol newydd a lôn stâd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Datblygiad preswyl o 5 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a lôn stad.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli y tu allan ond yn union gerllaw ffin datblygu pentref Aberdaron. Nodwyd bod polisi C1 o’r CDUG yn datgan y caniateir cynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd gwledig addas oedd union ar ffin pentrefi a chanolfannau lleol fel eithriad i bolisïau tai arferol os gellir cydymffurfio gyda’r holl feini prawf a gynhwysir yn y polisi.

 

          Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio efo’r meini prawf o dan y polisi hwn oherwydd:

·         Bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn y Datganiad Tai Fforddiadwy ac ymateb yr Uned Strategol Tai yn cadarnhau bod angen yn yr ardal am unedau fforddiadwy;

·         Y byddai’r safle yn ffurfio estyniad rhesymegol i ffurf adeiledig y rhan yma o bentref Aberdaron ac na fyddai’n ffurfio estyniad annerbyniol i gefn gwlad;

·         Y cyfyngir meddiannaeth y tai fel tai fforddiadwy drwy gytundeb 106 tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol.

 

Cadarnhawyd bod y tai yn cyd-fynd gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy o ran maint. Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth am bris marchnad agored y tai gyda’r prisiad yn nodi y byddai pris y tai ar y farchnad agored rhwng £230,000 a £250,000. Nodwyd o ystyried y prisiau a dderbyniwyd a sylwadau’r Uned Strategol Tai yr ystyriwyd y dylai disgownt o werth pris marchnad agored y tai fod o leiaf 40%.

 

Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon gyda’r bwriad os caniateir y cais efo amodau o ran y fynedfa a pharcio.

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd ei fod yn estyniad rhesymegol i’r pentref a dylid cefnogi pobl ifanc leol yn eu hymgais i gael cartref.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Nododd aelod ei fod yn croesawu’r cais ond yn pryderu o ochr fforddiadwyedd y tai, nid oedd yn amlwg bod yr Uned Strategol Tai yn hollol fodlon efo’r hyn a gynigir. Roedd yn synnu nad oedd cymysgedd o dai ac o’r farn bod angen rhoi cyfle i bobl ifanc oedd angen 2 neu 4 ystafell wely.

 

          Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y Datganiad Tai Fforddiadwy yn nodi bod y tai yn cyfarch anghenion 5 teulu penodol.

 

          Nododd aelod ei fod wedi ei argyhoeddi’n llwyr fod angen lleol a bod y bwriad yn cyfarch anghenion cyplau ifanc a oedd eisiau byw’n lleol.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb 106 yn clymu’r tai fel tai fforddiadwy angen cyffredinol.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Llechi ar y to

4.     Cytuno deunyddiau waliau allanol.

5.     Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir

6.     Sicrhau na fydd y modurdy/ cwt /balconi ond yn cael eu defnyddio i’r perwyl hynny a ddim yn cael eu newid i ffurfio rhan o ystafelloedd y tŷ.

7.     Priffyrdd

8.     Cynllun draenio.

9.     Cytuno ar union fanylion y cloddiau.

 

Nodiadau

1.     Dŵr Cymru.

2.     Priffyrdd.

Dogfennau ategol: