Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau
trwy 4 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sef ‘Amgylchedd glân a Llonyddwch’, ‘Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt’, ‘Gwaith, Cynnyrch a Sgiliau’ a ‘Pobol a Chymdeithas’ a oedd yn atodiad
i’r adroddiad.
Tynnwyd sylw mai dyma’r penodau
olaf o’r
Cynllun drafft i’w hystyried. Adroddwyd mai’r cam nesaf fyddai llunio cynllun
gweithredu i gyd-fynd gyda’r polisïau a thynnu’r holl ddeunydd at ei gilydd i
ffurfio Cynllun Rheoli diwygiedig cyflawn mewn ffurf
drafft. Yn dilyn hynny bwriedir
cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am o leiaf 6 wythnos cyn dychwelyd
i’r Cyd-Bwyllgor gyda manylion o’r
ymatebion a dderbyniwyd ac argymhellion.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt
·
Tudalen 31 – Y dylid cyfeirio
at Ymgyrch Neifion o dan y pennawd ‘Rhywogaethau morol’.
·
Tudalen 32 - Ddim yn hapus y cyfeirir
at allyriannau CO2 o dan
y pennawd ‘Newid hinsawdd’, fe ellir
nodi bod newid hinsawdd ond ni
ddylid clymu cyfrifoldeb â gweithgareddau dynol. O’r farn
bod yr haul yn ffactor mawr o ran newid hinsawdd.
·
Bod geiriad polisi BP5 yn wannach
na’r hyn a nodir ar dudalen
32. Hefyd, nodir yn y paragraff olaf ar dudalen
32 ‘…creu ynni adnewyddol ar raddfa
addas…’, fe
ddylid nodi’n fanwl yn y polisïau
beth a olygir fel graddfa addas.
Gwaith, Cynnyrch a Sgiliau
·
Bod rhai o’r ffigyrau a gynhwyswyd yn y bennod yn gamarweiniol
gan nad
ellir cael dadansoddiad mor fanwl o ffigyrau STEAM. Nododd Cynrychiolydd Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn
y dylid trafod y ffigyrau efo Steven Jones (Uwch Swyddog Gwasanaethau
Twristiaeth) ac y byddai ef hefyd yn
fodlon cynorthwyo. Ychwanegodd ei fod yn anodd
cael ffigyrau cadarn o ran yr Ardal o Harddwch.
Pobol a Chymdeithas
·
Tudalen 55 – y dylid ystyried
nodi o dan y pennawd ‘Cartrefi Gwyliau a Phrisiau Tai’ yr angen i
edrych ar y rhesymau pam bod cynifer o dai ar werth mewn rhai
ardaloedd penodol o fewn yr AHNE.
·
Tudalen 56 - Tlodi Tanwydd - cysylltiad uniongyrchol rhwng y dreth ar garbon
a’r ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gorfod mewnforio
tanwydd oherwydd nid oedd hawl
i gael
pwerdai llosgi glo newydd, polisïau
wedi dilyn at nifer o bobl mewn
tlodi tanwydd.
·
O ran trefn y penodau, dylid ystyried rhoi’r bennod yma yng
nghychwyn y cynllun er mwyn rhoi
mwy o bwyslais i’r bennod.
·
Bod cymunedau yn heneiddio a’r
angen i edrych
ar sut y gellir cefnogi unigolion i aros
yn eu cynefin.
Er nad
oedd hyn yn unigryw i’r
AHNE, dylid ystyried cyfeirio at y mater.
Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y derbyniwyd sylwadau gan Gynrychiolydd
Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ar
y penodau drafft ac fe’u hystyrir a’u
hymgorffori yn y penodau. Ychwanegodd bod croeso i unrhyw aelod anfon
sylwadau ar y penodau ato.
Nodwyd bod y Cynrychiolydd wedi nodi ei fod
o’r farn y dylai’r cynllun cyflawn ddod gerbron
y Cyd-Bwyllgor cyn mynd allan
i ymgynghori. Cafwyd trafodaeth ar y mater. Mewn ymateb i
gwestiwn o ran yr amserlen, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn mai’r bwriad oedd ymgynghori
ar y cynllun yn ystod mis
Gorffennaf gan ddod gerbron y Cyd-Bwyllgor yn ystod mis Medi/Hydref efo’r sylwadau
a wnaed yn y cyfnod ymgynghori gan fabwysiadu’r cynllun cyn diwedd
y flwyddyn. Daethpwyd i gonsensws y dylai’r cynllun drafft ddod gerbron
y Cyd-Bwyllgor cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
(i)
derbyn yr adroddiad;
(ii)
bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn diwygio’r penodau
drafft yn unol â sylwadau’r Cyd-Bwyllgor;
(i)
cynnal cyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor
i drafod y Cynllun Rheoli drafft cyn cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus.
Dogfennau ategol: