Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones
“Beth mae’r Cyngor am wneud am y carafanau a’r faniau sy’n parcio tros
nos ar draethau Dinas Dinlle, ar lecyn y Foryd, ble mae arwyddion gan y Cyngor
hwn, ‘Dim Parcio Tros Nos’ i fyny, ond yn cael eu hanwybyddu gan yr ymwelwyr?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi, y
Cynghorydd Ioan Thomas (ac hefyd ar ran yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y
Cynghorydd Dafydd Meurig)
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)
"Nid ydym yn
annog ymwelwyr i ddefnyddio'r llecynnau yma ar gyfer parcio dros nos. Yn ymarferol mae’n anodd i’r Cyngor orfodi
drwy symud cerbydau yn syth, oherwydd yr amser mae’n gymryd i gyflwyno
rhybuddion ffurfiol, ac yna chyflwyno cais am orchymyn meddiant yn y llys sirol
lleol.”
Cwestiwn atodol
gan y Cynghorydd Aeron Jones
“Faint o sicrwydd
all yr Aelod Cabinet roi bod perchnogion y faniau yma ddim yn arllwys eu
toiledau cemegol a gwastraff dŵr yn y llecynnau hyn a’u bod yn cael eu
cosbi yn y dyfodol am barcio dros nos?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi, y
Cynghorydd Ioan Thomas
“Mi wnaf
gyd-drafod gyda’r Aelod Cabinet Amgylchedd a’r swyddogion perthnasol a rhoi
ateb llawn i chi maes o law, ond ‘rwy’n deall eich pryder.”
(2) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Sion Jones
“Sut mae’r
Arweinydd am sicrhau cydraddoldeb a chyfleoedd i weithio i Gyngor Gwynedd, yn
enwedig i ferched?”
Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Arweinydd i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Mae pawb, yn
amlwg, yn gytûn yma ein bod am hyrwyddo cydraddoldeb ar draws unrhyw ryw neu
ffiniau neu hiliaeth, ayb, ac mae ein polisïau yn adlewyrchu hynny. Mae’r Cyngor wrthi’n gwneud gwaith i geisio
adnabod cyfleon i hyrwyddo rôl merched oddi fewn y Cyngor ac felly ‘rydym yn
ymwybodol iawn o fod angen gwella pethau, fel yr ydym mewn sawl maes. Mae’r Dirprwy Arweinydd, sy’n gyfrifol am
gydraddoldeb ac adnoddau dynol, yn mynd i ymwneud â’r gwaith yma ac yn mynd i
adrodd ar gynnydd a’r datblygiadau yn yr holiaduron, ac yn y blaen, ‘rydym wedi
ddatblygu’n ddiweddar. Mae hithau wedi
tynnu fy sylw at gomisiwn llywodraeth leol traws bleidiol sy’n edrych ar rôl
merched ym myd llywodraeth leol a bydd hi’n awyddus iawn i gyfrannu at y
drafodaeth honno ac i ddysgu oddi wrth unrhyw argymhellion fydd ganddynt.”
Cwestiwn atodol
gan y Cynghorydd Sion Jones
“Allan o’r 10
Aelod Cabinet, faint sy’n ddynion a faint sy’n ferched?”
Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
"Mae yna 1
ferch, sef y Dirprwy Arweinydd, a 9 o ddynion.
‘Rydw i’n falch iawn o record fy mhlaid lle mae merched yn y
cwestiwn. Mae gen i Ddirprwy Arweinydd
yn ferch, mae gennym ni Gadeirydd y Cyngor yn ferch; mae gennym ni Is-gadeirydd
y Cyngor yn ferch. Mae gennym ni Aelod
Cynulliad Arfon yn ferch. Mae gennym
Aelod Seneddol yn Nwyfor / Meirionnydd sy’n ferch, ac nid yn unig hynny, ond yn
wir yn Arweinydd y Blaid yn San Steffan.
Mae Arweinydd ein plaid yn ferch.
Lle mae record y Blaid Lafur i gymharu â record wych Plaid Cymru yn y
maes yma? ‘Rwy’n synnu ei fod yn gofyn y
cwestiwn, ond mae yna agwedd ddifrifol i hyn.
Nid yw bod yn Aelod Cabinet yn rhwydd i bawb. Mae’n gofyn ymrwymiad bron yn llawn-amser ac
mae hynny, wrth gwrs, yn cyfyngu ar allu pobl i ymrwymo i’r gwaith, ac yn
arbennig merched. ‘Rydw i’n ymwybodol iawn
o brofiad yn y tymor diwethaf o gydweithio gyda Mandy Williams-Davies, oedd yn
fam brysur ac yn gweithio yn hynod o galed fel Aelod Cabinet ac yn ceisio
cynnal teulu ar yr un pryd. ‘Rwy’n credu
bod gennym le i wella, ac rydw i’n edrych ymlaen i weld beth fydd casgliadau’r
comisiwn rhyng-bleidiol oherwydd ‘rydw i’n credu bod angen i ni roi mwy o
gefnogaeth i deuluoedd ifanc, i ferched ifanc, ac yn wir i dalu’n iawn i bobl
am wneud gwaith ar y Cabinet, sydd hefyd yn rhwystr i bobl ymrwymo i waith y Cabinet. Felly, ‘rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at
gydweithio hefo’r Cynghorydd Sion Jones i ddatblygu rôl merched yn y
Cyngor. Wrth gwrs, nid oes ganddo ef
ferch yn ei grŵp hyd yn oed, felly mae hynny’n broblem iddo yn y lle
cyntaf. ‘Rydym yn gytûn bod angen i ni
hyrwyddo rôl merched ac ‘rwy’n ymrwymo i wneud fy ngorau i wneud hynny. Un cam y byddaf yn ei gymryd fydd gofyn i
ferched gysgodi peth o waith y Cabinet fel ein bod yn gallu cynnig lle iddynt
yn y dyfodol.”