Agenda item

Cais ar gyfer codi 5 tŷ yn cynnwys un fforddiadwy

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ar gyfer codi 5 tŷ yn cynnwys un fforddiadwy

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi pum tŷ preswyl deulawr ar lain o dir i gefn annedd presennol oedd wedi ei leoli oddiar ffordd ddi-ddosbarth Ty’n Llan yng Nghricieth. Caniatawyd cais amlinellol ar gyfer yr un bwriad yn flaenorol. Nodwyd bod y tir yn ffurfio rhan o erddi sylweddol ag ar un adeg, cwrt tennis ynghlwm â’r White House.

 

Roedd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys, lledu’r mynediad a ffordd fynediad presennol gan ychwanegu at y ffordd yma a chreu ffordd stad newydd; creu mynedfeydd unigol i’r 5 tŷ oddi ar y ffordd stad gyda gerddi ffurfiol i’w blaen, ochr a chefn; 4 tŷ farchnad agored ac un tŷ fforddiadwy.

 

Nodwyd fod cyfarwyddyd wedi ei dderbyn gan yr uned gyfreithiol y byddai angen llunio cytundeb 106 newydd gan mai cais llawn oedd wedi ei gyflwyno yn hytrach na chais i gytuno materion a gadwyd yn ôl sydd fel arfer yn dilyn caniatâd amlinellol.

 

Cymeradwywyd trefniant y safle gan gynnwys lleoliad y tai a’r trefniant ar gyfer trafnidiaeth ar y cais amlinellol blaenorol. Oherwydd lleoliad y safle ymysg tai eraill, ni ystyriwyd y byddai effaith andwyol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y drefwedd. Ystyriwyd bod trefniant cyffredinol y safle’n parhau yn dderbyniol a bod maint y tai yn addas o safbwynt gweddu gydag edrychiadau cyffredinol yr ardal.

 

Amlygwyd bod coed a llystyfiant wedi ei glirio o’r safle (ond nid y rhai sydd wedi eu diogelu) ac nad oedd tirweddu wedi ei gynnwys fel rhan o’r cais. Ystyriwyd y byddai yn  dderbyniol (ag yn drefniant cyffredin) i gynnwys amod tirlunio er mwyn cytuno ar y manylion hyn maes o law. Gydag amodau priodol er mwyn diogelu’r coed a warchodir, nid oedd gan Swyddog Bioamrywiaeth y Cyngor unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad.

 

Yn unol â’r canllaw cynllunio atodol, ‘Cynllunio a’r Iaith Gymraeg’, cyflwynwyd diweddariad i’r asesiad ardrawiad cymunedol ac ieithyddol a gyflwynwyd gyda’r cais blaenorol a gynhwysai gwybodaeth benodol ynglŷn â’r ardal a phoblogaeth leol ag effaith y datblygiad ar faterion perthnasol. Aseswyd y wybodaeth gan yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd, a chadarnhawyd (fel y gwnaed gyda’r cais amlinellol sydd eisoes wedi ei ganiatáu) na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:-

·           Coed wedi eu clirio - angen sicrhau preifatrwydd i’r tai cyfagos.

·           Ymrwymiad ar  lafar wedi ei wneud gan yr ymgeisydd, ond cais i gynnwys ‘adfer preifatrwydd’ fel amod i’r cais

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·             Ei fod yn barod i baratoi cynllun tirweddu a rhannu’r manylion gyda’r gwrthwynebydd er mwyn sicrhau bod hyn yn bodloni anghenion preifatrwydd

·             Bod cynllun plannu cynhwysfawr ar gyfer y safle

·             Bydd enw i’r datblygiad yn cael ei gymeradwyo

·             Bydd arwyddion dwyieithog yn cael eu gosod ar y safle

·             Cydweithio da gyda’r swyddogion i sicrhau bod y datblygiad yn cwrdd â pholisïau

·             Bod ganddo barch at ei waith ac y byddai yn defnyddio llafur lleol

 

ch)    Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb 106 mewn perthynas â’r eiddo fforddiadwy.

 

dd)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod cais y gwrthwynebydd am breifatrwydd drwy dirweddu yn un rhesymol ac y dylid ystyried amod berthnasol i sicrhau hyn

·           A fyddai modd ystyried mwy o dai fforddiadwy? Canran uwch efallai i sefyllfa debyg i’r dyfodol?

 

(d)       Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phreifatrwydd amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod modd llunio Cynllun Rheolaeth i’r safle gan ychwanegu amod bod angen sicrhau bod tyfiant yn ei le i warchod preifatrwydd trigolion cyfagos.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb 106 er mwyn cyfyngu defnydd un o’r tai fel ty fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac i amodau yn ymwneud gyda:

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Deunyddiau gan gynnwys defnydd o lechen naturiol

4. Priffyrdd

5. Gwarchod coed

6. Nodyn Dwr Cymru

7. Tirlunio

8. Manylion triniaethau ffin

9. Tynnu hawliau PD ar yr uned fforddiadwy

10. cynllun rheoli yn ystod cyfnod adeiladu (i gynnyws oriau gweithio/trin ffim dros dro tra’n adeiladu

 

 

 

Dogfennau ategol: