Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
Cwestiwn gan y
Cynghorydd Sion Jones
“Yn ddiweddar iawn, mae cwmni ar ran Vodafone wedi gosod mast 15 metr o
uchder mewn lle amlwg ym Methel, ac ar dir y
Cyngor. Nid oedd angen caniatâd
cynllunio, nac ymgynghori gyda thrigolion lleol. Ydi hyn yn bolisi teg?”
Ateb gan y
Pennaeth Amgylchedd
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig y Pennaeth Amgylchedd i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Nid polisi fel y
cyfryw ydi codi mastiau telegyfathrebu.
Mae hwn yn ddeddfwriaeth felly nid oes dewis gan y Cyngor i gael polisi
o ran yr angen am gais cynllunio ai peidio.
Mae hwn yn dod atom fel cyfraith.
A beth sydd y tu cefn i’r gyfraith yma ydi bod Llywodraeth Cymru yn
awyddus iawn i bobl o fewn Cymru gael mynediad ffôn 3G/4G cystal â phosib’ i
wella ein busnesau ac i wella'r economi a'n bod yn gallu cyfathrebu gystal ag
unrhyw un arall. ‘Rwy’n meddwl mai dyna sydd y tu cefn i hynny. Be maen nhw’n
ceisio gwneud ydi lleihau rhwystrau i gwmnïau fel Vodafone, neu pwy bynnag, fod
yn gosod offer. Felly does dim angen
hawl cynllunio arnynt. Yr unig fater
sydd raid iddynt fodloni ydi bod rhaid iddynt ymgynghori drwy fod yn dweud wrth
yr Awdurdod Cynllunio be maen nhw’n wneud a’r unig
bethau y gall yr Awdurdod Cynllunio fod yn edrych arnynt ydi gosodiad ac
edrychiad yr hyn maen nhw’n bwriadu gwneud. Mae’r mater yma wedi bod i ymgynghoriad gan
fod angen i’r Awdurdod Cynllunio fod yn gwneud hynny ac mae’r ymgynghori yma
wedi bod hefo’r Cyngor Cymuned. Mae yna rybuddion wedi cael eu rhoi i fyny ar
y safle fel mae’r angen ac mae trigolion sy’n gyfagos i’r datblygiad yma wedi
eu hysbysu yn ogystal. ‘Roedd yna ddau
wrthwynebiad i hyn - un gan y cynghorydd lleol a’r llall gan un o’r trigolion
cyfagos, ond nid oedden nhw’n faterion i wrthod y cais. Mae’r mast sy’n 12.5 metr o uchder wedi ei
osod erbyn hyn. Mae yna golofnau golau
yna, mae yna golofnau eraill. Nid wy’n
credu bod y gosodiad yn ddrwg. ‘Rydym ni
wedi bod yn edrych ar y safle. Mae o’n
unol â’r hyn mae’r cwmni wedi ddweud. Nid oedd gennym lawer o sgôp i fod yn
gwrthwynebu hyn ac yn mynnu bod y cwmni yn rhoi cais cynllunio ymlaen. Os ydi o’n fater teg neu beidio, mae hynny i
fyny i chi fel gwleidyddion, ond ‘rydym ni fel swyddogion yn gweithio o fewn y
gweithdrefnau a’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei gosod o’n blaenau ni.”
Cwestiwn atodol
gan y Cynghorydd Sion Jones
“Gafodd Cyngor Gwynedd unrhyw bres gan Vodafone
ar gyfer gosod y mast yma?”
Ateb gan y
Pennaeth Amgylchedd
“Mae’r esboniad ysgrifenedig
yn cyffwrdd â deddfwriaeth arall sy’n galluogi pobl fel Vodafone, BT, y Bwrdd
Dŵr, ayb, i fod yn gosod offer. Mae
ganddynt hawl dan Ddeddf Priffyrdd a Deddf Strydoedd i fod yn gosod offer ar
ein ffyrdd heb dâl. Mae’n rhaid iddynt
adael i ni wybod beth maen nhw’n wneud, ond mae’r
hawl ganddynt i fod yn gwneud hynny. Mae
lle mae’r mast yma wedi’i godi yn rhan o’r briffordd felly mae ganddynt hawl i
wneud hynny ac i wneud hynny yn rhad ac am ddim cyn belled
ag nad ydi o’n effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr y ffyrdd ayb. Na, nid yw’r Cyngor wedi cael arian am hyn.
Byddai’r Cyngor wrth ei fodd petai’n dir a’i fod oddi ar y ffordd, ac mae yna
drefniadau lle mae’r Cyngor yn cael arian am osodiad fel hyn, ond nid ar yr
achlysur yma. Nid oedd yna ffordd y
byddem yn medru cael arian gan y cwmni.”