Cais amlinellol i godi tŷ fforddiadwy
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies
Cofnod:
Cais
amlinellol i godi tŷ fforddiadwy.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais amlinellol am dŷ
deulawr fforddiadwy o fewn gardd 2 dŷ presennol.
Nodwyd bod Polisi CH4 o’r CDUG yn berthnasol ac yn datgan mewn egwyddor y
caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd heb eu dynodi ac o fewn
ffiniau datblygu pentrefi os gellir cydymffurfio â
holl bolisïau perthnasol y Cynllun a 3 maen prawf y polisi.
Amlygwyd bod Polisi B23
o’r CDUG yn asesu effaith y bwriad ar fwynderau preswyl cyfagos. Nodwyd er na
gyflwynwyd manylion gyda’r cais yn dangos lleoliad ystafelloedd a ffenestri ar
y llawr cyntaf, ‘roedd lleoliad y tŷ, ei uchder ynghyd â’r
tebygolrwydd y bwriedir gosod ffenestri yn y drychiad gogleddol (cefn) fel rhan
o osodiad mewnol y tŷ bwriadedig yn codi
pryderon sylweddol ynglŷn ag effaith y bwriad ar breifatrwydd a mwynderau
trigolion yr eiddo y tu cefn ac i’r gogledd o’r safle.
Mynegwyd pryder sylweddol
ynglŷn â’r datblygiad, ystyriwyd bod y bwriad yn
or-ddatblygiad o’r safle cyfyng ac ni ystyriwyd bod y
bwriad yn dderbyniol o agwedd Polisi B23 oherwydd y byddai’n achosi niwed
arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol, yn or-ddatblygiad
o safle cyfyng ac yn lleihau gofod amwynder y ddau dŷ presennol drwy
ddefnyddio'r ardd fel llain ar gyfer y tŷ bwriadedig.
Pwysleisiwyd nad oedd y ffaith mai’r ymgeisydd oedd yn berchen dau o’r tai
cyfagos, yn goresgyn pryderon am or-ddatblygu’r safle
cyfyng.
Tynnwyd sylw y
gwrthodwyd cais blaenorol am yr un datblygiad dan hawliau dirprwyedig ar 18
Ionawr 2017 ar sail:
“Byddai’r tŷ,
oherwydd ei faint a lleoliad yn arwain at ymwthiad gormesol a niweidiol i
fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos, yn enwedig oherwydd yr effeithiau
dominyddol a gor-edrych a fyddai'n deillio ohono.
Mae'r cais felly'n groes i bolisïau B23 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac yn
tanseilio polisi PCYFF 1 CDLL.”
Nodwyd nad oedd y
bwriad cyfredol yn lleihau'r pryderon cynllunio sylweddol ynglŷn â’r bwriad ac fe argymhellwyd i wrthod y cais ar yr un
sail.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod ei deulu yn un o deuluoedd hynaf Efailnewydd;
·
Y bwriedir adeiladu tŷ ar gyfer ei fab;
·
Ei fod ar ddallt bod swyddogion yn hoffi manylion
llawn o ran maint ond mai mater bach fyddai newid y maint pan gyflwynir cais
cynllunio llawn;
·
Y cyflwynwyd 7 llythyr yn cefnogi’r cais i’r
Gwasanaeth Cynllunio;
·
Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol;
·
Bwriad yn dderbyniol o safbwynt diogelwch ffyrdd.
(c) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Fe fyddai’r bwriad yn golygu gwelliant i’r fynedfa
bresennol;
·
Y byddai’r bwriad yn darparu cynnydd yn y llefydd
parcio gan ddarparu lle i 4 o geir gan fodloni’r gofyn o dan Polisi CH36 o’r
CDUG am lefydd parcio oddi ar y stryd;
·
Bod y bwriad yn unol â Pholisi C1 o’r CDUG gan fod
y safle o fewn ffin datblygu’r pentref;
·
Bod stad newydd o dai wedi ei ddatblygu yn y
cyffiniau a bod hyn eisoes wedi golygu colli preifatrwydd;
·
Nad oedd unrhyw wrthwynebiad gan y gymuned nac
ychwaith perchnogion y tŷ cyfagos;
·
Bod yr ymgeisydd yn fodlon cydweithio efo Dŵr
Cymru;
·
Ei fod yn bwysig cefnogi pobl leol a chaniatáu
datblygiadau a all alluogi pobl ifanc i aros yn yr ardal;
·
Dymuniad yr ymgeisydd i’r bleidlais fod yn
gofrestredig.
Nododd y Cadeirydd
mai mater i’r Pwyllgor oedd penderfynu os dylid cynnal pleidlais gofrestredig.
Mewn ymateb i
sylwadau’r ymgeisydd a’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio bod yr argymhelliad i wrthod y cais yn un cadarn a dylai’r Pwyllgor
ystyried cynnal ymweliad safle cyn penderfynu ar y cais oherwydd y materion
mwynderau.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: