Ystyried unrhyw fater arall sydd yn
teilyngu sylw brys ym marn
y Cadeirydd.
Cofnod:
Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn at y materion isod:
Tirweddau’r Dyfodol Cymru
Nodwyd bod cyrff cadwraethol wedi datgan pryderon yn ddiweddar yn y wasg o
ran cynnwys adroddiad drafft yr adolygiad. Pwysleisiwyd bod y partneriaid
ynghlwm â’r adolygiad yn weddol gytûn o ran cynnwys yr adroddiad drafft.
Adroddwyd o ran amserlen, y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei rannu gyda’r
partneriaid cyn y cynhelir digwyddiad i gyflwyno adroddiad terfynol yr
adolygiad yn ystod yr Haf. Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi cynigion o ran
annog cydweithio, arbed arian, denu cyllid (ond ddim yn nodi y ceir fwy o arian
gan Lywodraeth Cymru) ac yn gefnogol i barhad y Gronfa Datblygu Gynaliadwy.
Nododd aelod bod trafodaethau cynnar yng nghyswllt yr adolygiad wedi
cyfeirio at Lywodraeth Cymru’n cyfrannu’n ariannol tuag at yr AHNE a swyddogion
i uchafu elfen gwarchod y dynodiad.
Nododd aelod bod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant uwch na’r cyfartaledd
gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 gyda swyddogion Gwynedd wedi bod yn
flaenllaw yn darparu’r dystiolaeth i gyfiawnhau newid y fformiwla dyrannu i
adlewyrchu gwir gost gofal yng nghefn gwlad. Ychwanegodd y dylid ystyried
gwneud rhywbeth tebyg o ran yr AHNE. Gofynnodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn i’r aelod gadarnhau enw swyddog y gallai gysylltu yng nghyswllt hyn.
Cais Nova Innovation
Cyfeiriwyd at gais gan Nova Innovation, ar ran Ynni Llŷn, i Ystad y
Goron am hawl i ddatblygu cynllun ynni llanw posibl ger Ynys Enlli. Nodwyd bod
Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Tudweiliog wedi dod ar draws taflen ymgynghori nad
oedd yn cyfeirio at y Cyd-Bwyllgor. Ymhelaethodd y cynrychiolydd bod y daflen
yn cyfeirio at yr AHNE ond nid oedd cyfeiriad at ymgynghori efo’r Cyd-Bwyllgor.
Awgrymodd y dylid cysylltu efo Ynni Llŷn i ofyn am fwy o wybodaeth am y
prosiect ac i nodi wrth Ystad y Goron y dylid ymgynghori â’r Cyd-Bwyllgor ar y
cynllun.
Nododd aelod ei fod ar ddallt mai ymgynghoriad cychwynnol yn unig ydoedd o
ran y posibilrwydd o ran sefydlu cynllun o’r fath.
Nododd Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Tudweiliog bod y ddogfen yn nodi mai’r
cam nesaf fyddai gwneud cais i Ystad y Goron am drwydded, felly dyma’r amser i
roi mewnbwn y Cyd-Bwyllgor i’r ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD y dylid cysylltu efo Ynni Llŷn i
ofyn am fwy o wybodaeth am y prosiect ac i nodi wrth Ystad y Goron y dylid
ymgynghori â’r Cyd-Bwyllgor ar y cynllun.
Llythyr Cyngor Cymuned Llanaelhaearn
Adroddwyd bod y Cadeirydd wedi derbyn llythyr gan Gyngor Cymuned
Llanaelhaearn yn gofyn am gefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i’w cais i Gyngor Gwynedd
am olau stryd ar gyffordd Trefor ar sail diogelwch ffyrdd. Nodwyd bod Cynllun
Rheoli’r AHNE yn nodi y dylid ceisio cyfyngu nifer o arwyddion ffordd a golau
stryd o ran llonyddwch felly roedd yn sefyllfa anodd. Nodwyd y cynhaliwyd
trafodaethau rhwng y Pennaeth Rheoleiddio, Aelod Cabinet - Cynllunio a
Rheoleiddio, Aelodau Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned. Adroddwyd bod y Pennaeth
Rheoleiddio o’r farn bod y gyffordd yn ddiogel a ni fyddai Cyngor Gwynedd yn
gwneud newidiadau.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod nifer o gyffyrdd tebyg yn yr AHNE, ni ellir
cefnogi pob cais.
·
Pryder o ran llygredd golau yn y nos ac effaith ar
fioamrywiaeth.
·
Yn yr achos yma, y dylid gwneud cyfaddawd o ran
tywyllwch i fodloni anghenion pobl oherwydd y pryderon diogelwch.
·
Nad oedd damwain angheuol ers y lôn newydd.
·
Y dylid
cefnogi’r bobl leol.
·
Ddim yn gyfforddus yn lobio ar y mater ond fe ellir
nodi cefnogaeth.
·
Y dylid ymateb i’r llythyr gan nodi bod y
Cyd-Bwyllgor yn derbyn pryder lleol gan ofyn i’r Cyngor ail-edrych ar y
sefyllfa ac os oedd y Cyngor yn dod i benderfyniad bod angen golau stryd ar
sail diogelwch nid oedd y Cyd-Bwyllgor yn wrthwynebus.
PENDERFYNWYD bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn anfon ymateb i’r llythyr, ar ran y Cyd-Bwyllgor, yn seiliedig ar y sylwadau uchod.