skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol)  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, y Cynghorydd R.Medwyn Hughes, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gyflwyno sylwadau i’r Comisiwn Ffiniau ar eu hadolygiad o ffiniau etholaethol Cyngor Gwynedd.

 

Cyfeiriodd hefyd at gynnwys papur ychwanegol a ddosbarthwyd i'r aelodau oedd yn diweddaru’r Cyngor ar gynigion ar gyfer ardal Dinas Bangor a chynigion ar gyfer ardal Pen Llþn yn dilyn trafodaethau lleol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod mwy o ystyriaeth yn cael ei roi i Ardal Pen Llþn ac Ardal Bangor oherwydd yr amgylchiadau unigryw yn yr ardaloedd hynny, sef nifer y trethdalwyr sy’n byw yn rhai o’r ardaloedd ym Mhen Llþn, llawer sy’n talu’r dreth lawn a mwy, wardiau Bangor, sydd gyda niferoedd uchel o fyfyrwyr, ac eto ddim yn dod i ystyriaeth yn y papur hwn, a ward Marchog, sy’n ardal Cymunedau’n Gyntaf, ac felly’n unigryw eto.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd yr amserlen yn caniatáu rhoi mwy o ystyriaeth i gynigion penodol gan fod rhaid i ymateb y Cyngor gyrraedd y Comisiwn Ffiniau erbyn y bore canlynol.

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd y cynghorau cymuned wedi rhoi llawer o ymateb i’r adolygiad, eglurodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol fod hyn ynghlwm â’r anhawster gyda’r amserlen, oedd yn pontio’r cyfnod etholiad i’r cynghorau hynny, fel y Cyngor hwn.  Nododd fod pob cyngor cymuned wedi derbyn llythyr gan y Comisiwn a bod y Cyngor hwn wedi cysylltu’n benodol â chynghorau cymuned yn yr ardaloedd oedd yn cael eu heffeithio gan y cynigion.

 

Mewn ymateb i’r gwelliant, nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol y gallai gynnwys y pwyntiau ynglþn â sefyllfa unigryw ardaloedd Pen Llþn a Bangor yn y llythyr at y Comisiwn.

 

Nodwyd bod y Grðp Annibynnol wedi cyflwyno rhai sylwadau ychwanegol i’w cymhorthydd yn eu cyfarfod grðp y bore hwnnw a chytunwyd bod yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol yn cysylltu â’r swyddog i gael y sylwadau hynny.

 

Gyda chydsyniad y Cyngor, tynnodd y cynigydd ei welliant yn ôl gan fod sylwedd y gwelliant yn mynd i gael ei ymgorffori yn ymateb y Cyngor i’r adolygiad.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu na ddylid cynnig unrhyw newidiadau i’r etholaethau a ganlyn:-

 

·         Arfon – Arllechwedd, Bethel, Deiniolen, Dewi (Bangor), Gerlan, Glyder (Bangor), Y Groeslon, Llanberis, Llanrug, Ogwen, Pentir, Penygroes, Tregarth a Mynydd Llandygai, Waunfawr, Y Felinheli.

 

·         Dwyfor – Abererch, Criccieth, Dolbenmaen, Efail Newydd / Buan, Llanystumdwy, Nefyn, Porthmadog (Dwyrain), Porthmadog (Gorllewin), Porthmadog (Tremadog), Pwllheli (De), Pwllheli (Gogledd).

 

·         Meirionnydd – Aberdyfi, Abermaw, Brithdir a Llanfachreth / Y Ganllwyd / Llanelltyd, Bowydd a Rhiw, Corris a Mawddwy, Dolgellau (De), Dolgellau (Gogledd), Penrhyndeudraeth, Y Bala.

