Agenda item
Codi annedd tri llawr ar wahan
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams
Cofnod:
Codi annedd
tri llawr ar wahân
a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi un tŷ tri llawr ar wahân ar
safle oedd wedi ei leoli
o fewn stad breswyl lle,
yn bresennol mae’r safle yn cael ei
ddefnyddio fel gardd ddomestig gyda Tŷ Mynach,
sydd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd.
Golygai’r bwriad godi tŷ annedd tair
ystafell wely gyda garej ddwbl ar lawr daear yr annedd, dau le parcio a man troi ar ran deheuol y safle. Byddai
balconi yn cael ei ddarparu ar edrychiad deheuol yr annedd ar lefel llawr
cyntaf a’r bwriad yw gorffen y waliau allanol gyda rendr,
a tho llechi naturiol. Eglurwyd bod cymysgedd o ran maint a graddfa tai yn yr
ardal , a thra bod yr annedd yn weddol fawr ei faint ystyriwyd bod y llain o
faint digonol ar gyfer annedd o’r maint hwn.
Nodwyd bod y safle
wedi ei leoli y tu fewn i ffin datblygu tref Abermaw, ac felly ystyriwyd fod
egwyddor y bwriad yn dderbyniol yn unol â pholisïau C1 ac CH4 o’r Cynllun
Datblygu Unedol. Ystyriwyd fod y gorffeniad allanol yn dderbyniol a bod bwriad cynnwys
amodau cyflwyno manylion tirlunio er cymeradwyaeth y Cyngor. Amlygwyd bod y
safle wedi ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Ardudwy a
gan fod y safle oddi fewn ardal/ffurf adeiledig tref Abermaw ni ystyriwyd y
byddai effaith sylweddol ar y tirlun ehangach
Derbyniwyd pryderon fod y datblygiad yn
ormesol ei naws ac allan o gymeriad gyda thai eraill ar yr ystâd, serch hynny
ystyriwyd, oherwydd y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad nad oedd pryder i’r
perwyl hwn.
Ni ystyriwyd y
byddai’r datblygiad yn achosi gor-edrych uniongyrchol
annerbyniol; ac ni ystyriwyd y byddai effaith ar gymeriad adeiladau rhestredig
wedi eu lleoli oddeutu 60m i ffwrdd. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r
bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth yn amodol ar gynnwys amodau a nodiadau
perthnasol.
Mewn ymateb i
ymgynghoriad nododd yr Uned
Bioamrywiaeth nad oedd gwrthwynebiad i egwyddor y datblygiad pe bai amod yn
cael ei gynnwys ar unrhyw ganiatâd gan nodi y dylid cyflwyno manylion goleuo
allanol yr annedd, cynllun er triniaeth a gwared rhywogaeth ymwthiol ar y
safle, a chynllun ar gyfer darparu gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys blychod
ar gyfer ystlumod ac adar.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Y byddai’r datblygiad yn creu effaith
ar fwynderau cyfagos
·
Bod yr adeilad ar
3 lefel – hyn yn ormesol
·
Pryder am or-edrych a cholli
preifatrwydd - y gor-edrych yn afresymol
·
Graddfa, maint a ffurf y datblygiad yn ormesol a ddim yn
gweddu'r ardal
·
Creu effaith
ar adeiladau eraill
·
Rhai adeiladau rhestredig yn yr ardal ac felly angen
cydymffurfio a thai lleol eraill
·
Nid yw rendr yn gweddu gyda
cherrig llwyd lleol
(c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y safle wedi ei leoli o fewn y cynllun datblygu
·
Dyluniad yr adeilad wedi ei wneud i sicrhau bod y prif
safle ar lefel un
·
Y byddai yn ymddangos fel adeilad dau lefel o safbwynt
man cyhoeddus
·
Bod nifer o’r gwrthwynebiadau
wedi dod o un cyfeiriad
·
Ei fod
wedi ymateb a thrafod y pryderon gyda’r gwrthwynebwyr
Cynigiwyd ac eiliwyd i
gynnal ymweliad safle
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol:
- Llain Ffordd Bro Mynach, Abermaw, eitem 14. PDF 363 KB
- C17.0069.00.LL - Cynlluniau, eitem 14. PDF 3 MB