 

(b)     Cymeradwyo’r cynigion penodol a argymhellwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu (ac a amlygir yn llawn yn yr adroddiad – paragraffau 9.1 – 9.9) yng nghyswllt yr etholaethau a ganlyn:-

 

·         Ardal Tref Caernarfon

·         Ardal Ffestiniog

·         Ardal Tywyn

·         Ardal Trawsfynydd, Harlech, Dyffryn Ardudwy a Llanbedr

·         Ardal Llanrug

·         Ardal Llanllyfni, Talysarn a Nantlle

·         Ardal Clynnog, Trefor a Llithfaen

·         Ardal Penllyn

·         Ardal Llanegryn, Bryncrug a’r Friog

 

(c)     Cymeradwyo’r cynigion a argymhellwyd ar gyfer Ardal Llanwnda, Groeslon a Carmel yn sgil ymgynghoriad gyda’r aelodau lleol perthnasol (ac a amlygir yn llawn yn yr adroddiad – paragraff 8.3).

 

(ch)   Cymeradwyo’r cynigion a argymhellwyd ar gyfer Ardal Bangor yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Cyngor Dinas ac aelodau lleol Bangor, sef:-

 

·         Etholaethau Pentir, Dewi a Glyder i aros fel ag y maent ar hyn o bryd.

·         Etholaeth Marchog (1,559) i aros fel ag y mae ar hyn o bryd yn cynnwys cadw dau aelod oherwydd maint y ward a hefyd natur y gymuned ddifreintiedig sydd yno sydd yn cynyddu llwyth gwaith unrhyw aelod sydd yn cynrychioli’r etholaeth.

·         Uno etholaethau Menai a Garth (1,439) ond pwyso yma eto am ganiatáu dau aelod oherwydd y pwysau sydd yn dod yn sgil presenoldeb miloedd o fyfyrwyr yn yr ardal a’r ffaith bod y Brifysgol am gyflwyno trefn newydd i geisio cael mwy o fyfyrwyr i gofrestru i bleidleisio yn lleol.

·         Rhannu ward Deiniol o gwmpas Glanrafon a’r Gadeirlan gyda’r ochr gogledd-ddwyreiniol ohono yn ymuno ag etholaeth Hirael i greu etholaeth o oddeutu 1,200 a’r hanner de-orllewinol ohono, yn cynnwys Cae Llepa, yn ymuno ag etholaeth Hendre i greu etholaeth o tua 1,250.

 

(d)     Cymeradwyo’r cynigion a luniwyd ar gyfer Ardal Abersoch, Aberdaron, Botwnnog, Tudweiliog, Morfa Nefyn a Llanbedrog yn sgil ymgynghoriad gydag aelodau lleol ardal Llþn, sef:-

 

·         Etholaeth ar gyfer cymuned Llanbedrog yn ymestyn o Benrhos i groesffordd Coed y Fron, Mynytho, sydd yn cynnwys Llanbedrog (768) a Mynytho hyd at Coed y Fron (tua 450) (Etholaeth un aelod gyda tua 1,218 o etholwyr).

·         Etholaeth arall ar gyfer cymuned Llanengan o groesffordd Coed y Fron fydd yn cynnwys y gweddill o Langian (tua 53 o etholwyr y tu hwnt i Mynytho), Llanengan (333) ac Abersoch (523) yn cynnig etholaeth un aelod gyda tua 909 o etholwyr.

·         Uno etholaethau Aberdaron (773) a Botwnnog (724) i greu etholaeth newydd o 1,457 o etholwyr (dau Gyngor Cymuned cyfan).

·         Uno etholaethau Tudweiliog (660) a Morfa Nefyn ac Edern (897) i greu un etholaeth newydd o 1,557 o etholwyr (dau ardal Cyngor Cymuned cyfan).

 

(dd)   Awdurdodi’r swyddogion i gyflwyno’r cynigion ynghyd â’r pwyntiau ychwanegol a wnaed yn ystod y drafodaeth i gryfhau’r achos dros y cynigion uchod.

 

 

 

Dogfennau ategol: